Hanes Dadansoddi Gwallau yn y Gymraeg

21
Hanes Dadansoddi Gwallau yn y Gymraeg Dr Adrian Price, Prifysgol Caerdydd Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Ysgol y Gymraeg, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd CF10 3EU, Cymru, y DU. 029 20876590 [email protected] Abstract O 1968 hyd 1997, gwelwyd nifer o astudiaethau ar wallau’r Gymraeg yn cwmpasu’r iaith gyntaf a’r ail iaith, iaith plant ac iaith oedolion. Tameidiog at ei gilydd yw’r ymchwil, heb ffurfio rhan o unrhyw strategaeth genedlaethol. Fodd bynnag, wrth gasglu’r holl astudiaethau ynghyd y fan hyn, gellir gweld nifer o themâu a phatrymau yn cael eu hailadrodd – pryder ynghylch cywirdeb a phurdeb iaith plant a’r awydd i ddileu gwallau dysgwyr. Gwelir hefyd y math o wallau y deuir ar eu traws yn aml a pha wallau sydd yn gyffredin i’r famiaith a pha rai sydd yn wahanol. 1 Dadansoddi Gwallau Mamiaith 1.1 Gwallau Plant 1

Transcript of Hanes Dadansoddi Gwallau yn y Gymraeg

Hanes Dadansoddi Gwallau yn y Gymraeg

Dr Adrian Price, Prifysgol Caerdydd

Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Ysgol y

Gymraeg, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa

Colum, Caerdydd CF10 3EU, Cymru, y DU.

029 20876590 [email protected]

Abstract

O 1968 hyd 1997, gwelwyd nifer o astudiaethau ar wallau’r

Gymraeg yn cwmpasu’r iaith gyntaf a’r ail iaith, iaith plant

ac iaith oedolion. Tameidiog at ei gilydd yw’r ymchwil, heb

ffurfio rhan o unrhyw strategaeth genedlaethol. Fodd bynnag,

wrth gasglu’r holl astudiaethau ynghyd y fan hyn, gellir gweld

nifer o themâu a phatrymau yn cael eu hailadrodd – pryder

ynghylch cywirdeb a phurdeb iaith plant a’r awydd i ddileu

gwallau dysgwyr. Gwelir hefyd y math o wallau y deuir ar eu

traws yn aml a pha wallau sydd yn gyffredin i’r famiaith a pha

rai sydd yn wahanol.

1 Dadansoddi Gwallau Mamiaith

1.1 Gwallau Plant

1

Yn 1982 cynhaliwyd arolwg cenedlaethol o sgiliau ysgrifennu

Cymraeg plant cynradd mamiaith gan y Sefydliad Cenedlaethol er

Ymchwil i Addysg. Mae eu hadroddiad yn cynnwys atodiad am

wallau ysgrifenedig yr is-sampl o 80 o ddisgyblion. Ceir 15

categori o wallau cystrawennol megis 'Y fannod', 'Cenedl

enwau' a 'Lluosog enwau' ynghyd ag enghreifftiau, ond ni

roddir ffigurau amlder. Fodd bynnag, rhoddir tabl amlder pan

droir at wallau treiglo. Caed 693 o wallau treiglo yn yr 80

sgript, cyfartaledd o 4.33 gwall o fewn can gair cyntaf y ddau

ddarn a farciwyd yn ddadansoddol. Dosbarthwyd y gwallau yn 20

categori o dreiglad. Dyma'r 7 pwysicaf:

Tabl 2: Gwallau Treiglo Arolwg SCYA

MATH O WALL CANRANTREIGLAD MEDDAL WEDI ARDDODIAD 24.53TREIGLO DIANGEN 21.65TREIGLAD LLAES AR ÔL 'A' 8.37TREIGLAD MEDDAL AR ÔL FFURF

GRYNO'R FERF

6.64

TREIGLAD MEDDAL AR ÔL CYSTRAWEN

ARDDODIADOL

5.19

TREIGLAD MEDDAL AR ÔL ENW

BENYWAIDD

4.76

TREIGLAD MEDDAL ENW BENYWAIDD AR

ÔL Y FANNOD

4.04

2

Ceir nifer o gyfeiriadau at wallau plant yn adroddiadau

Arolygwyr Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, cyffredinol iawn yw'r

disgrifiad, e. e., y darn hwn o adroddiad yr Arolygaeth ar

Ysgolion Cymraeg Caerdydd (1984):

Y mae eu hymatebion yn gynyddol lai dibynnol ar eiriau Saesneg ac nid ywcystrawen yr iaith honno mor amlwg yn y cydadwaith a ddigwydd rhwng athrawon adisgyblion.

Rhestrir gwallau'n unig:

...camddefnyddio rhifolion (dau merch), neu ragenwau fel hwn/hon (gêm hwn, bwrddhon), yn ffurfiau anghywir 'bod' (roedd fi/ni), ansicrwydd gyda'r arddodiad (amdan,mewn fe), hepgor y rhagenw blaen ac ati, gan gamdreiglo a chamsillafu'n bur amlhefyd.

Ymchwiliodd Jones (1984) i’r defnydd o ragenwau personol

(ti/chi) ymhlith un grŵp o Gymry mamiaith 11 oed yng Nghlwyd a

grŵp arall o dair ysgol Gymraeg yn Ne Morgannwg. Cafodd fod

patrwm pendant o ddefnyddio'r rhagenwau ymhlith plant Clwyd,

patrwm llai pendant ymhlith plant I1 De Morgannwg, ond nad

oedd fawr ddim patrwm cyson ymhlith plant I2 De Morgannwg. Y

casgliad oedd nad oedd y disgyblion I2 wedi datblygu defnydd

cyson, gan nad oedd ganddynt fodel cyson i'w ddilyn yn iaith

eu cyd -ddisgyblion I1. Nodai'r rhieni Cymraeg yr ysgolion hyn

ei bod yn ymddangos fod eu plant yn meddu ar ddau gywair i'w

Cymraeg, un yn y cartref ac un i'w ddefnyddio gyda'u cyfoedion

ail-iaith. Ymddangosai fod y plant I1 yn mabwysiadu elfennau o

ryngiaith y dysgwyr er mwyn cydymffurfio â hwy, gan mai

hwythau oedd yn y mwyafrif. Prif nodweddion cywair ysgol y

plant I1 oedd:

1. Cenedl enwau anghywir

2. Methu â threiglo

3

3. Defnyddio'r gorberffaith yn lle'r gorffennol.

Credai Jones fod goblygiadau pwysig i'r broses hon o

gymhwyso iaith ymysg plant I1:

Mae'n lleihau'r angen i'r siaradwr Rhyngiaith gynyddu'n uwch na gwastadarbennig o fedredd...Yn wir, mae aros ar ryw lefel o fedredd oherwydd diffygcymhelliad yn nodwedd adnabyddus o siaradwyr ail-iaith.

Gwnaeth Powell (1987) astudiaeth o wallau Cymraeg

ysgrifenedig a llafar disgyblion 11 oed mewn dwy ysgol

gynradd. Yr oedd hyn yn ymateb i nifer o ofidiau ynghylch

safon iaith plant yr Ysgolion Cymraeg Penodedig, er gwaethaf

eu llwyddiant. Un achos oedd y newid yng nghefndir iaith y

disgyblion. Ym Morgannwg erbyn 1987 deuai'r mwyafrif o

aelwydydd Saesneg. A dweud y gwir, o holl ddisgyblion cynradd

Cymru a allai siarad Cymraeg yn 1984, yr oedd ychydig dros

hanner ohonynt yn ddisgyblion ail iaith, a chynyddu oedd y

tueddiad hwnnw. Cyn 2050 byddai mwyafrif y siaradwyr Cymraeg o

bob oedran yn ei defnyddio fel ail iaith. Hwyrach, felly, mai

iaith Ysgolion Cymraeg yr wyth degau fyddai iaith lafar

nodweddiadol yr unfed ganrif ar hugain. Casglwyd y gwallau o

sampl o waith ysgrifenedig a llafar gan 34 o blant mewn dwy

ysgol. Dosbarthwyd y gwallau dan dri phen sef Cystrawen,

Treiglo a Sillafu. Wedyn, dangoswyd y gydberthynas rhwng

cefndir ieithyddol plant a'r cyfanswm o wallau a gyflawnwyd

ganddynt. Ymddangosai fod cefndir yn dylanwadu'n fwy ar

gystrawen lafar nag ar agweddau iaith eraill. Crybwyllwyd fod

gwahaniaeth diddorol rhwng Cymraeg llafar a Chymraeg

ysgrifenedig y sampl. Gellid disgrifio eu Cymraeg llafar yn

rhyngiaith.

4

Unwaith eto, yn wyneb pryderon rhieni ac athrawon fod

Cymraeg plant cynradd yn mynd yn fwyfwy gwallus oherwydd

dylanwad yr iaith Saesneg, gwnaeth Jones (1988) astudiaeth o

wallau mewn iaith plant. Yn gyntaf, diddorol yw sylwi ar ei

ddosbarthiad o wallau:

1. Gwallau sy'n ymwneud â'r system ramadegol

2. Gwallau yn y ffordd y mae brawddegau'n cael eu cadwyno mewn

testun

3. Gwallau mewn cyfathrebu

4. Gwallau a ddosberthir yn ôl y defnyddwyr a'r cyd-destun

sefyllfaol

camgymeriadau dysgwyr

gwallau arddull

gwallau llafar plant

Crynhoir dosbarthiad o brif brosesau'r newidiadau yn

iaith y plant a astudiwyd yn y tabl canlynol:

Tabl 3 : Dosbarthiad o Brif Brosesau'r Newidiadau yng Nghymraeg Llafar Plant Cynradd

cysoni syml-

eiddio

dynodi

dwbl

Saesne

g

aneglu

rBrawddegau Meddiannolgoddrych amhendant +goddrych pendant +Rhagenwau Meddiannol

neu Flaen

+

5

Brawddegau Unoliaethol

a Disgrifiadol

+

Terfyniadauberfol +gorchmynnol +?arddodiaid +ansoddeiriau + + +Achos/effaith +Negyddumae +heb +berfenwau cadwynol +Geiriau Mesur a

Geiriau Penodii gyd +rhain a hwn +?Berfenwau Cadwynol +?Parhad +Berfenwau Cyflawn ac

Anghyflawn

+

Ffurfiau Lluosog + +Amser Gramadegol +?dyfodolafrealArddodiaid yn Dilyn

Gwahanol Eiriau

+?

lleoliadoltraethiadolYN/MEWN/I FEWN (I) +?

6

Pwyslais Cadarnhaol +Geirfaol +

O edrych ar y tabl uchod, gellir gweld mai prosesau

rhesymegol y tu mewn i ramadeg yr iaith Gymraeg ei hun, fel

cysoni a symleiddio, sydd yn achosi y rhan fwyaf o'r

newidiadau. Rhaid cydnabod, fodd bynnag, fod yr iaith Saesneg

yn gefndir i'r rhan fwyaf o'r amrywiadau hefyd.

Yr oedd y sampl yn cynnwys cyfanswm o 79 o blant, 59 o

blant Cymraeg iaith-gyntaf, 12 o blant Cymraeg ail-iaith a 8 o

blant heb fanylion am eu cefndir ieithyddol. Amcangyfrifwyd

mynychder y 22 o batrymau a oedd yn cael eu hastudio.

Cyfrifwyd, wedyn, mai pedwar patrwm yn unig a oedd â dros

hanner eu hamrywiadau yn neilltuol (h. y., yn wallus):

patrymau cadwynol, gyda goddrych (heb gynnwys PEIDIO);

brawddegau meddiannol, pendant; rhagenwau blaen/ôl; ac YN/I

FEWN I traethiadol. Y newidiadau mwyaf ymsefydlog yn iaith y

plant oedd hepgor y rhagenw blaen a defnyddio fi yn lle (d)w

i. Yn ogystal, ymddangosai nad oedd plant I2 yn gyfrifol am y

patrymau neilltuol ond, yn hytrach, codent y rhain oddi wrth y

plant brodorol. Yr oedd y rhan fwyaf o'r patrymau yn dangos

datblygiad cyson yn eu newid o fod yn safonol i fod yn

neilltuol, gan amrywio o YN : I FEWN I traethiadol, ar y naill

law, a oedd yn hollol safonol ei ddefnydd, i DAL I : DAL YN a

HEB a phatrymau negyddol, a oedd yn hollol neilltuol, ar y

llaw arall.

7

1.2 Adnabod Gwallau

Lluniodd Bellin (1976, 1984) brawf dynwared brawddegau i

ymchwilio i synnwyr gramadegiad plant o safbwynt y treigladau.

Canolbwyntiodd ar y defnydd o Dreiglad Meddal yng ngwrthrych

uniongyrchol y ferf gryno. Fodd bynnag, cafwyd nifer o

broblemau gyda'r math hwn o brawf, e.e., newidiai'r plant y

ferf gryno i un beriffrastig yn eu hymateb. Yn ogystal â hyn,

nid yw mor addas ar gyfer oedolion gan eu bod yn dueddol o

ailadrodd brawddeg wallus, hyd yn oed ar ôl sylwi ar y gwall

bwriadol. Felly, argymhellodd Bellin y dylid llunio prawf

adnabod gwallau. Aeth Ball (1984-85) ati i wneud hyn. Sylwodd

fod tri phrif fath o wall yn bosibl yn y defnydd o dreigladau:

Hepgor y treiglad

Camffurfio treiglad

Ychwanegu treiglad

Nododd fod y gyfnewidioldeb fwyaf yn digwydd yn y defnydd

o Dreiglad Llaes a Threiglad Trwynol. Gyda hyn mewn cof,

rhoddwyd rhestr o frawddegau at ei gilydd, rhai yn cynnwys

gwallau a rhai yn gywir. Cynhwysai'r gwallau ddefnydd o

Dreigladau Llaes a Thrwynol, ynghyd â rhai gwallau eraill.

Rhoddwyd y prawf i 8 siaradwr brodorol a chafwyd mai dim ond

ychydig dros hanner y gwallau yn y Treiglad Llaes a nodwyd,

tra canfuwyd 87.5% o wallau Treiglad Trwynol. Mae hyn yn

dangos fod Treiglad Llaes a Threiglad Trwynol yn cael eu trin

ar wahân o safbwynt medredd, er eu bod ill dau yn newidion.

Mae'r canlyniadau yn awgrymu fod statws y Treiglad Llaes yn

ansefydlog ym medredd y siaradwyr, tra bo'r Treiglad Trwynol

8

yn rhan o fedredd y siaradwyr, er nad ydyw, am resymau

anieithyddol, yn ymddangos yn gyson ym mherfformiad y

siaradwyr.

2 Gwallau Dysgwyr

2.1 Dadansoddiad Cyferbynnol

Cyn bod sôn am ddadansoddi gwallau yr oedd dadansoddi

cyferbynnol mewn bri yn y pumdegau a'r chwedegau. Yr oedd yn

ddull a dyfodd o ymddygiadaeth a'r cysyniad mai mater o

ffurfio arferion yn unig yw dysgu iaith. Felly, pan eid ati i

ddysgu ail iaith yr hyn a ddigwyddai oedd trosglwyddo arferion

y famiaith i'r ail iaith. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, byddai'r

rhan fwyaf o'r gwallau a wneid wrth ddysgu ail iaith yn

ganlyniad ymyrraeth negyddol o'r iaith gyntaf. Yn unol â hyn,

pe gwneid astudiaeth a fyddai'n cyferbynnu patrymau'r iaith

darged â phatrymau'r famiaith, byddai modd darogan y rhan

fwyaf o wallau y byddai dysgwyr yn debygol o'u gwneud. Yn

wyneb hyn i gyd galwodd Jones (1965) am ddadansoddiad

cyferbynnol o Gymraeg a Saesneg, gan ddatgan am y dysgwr:

ei famiaith yw ei fowld parod, ac i mewn i siâp honno yr arllwysa'r morffemau a'rcystrawennau newydd.

2.2 Dadansoddiad Gwallau

Cafwyd disgrifiad eithaf manwl o faes dadansoddi gwallau gan

Collins (198?: 27-42) a lluniodd deipoleg gwallau yn seiliedig

ar Cywiriadur Cymraeg gan Morgan D. Jones (1965).

9

2.3 Caffael y Gymraeg gan Blant Ail-iaith

Gwnaeth Price (1968) astudiaeth dros gyfnod o chwe mis ar sut

yr oedd 21 o blant Saesneg eu hiaith yn caffael Cymraeg.

Adroddodd fod y plant yn cynhyrchu cystrawennau Ymadrodd Enwol

Cymraeg a oedd yn adlewyrchu trefn geiriau'r Gymraeg yn

hytrach na'r Saesneg. Hynny yw, adlewyrchent strwythur I2 yn

hytrach na I1. Cesglid y data bob dydd gan athro yn yr

ystafell ddosbarth a gymerai nodiadau o lefarynnau'r plant ar

wahanol adegau yn ystod y dydd. Mae'r tabl canlynol yn

cyflwyno casgliadau Price:

Tabl 1: Trefn Geiriau mewn Cystrawennau Ymadrodd-enwol Ansoddeiriol a Meddiannol

CYMRAEG (I2)

Patrwm Lleferyn

Enw+Ansoddair blodyn coch

Enw+Ansoddair+Ansoddair cyw bach melyn

Meddianedig+Meddiannwr esgidiau Dadi

Meddianedig+Ansoddair+Medd

iannwr

blodyn gwyn Karen

Meddianedig+Penderfynydd+M

eddiannwr

cadair y babi

SAESNEG (I1)

Patrwm Enghraifft

Ansoddair+Enw a red flower

Ansoddair+Ansoddair+Enw a little, yellow chick

10

Meddiannwr+Meddianedig Daddy's shoes

Meddiannwr+Ansoddair+Meddi

anedig

Karen's white flower

Penderfynydd+Meddiannwr+Me

ddianedig

the baby's chair

Ni chymharodd Price strwythurau caffael Cymraeg ail-iaith

â rhai iaith-gyntaf yn ei phapur ac felly nid oedd yn bosibl

ategu'r hypothesis fod y ddwy broses yn debyg iawn yn eu

hanfod.

2.4 Dadansoddi Gwallau Cymraeg i Oedolion

Gwnaeth Evans (1986) y dadansoddiad canlynol o wallau yn

yr Arholiad Safon Gyffredin:

11

0

20

40

60

80

100

120

140

0

20

40

60

80

100

120

140

G a b c ch d dd e f ff g ng h i j l ll m n o p ph r rh s t th u w y

Nifer Gwallau

P raw f 1983 P raw f 1984

Ffigur 1: Profion Ysgrifenedig 1983 a 1984

Allwedd

G Gwallau

a Treiglo ar ôl arddodiaid

b Treiglo'r ansoddair ar ôl YN

c Treiglo'r ansoddair ar ôl enwau benywaidd

ch Y genidol

d Camddefnyddio arddodiaid

dd Treiglo ar ôl rhifolion

e Y fannod ar ôl llafariaid

f Treiglo gwrthrych y ferf

ff Cenedl rhifolion

g Treiglo ar ôl rhediadau'r arddodiaid

12

ng Treiglo ar ôl cysyllteiriau

h Treiglo ar ôl ansoddair o flaen enw

i Enwau lluosog yn dilyn rhifolion dan 10

j Camddefnyddio rhagenwau

l Treiglo ar ôl y fannod

ll Treiglo berfau ar ôl YN

m Cymysgu BLWYDDYN, BLYNEDD a BLWYDD

n Camddefnyddio YN

o Enwau lleoedd

p Treiglo'r ansoddair ar ôl enwau gwrywaidd/lluosog

ph Rhagenwau mewnol

r Treiglo ar ôl rhagenwau blaen

rh Treiglo enwau ar ôl YN

s Lluosog enwau

t Cymysgu YN a MEWN

th Cymysgu A ac AC

u Cymysgu ARALL ac ERAILL

w Camddefnyddio Y ac YR

y Treiglo'r lluosog ar ôl y fannod

Nododd Evans y gallai dysgwyr, wrth ysgrifennu, wneud

camgymeriadau o bryd i'w gilydd nad oeddynt yn eu gwneud ar

lafar. Wrth ysgrifennu, anghofid nifer o bethau a oedd yn dod

yn naturiol wrth siarad. Ymddangosai geiriau yn gyfan gwbl

wahanol ar bapur, ac yr oedd angen llawer o ofal ar ddysgwyr

nad oeddynt yn arfer ysgrifennu. Yn ogystal, dylid cofio fod

13

tafodiaith yn gallu dylanwadu ar gywirdeb y gwaith

ysgrifenedig am fod sawl ffurf a oedd yn dderbyniol ar lafar

ambell waith yn wallus ar bapur. Felly, disgwylid gwallau pan

fyddai'r dysgwyr yn trosglwyddo eu Cymraeg llafar i'r llyfr

ateb, e. e.:

1. camdreiglo ar ôl cysyllteiriau:

a coed; a farchnad; pan cyrhaeddon ni

2. defnyddio'r rhagenw mewnol:

i ei; i weld ti; pethau i wneud

3. camdreiglo ar ôl rhagenwau blaen:

fy neulu; fy nghwyliau

Arweiniai sŵn y geiriau y dysgwr at ddethol y ffurf gywir

ar lafar, ond ceid esgeulustra yn hyn o beth pan ysgrifennai.

Gellid osgoi hyn trwy ddarllen tros y gwaith yn yr arholiad

ond yr oedd nifer yn cael amser yn brin yn y prawf

ysgrifenedig.

Diddorol iawn yw sylwadau Adroddiadau Arholwyr Haf 1995.

Dyma sylwadau Roberts ar 'Defnyddio'r Gymraeg':

Yr un gwendidau a chamgymeriadau iaith a welir o flwyddyn i flwyddyn.

Nodir y rhai mwyaf cyffredin:

1. bod mae

2. y gystrawen enidol

3. amserau'r ferf a therfyniadau berfau

4. ansicrwydd ynglŷn â bonau rhai berfau

5. mae...dim

14

6. arddodiaid - ar ôl berf a'u rhediad.

Nid oedd pawb yn gyfarwydd â chonfensiynau llythyru. Yn y

Dasg, 'Llenwi Ffurflen', ceid camddefnydd o amserau gorffennol

berfau. Yn ogystal, gwall cyffredin iawn oedd camgymryd

penwythnos am pythefnos.

Ceir sylwadau ar wallau Prawf Ysgrifenedig yr Arholiad

Uwch gan Cennard Davies (1995). Yn y Darn Cofnodol y prif

wendid oedd diffyg meistrolaeth ar y gystrawen amhersonol:

1. Penderfynwyd y cyfarfod cau'r ysgol;

2. Cafwyd dau fachgen eu hanafu;

3. Costiwyd y ffilm;

4. Cafwyd y garej ei dinistrio.

Yn ychwanegol at hyn, cafodd bron pawb a ddewisodd

ysgrifennu am y 'Lladrad o garej yn y dref nos Sadwrn

diwethaf' drafferth i redeg y ferf 'dwyn'. Ar gyfer y Darn

Hunanfynegiannol gwnaed rhestr o'r prif wallau:

1. Ffurfiau lluosog gwallus ar enwau: profiadon, afonau, cyngerddi,

cyfarfodau, golygfau, hancesion.

2. Camddefnydd neu ddiffyg defnydd o'r arddodiad 'i': Tu allan y

neuadd; tu ôl y tŷ; heibio'r gornel; penderfynwyd i fynd.

3. Diffyg gafael ar y gystrawen enidol: y Cadeirydd y Pwyllgor Addysg;

yn y neuadd y pentref; y cefn y car; yr Ysgol Gynradd Llangors.

4. Cenedl enwau: dwy gant o bunnau; torf mawr; yr ardal hwn; ffilm

llwyddiannus; dau ysgol; y pabell; iaith cyntaf.

5. Arddodiaid yn dilyn berfenwau / defnyddio arddodiad lle nad

oes angen: cyrraedd yng Nghaerdydd; ymweld yr ysgol.

15

6. Trafod rhifolion cyfansawdd: pump ar hugain punt; pedwar ar ddeg

pâr o gwdihŵs; saith ar hugain milltir.

7. Camddefnyddio 'os' a 'pe': Os basai fe; os pe bawn i; os tasai.

8. Camddefnyddio 'rhai' / 'peth' - rhai o'r arian. Hefyd 'yn' /

'mewn' - mewn yr ysgol.

Yr oedd Ó Dochartaigh (1995) yn ymgynghorydd ar Brosiect

RHUGL yn Uned Gwybodaeth Dechnegol a Chymraeg Adran Seicoleg

Prifysgol gogledd Cymru Bangor. Tyfodd y prosiect o'r gwaith a

wnaethpwyd ar gyfer CySill, y sillafydd Cymraeg. Parhaodd o

1992 i 1995 a chrëwyd sillafydd a all adnabod geiriau mewn

ffurfiau gwahanol: e. e., yn cynnwys treiglad neu hebddo,

lluosog, a ffurfiau berfol gwahanol. Ariannwyd CySill gan

Fwrdd yr Iaith Gymraeg a chytunasant i gynorthwyo gyda syniad

arall a gafodd cyfarwyddydd CySill, y Dr Nick Ellis, ynghylch

caffael y Gymraeg: y posibilrwydd o geisio rhoi adborth i

ddysgwyr cyn gynted ag y bo modd, h. y., yn syth ar ôl iddynt

wneud gwall. O ganlyniad, gellid defnyddio'r cyfrifiadur fel

math o 'diwtor ar y sgrîn'.

Cytunodd BT Cymru i ariannu'r prosiect a phenodwyd

cynorthwy-ydd ymchwil ar gyfer Ph.D., Nadine Laporte o'r

Wladfa. Yn ystod y deunaw mis cyntaf defnyddid myfyrwyr o

ddosbarthiadau Wlpan yr Adran Allanol ac o hydref 1995,

ehangwyd y cynllun i gynnwys myfyrwyr ail-iaith yn eu blwyddyn

gyntaf yn Adran y Gymraeg ym Mangor.

Bu'r rhaglen yn cydweithio â'r cwrs Wlpan a ddefnyddid yn

yr Adran Allanol ac Adran y Gymraeg ym Mangor. Byddai’r

myfyrwyr yn gweithio yn y labordy cyfrifiadureg unwaith yr

16

wythnos ac yn cyfieithu brawddegau i'r Gymraeg ar y

cyfrifiadur. Wedi hynny, gallent holi'r rhaglen i wirio'u

gwaith. Yr oedd y rhaglen yn adnabod gwallau gwahanol fel

colli yn cyn berfenw, camdreiglad, neu wall sillafu ac ehengid

hi i adnabod gwallau newydd fel y deuid ar eu traws. Pan

welai’r rhaglen wall, arhosai a cheisiai ei gywiro, ynghyd â

rhoi awgrym ar y sgrîn, a hwyrach enghreifftiau o'r rheol a

gamddeallwyd.

Ceid trafferth o dro i dro gyda rhai gwallau dysgwyr am

fod y rhaglen wedi'i sylfaenu ar CySill a fwriadwyd ar gyfer

cywiro gwallau iaith-gyntaf. Gobeithid rhoi prawf ar y rhaglen

gyda rhyw gant o fyfyrwyr cyn ei gorffen. Y nod yn y pen draw

fyddai creu rhaglen a fyddai yn addas ar gyfer nifer o gyrsiau

Cymraeg gwahanol.

Profodd Price (1997) ei ddamcaniaeth am wallau

oedolion Cymraeg i oedolion. Yr oedd yn cynnwys nifer o

ddamcaniaethau ystadegol. Yr oedd y rhain fel a ganlyn: (1)

Mae oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn cyflawni gwallau lleol yn

bennaf. (2) Nid oes modd pennu achos i lawer o'r gwallau. (3)

O'r gwallau y mae'n bosibl pennu achos mae’r rhan fwyaf yn

rhai datblygus. (4) Mae gwallau cystrawennol yn fwy niferus na

rhai geiriol. (5) Mae menywod yn cyflawni llai o wallau na

dynion. (6) Nid yw Cymreictod yr ardal lle mae dysgwyr yn byw

yn effeithio ar gywirdeb eu Cymraeg ysgrifenedig. Y brif

ddamcaniaeth oedd y byddai dadansoddiad hydredol o wallau a

gwmpasai Brofion Cymraeg Defnydd Defnyddio Gymraeg ac Uwch

ysgrifenedig yn dangos patrwm datblygus yn y gwallau a

gyflawnwyd.

17

Cafodd tua 135,000 o eiriau o arholiadau Cymraeg i

Oedolion ysgrifenedig eu dadansoddi, gan gynhyrchu rhyw 14,000

gwallau gramadegol a geirfaol. Cafodd pob un o'r damcaniaethau

eu cadarnhau gan y canlyniadau hyn. Cafodd naw deg chwe

chategori o gamgymeriadau eu creu a’u trefnu mewn tacsonomi yn

unol â strategaethau wyneb fel yr argymhellir gan Dulay, Burt

a Krashen. Dangoswyd bod gostyngiad cyffredinol mewn amlder

gwallau rhwng Lefel 4 a Lefel 6, er gwaethaf hierarchaeth yr

aseiniadau ysgrifenedig.

Yr oedd trafodaeth fanwl am y canlyniadau, gan

ddechrau ar lefel strategaeth wyneb, yn dangos bod y

gostyngiad yn amlder y gwallau yn bresennol ym mhob un o'r

strategaethau wyneb er bod cyfradd y gostyngiad yn amrywio.

Yna ceid trafodaeth fanwl ar bob categori gwall a drefnir yn

ôl is-samplau (Defnyddio'r Gymraeg, Lefel Uwch 1a, 1b Safon

Uwch, Safon Uwch 2). Yn gyntaf, yr oedd Hepgoriadau o Brif

Gyfansoddion yn cael eu trafod, ac yna Hepgoriadau o Forffemau

Gramadegol. Crëwyd strategaeth newydd i ddadansoddi gwallau’r

ieithoedd Celtaidd, sef y Hepgor Treigladau, gan eu bod yn

wallau cystrawennol ond nid oeddent yn brif gyfansoddion nac

yn forffemau gramadegol.

Trafodwyd yr amrywiad o fewn y strategaethau

Marcio Dwbl ac Ychwanegu Syml yn. Nodwyd bod Cymru yn gwyro o

batrwm cyffredinol dadansoddi gwallau gan nad oedd unrhyw

dystiolaeth o wallau Ychwanegu Rheoleiddiedig. Er hynny,

gwelwyd enghreifftiau o’r tri math i gyd o Gamffurfiadau, sef

18

Rheoleiddio, Archi-ffurfiau a Ffurfiau Eiledol. Y strategaeth

olaf i'w thrafod oedd y leiaf amlwg, sef Camdrefnu, a oedd yn

cynnwys drysu trefn arferol ac anarferol y frawddeg.

I gloi, datgelwyd cyfradd y newid mewn amlder ar

gyfer pob categori o wallau. Gostyngodd hanner cant a saith o

gategorïau rhwng Lefel Defnyddio’r Gymraeg a Defnyddio’r

Gymraeg Uwch. Yma, yr oedd y dysgwyr yn ymddangos eu bod yn

llwyddiannus wrth fewnoli rheolau iaith yr eitemau dan sylw,

gyda gorgyffredinoli a throsglwyddo iaith yn diflannu.

Ymddangosai fod hyn yn cynrychioli cam olaf caffael iaith.

Ymddangosai fod y cam canolradd yn cynnwys y saith categori o

wallau nad oeddent yn arddangos unrhyw gyfradd newid a oedd yn

ystadegol arwyddocaol rhwng y ddau arholiad. Gallai’r

categorïau hyn fynd ymlaen i ostwng yn y cyfnod Ôl-Safon Uwch

neu ffosileiddio. Yn olaf, cynyddodd 32 categori mewn amlder.

Yr oedd rhain i’w gweld yn cynrychioli cyfnod cychwynnol

caffael iaith, lle yr oedd eitemau iaith newydd (yn enwedig

ffurfiau llenyddol) wedi cael eu cyflwyno a gorgyffredinoli

wedi cynyddu yn yr ymgais i gaffael y rheolau newydd. Yn y

modd hwn, rhoddwyd cliwiau am yr anawsterau ieithyddol yr oedd

dysgwyr yn eu profi yn ystod cwrs astudio Safon Uwch. Y

gobaith oedd y byddai'r mewnwelediadau a ddarparwyd yn

cynorthwyo'r rhai sy'n ymwneud â llunio cwricwlwm neu faes

llafur ar gyfer dysgwyr Lefel 5 a 6. Trafodwyd defnyddiau

ymarferol eraill o'r ymchwil yn cael eu trafod a gwnaed

awgrymiadau ar gyfer ymchwil bellach.

3. Diweddglo

19

Mae mwyafrif mawr y gwaith a gynhyrchwyd yn ail hanner yr

ugeinfed yn rhan o’r traddodiad dadansoddi cyferbynnol, sydd

yn ceisio dileu gwallau, yn arbennig y rhai sydd yn tarddu o

ymyrraeth yr iaith Saesneg. Dim ond gwaith Collins a Price

sydd yn rhan o’r Mudiad Dadansoddi Gwallau, hynny yw, edrych

ar iaith dysgwr fel rhyngiaith ac astudio gwallau er mwyn

datgelu rhywbeth am y broses caffael iaith. Nid oes llawer o

astudiaethau newydd wedi’u cyhoeddi yn y ganrif hon wrth i’r

pwyslais yn awr symud i ddadansoddi disgwrs.

Cyfeiriadau

Arolygwyr Ei Mawrhydi: Arolwg o’r Gymraeg a’r Saesneg ym mhedair ysgol

gynradd Gymraeg Caerdydd (Caerdydd, 1984).

Ball, Martin J.: 'An error recognition test as a measure of

linguistic competence: an example from Welsh', yn: Journal of

Psycholinguistic Research 14, rhif 4 (1984/85) 399-407.

Bellin, W.: 'Psycholinguistics and language learning',

Traethawd Ph. D. (Prifysgol Reading, 1976).

Bellin, W.: 'Welsh phonology in acquisition', yn: Ball, Martin

J. a Glyn E. Jones (golygyddion): Welsh phonology. selected readings

(Caerdydd, 1984).

Collins, Neil: 'Ieithyddiaeth gymwysedig' (Aberystwyth, 198?).

Davies, Cennard / William Basil Davies / M. E. Roberts /

Geraint Wilson-Price: Adroddiadau arholwyr 1995 (Llandaf, 1995).

Evans, Jillian: 'Llunio arholiad safon gyffredin i oedolion

sydd yn dysgu cymraeg fel ail iaith', Traethawd M. Phil. CNAA

(1986).

20

Jones, Bob Morris: Beth yw gwall mewn iaith plant (Aberystwyth,

1988).

Jones, Glyn E.: 'L2 speakers and the pronouns of address in

Welsh', yn: Journal of Multilingual and Multicultural Development 5, 2

(1984) 131-145.

Jones, Morgan D.: Cywiriadur Cymraeg (1965).

Jones, Robert M.: 'Athrylith yr iaith Gymraeg', yn: Trafodion

Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion II (1965) 207-221.

Ó Dochartaigh, Cathair: 'Prosiect RHUGL ym Mangor', yn: Y Tiwtor

(1995) 7.

Powell, Robat G.: 'Astudiaeth o wallau cymraeg ysgrifenedig a

llafar disgyblion 11 oed mewn dwy ysgol gynradd', Traethawd M.

Add. (Prifysgol Cymru, 1987).

Price, A.: 'Dadansoddiad o'r gwallau ysgrifenedig a wneir mewn

arholiadau cymraeg i oedolion', Traethawd Ph. D. (Prifysgol

Morgannwg, 1997).

Price, E.: 'Early bilingualism', yn: Dodson, Carl J. / E.

Price / L. T. Williams (golygyddion): Towards bilingualism

(Caerdydd, 1968).

Rhestr Ffigurau

Ffigur 1: Profion Ysgrifenedig 1983 a 1984

Rhestr Tablau

Tabl 1: Trefn Geiriau mewn Cystrawennau Ymadrodd-enwol

Ansoddeiriol a Meddiannol

Tabl 2: Gwallau Treiglo Arolwg SCYA

Tabl 3 : Dosbarthiad o Brif Brosesau'r Newidiadau yng

Nghymraeg Llafar Plant Cynradd

21