Ffoaduriaid yn byw yng Nghymru: Arolwg o sgiliau, profiadau a rhwystrau i gynhwysiant

70
Arolwg o sgiliau, profiadau a rhwystrau i gynhwysiant Medi 2009 Ffoaduriaid yn byw yng Nghymru

Transcript of Ffoaduriaid yn byw yng Nghymru: Arolwg o sgiliau, profiadau a rhwystrau i gynhwysiant

Arolwg o sgiliau, profiadau a rhwystrau i gynhwysiant

Medi 2009

Ffoaduriaid yn byw yng Nghymru

ISBN 978 0 7504 5383 7

© Heaven Crawley 2009

CMK-22-04-045(368)

E4060910

Am ragor o gopïau, cysylltwch â: Canolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo

Adeilad WallacePrifysgol Abertawe

Parc SingeltonAbertawe SA2 8PP

E-bost: [email protected]

Ffoaduriaid yn byw yng Nghymru:

Arolwg o sgiliau, profiadau a rhwystrau i gynhwysiant

Heaven Crawley a Tina CrimesCanolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo

Prifysgol Abertawe

Cynnwys Diolchiadau Ynglŷn â’r awduron Rhestr o Ffigyrau Rhestr o acronymau Crynodeb gweithredol Adran 1 Cefndir ac amcanion yr arolwg 1

1.1 Y boblogaeth ffoaduriaid yng Nghymru 1 1.2 Cyd-destun polisi 4 1.3 Nodau ac amcanion yr arolwg 6 1.4 Materion methodolegol 8 1.5 Nodweddion y boblogaeth sampl 11

Adran 2 Tai 17

2.1 Pwysigrwydd tai 17 2.2 Cyflwr llety a thai 18

Adran 3 Sgiliau, cymwysterau a gallu ieithyddol 21

3.1 Pwysigrwydd addysg ac iaith 21 3.2 Cymwysterau addysgol 22 3.3 Sgiliau a hyfforddiant Saesneg 23

Adran 4 Cyflogaeth 27

4.1 Cyflogaeth fel mecanwaith ar gyfer integreiddio 27 4.2 Profiadau o’r farchnad lafur 28 4.2 Gwirfoddoli 29

Adran 5 Iechyd a lles 31

5.1 Iechyd corfforol a meddyliol 31 5.2 Mynediad i driniaeth feddygol 33

Adran 6 Hiliaeth a gwahaniaethu 35

6.1 Profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu 35 6.2 Teimladau ynghylch diogelwch 38 6.3 Integreiddiad cymdeithasol 39 6.4 Teimladau am fyw yng Nghymru 41

Adran 7 Casgliadau a goblygiadau polisi 43 7.1 Prif gasgliadau’r adroddiad 43

7.2 Goblygiadau polisi 45 Cyfeiriadau 47

Diolchiadau Ariannwyd y prosiect hwn gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (Ceiswyr Lloches, Ffoaduriaid a Mudwyr), Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym yn ddiolchgar i bob un o’r arianwyr, ond yn arbennig i Anne Hubbard o Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru am nodi a phwysleisio’r angen i gyflawni’r prosiect hwn. Diolch i Mike Lewis a Kate Smart (Cyngor Ffoaduriaid Cymru) a Carol-Ann Mooney a Robert Willis (Llywodraeth y Cynulliad) am sylwadau ar ddrafftiau cynharach o’r adroddiad hwn. Cefnogwyd yr ymchwil gan Grŵp Cynghori a gyfrannodd tuag at ffurfio holiadur yr arolwg a chynorthwyo gyda’r broses o nodi cyfranwyr posibl. Roedd y Grŵp Cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr o Wasanaethau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill The Parade, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Asiantaeth Ffiniau’r DU. Rydym yn ddiolchgar am gymorth staff yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru i hwyluso’r cyfweliadau gyda ffoaduriaid. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth nifer o sefydliadau cymunedol ffoaduriaid sydd wedi cynorthwyo’r ymchwil hwn. Yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, rhaid diolch yn arbennig i’r rhai a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg ac a rannodd eu hamser a phrofiadau’n hael. Gobeithiwn y bydd yr arolwg hwn yn cyfrannu tuag at well dealltwriaeth o sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, a thuag at ymdrechion polisi gwell i sicrhau y gall ffoaduriaid gymryd rhan gyflawn yng nghymdeithas Cymru.

Ynglŷn â’r awduron Mae’r Athro Heaven Crawley yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Heaven wedi cyflawni ymchwil ar a dadansoddi amrywiol agweddau polisi ac ymarfer lloches y Deyrnas Unedig yn y 15 mlynedd diwethaf, yn cynnwys materion rhyw yn y broses lloches, mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol, dull o gynnal cyfweliadau lloches mewn porthladdoedd, dargadw plant sy’n ceisio lloches, anghydfod am oed a’r broses o asesu oedran a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar agweddau’r cyhoedd tuag at loches a cheiswyr lloches. Cyn hyn roedd Heaven yn bennaeth ymchwil lloches yn y Swyddfa Gartref, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, a Chyfarwyddwr AMRE Consulting. Gellir cysylltu â hi yn [email protected]. Mae Tina Crimes wedi gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo. Mae ganddi radd Dosbarth Cyntaf mewn Polisi Cymdeithasol a diddordeb arbennig yn y broses o integreiddio mewnfudwyr. Am y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo Mae’r Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo yn Ganolfan Ymchwil amlddisgyblaeth wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Sefydlwyd y Ganolfan yn 2007. Ni fu materion lloches a mudo erioed mor amlwg ar yr agenda gwleidyddol a pholisi. Mae yna gyfleoedd a heriau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol o ganlyniad i’r symudiad heb ei ail o bobl yn ceisio amddiffyniad, cyflogaeth ac aduniad teuluol. Mae gan y cyfleodd a heriau hyn ddimensiynau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn y cyd-destun hwn cenhadaeth y Ganolfan yw annog cyfnewid syniadau am loches a mudo a sicrhau fod yna dystiolaeth empirig am natur ac achosion mudo, yr effeithiau ar wahanol wledydd a chymunedau ac effeithiau – bwriadol a difwriad – ymatebion polisi i danategu ymatebion polisi. Mar tri phrif egwyddor yn tanategu arddull y Ganolfan: ymrwymiad i arddull seiliedig ar hawliau i fudoledd; dymuniad i ddeall ac adlewyrchu profiad y mudwyr; a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd ymchwil a dadansoddiad perthnasol i bolisi. Mae’r Ganolfan yn arbennig o awyddus i sicrhau fod ei ymchwil yn hygyrch i ddetholiad eang o gynulleidfaoedd ac yn amserol a pherthnasol i bolisi. Mae aelodau’r Ganolfan yn cydweithio’n agos â llunwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau a materion, dadansoddi materion gwaelodol, modelu effeithiau polisi a gwerthuso deilliannau polisi. Ceir rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo ar www.swansea.ac.uk/cmpr neu trwy anfon e-bost at [email protected] i gael eich ychwanegu i’r rhestr bostio a derbyn manylion ymchwil a digwyddiadau yn y dyfodol.

Rhestr o Ffigwrau Ffigwr 1 Nifer ceiswyr lloches a wasgarwyd yng Nghymru yn ôl

cenedlaetholdeb, diwedd Mai 2009 Ffigwr 2 Dangosyddion fframwaith integreiddio Ffigwr 3 Gwlad tarddiad ymatebwyr Ffigwr 4 Oed yr ymatebwyr Ffigwr 5 Ethnigrwydd ymatebwyr Ffigwr 6 Crefydd neu gredo ymatebwyr Ffigwr 7 Sgiliau Saesneg (cyn ac ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig) Ffigwr 8 Iechyd corfforol cyn ac ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig Ffigwr 9 Iechyd meddyliol cyn ac ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig Ffigwr 10 Pa mor ddiogel ydych yn teimlo yn yr ardal ble rydych yn byw? Ffigwr 11 Faint ydych chi’n poeni y bydd rhywun yn ymosod arnoch yn gorfforol

neu’n eich sarhau/poeni? Ffigwr 12 Cysylltiadau cymdogaeth Rhestr o acronymau NASS Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches RIES Gwasanaeth Integreiddio Ffoaduriaid a Chyflogaeth LlCC Llywodraeth Cynulliad Cymru WRC Cyngor Ffoaduriaid Cymru WSMP Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru UKBA Asiantaeth Ffiniau’r DU

Crynodeb gweithredol Cefndir a chyd-destun polisi 1. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gefndir, amgylchiadau ac anghenion ffoaduriaid (a ddiffinnir fel y rhai sy’n cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig) sy’n byw yng Nghymru. Diddwythwyd llawer o’r hyn a wyddom o wybodaeth am geiswyr lloches yn byw yng Nghymru, y bydd cyfran ohonynt (yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol, dyddiad cyrraedd a gwlad tarddiad) yn derbyn caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig ac yn dewis parhau i fyw yng Nghymru. 2. Tan 2001, lefel gymharol isel o geiswyr lloches a ffoaduriaid oedd yn dewis setlo yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Cynyddodd y nifer o geiswyr lloches a ffoaduriaid pan sefydlwyd Cymru fel ardal wasgaru. Ar ddiwedd Mai 2009, roedd cyfanswm o 2,322 o geiswyr lloches yn byw yng Nghymru. Roedd dros hanner (56.9%) yn byw yng Nghaerdydd, tra bod gan Abertawe 562 o geiswyr lloches (24.2%), Casnewydd 364 (15.7%), a Wrecsam gyda dim ond 74 (3.2%). Daw bron i dri chwarter (71.1%) y rhai a ddosbarthwyd i Gymru o naw gwlad tarddiad: Affganistan, China, Eritrea, Iran, Irac, Pacistan, Somalia, Y Swdan a Zimbabwe. 3. Mae tystiolaeth fod y boblogaeth o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru yn wahanol i’r boblogaeth ehangach o ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig mewn rhai ffyrdd pwysig. Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi eu crynhoi’n fwy mewn nifer gyfyngedig o drefi a dinasoedd ac maent yn dod o amrediad mwy cyfyngedig o genhedloedd a grwpiau ieithyddol. Awgryma tystiolaeth bresennol mai ychydig iawn o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dewis dod i Gymru’n benodol, ond ychydig a wyddom am lifoedd mudo eilaidd i ac o’r wlad. 4. Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad (LlCC) ei Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid ym Mehefin 2008. Mae’r strategaeth yn sefydlu gweledigaeth LlCC o gynnwys ffoaduriaid yng Nghymru ac mae’n ceisio cefnogi a galluogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas. Ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr sy’n gysylltiedig â’r broses o integreiddiad, mae’r diffyg gwybodaeth ar gefndir, anghenion a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru yn broblem gan ei bod yn ei gwneud yn anodd darparu cefnogaeth a gwasanaethau priodol a harneisio sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid. Nodau ac amcanion yr arolwg 5. Mae’r arolwg hwn o ffoaduriaid yn byw yng Nghymru’n cynrychioli ymateb pragmatig i’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael i hysbysu polisi ac ymarfer parthed integreiddiad ffoaduriaid a materion yn ymwneud â chydlyniad cymunedol. Dyfeisiwyd yr arolwg mewn ymgynghoriad â llunwyr polisi ac ymarfer ac mae wedi ei leoli yn y fframwaith ar gyfer meddwl am faterion integreiddiad sydd wedi eu datblygu gan Ager a Strang (2004). Mae’r fframwaith yn nodi nifer o ‘ddynodwyr a moddau’ allweddol ar gyfer cyrraedd a mesur y broses hon o integreiddiad. 6. Roedd yr arolwg yn cynnwys cyfanswm o 74 cwestiwn (rhai caeedig a phen agored) a fwriadwyd i gipio gwybodaeth ar nodweddion demograffig ymatebwyr a’u hamgylchiadau a phrofiadau o fyw yng Nghymru, yn cynnwys parthed tai,

cefnogaeth, sgiliau, cymwysterau, cyflogaeth ac iechyd a lles. Roedd yno hefyd nifer o gwestiynau ar faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn cynnwys profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu. 7. Fe gymrodd cyfanswm o 123 o ffoaduriaid ran mewn cyfweliadau ar gyfer yr arolwg a gynhaliwyd rhwng Awst a Medi 2008. Prif wledydd y rhai a gymrodd ran yn yr arolwg oedd Eritrea, Swdan, Irac, Somalia, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Iran, Twrci, Algeria a Zimbabwe. Mae tua 70% o ymatebwyr yr arolwg yn 25-44 oed. Ceir cydbwysedd o ran ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd. Mae hanner yn disgrifio eu hunain fel Mwslemiaid, ac ychydig dan hanner (43.1%) fel Cristnogion, gyda chyfran lai o Sikhiaid, Bwdhyddion a Hindŵiaid. Cafodd cyfran sylweddol (44%) o’r ymatebwyr statws yn 2008, gydag un rhan o bump arall yn derbyn statws yn 2007. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o ‘clirio ôl-groniad’ neu ‘raglen etifeddol’ y Swyddfa Gartref. Mae bron i hanner y rhai a gymrodd ran yn yr arolwg wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ers dros bum mlynedd ac mae traean wedi bod yn byw yng Nghymru am hanner y cyfnod hwnnw. Gwasgarwyd y rhan fwyaf i Gymru, ond fe symudodd deg o’r ymatebwyr (8.1%) i Gymru wedi derbyn statws ffoadur. 8. Ymdrechwyd i sicrhau fod ffoaduriaid o amrywiaeth eang o wledydd a chefndiroedd yn cymryd rhan. Oherwydd diffyg gwybodaeth llinell sylfaen, mae’n amhosibl gwybod p’un a yw’r ymatebwyr yn cynrychioli poblogaeth ffoaduriaid ehangach Cymru. Er bod cyfyngiadau i’r arolwg, mae serch hynny’n darparu gwybodaeth arwyddocaol newydd am brofiadau ffoaduriaid yn byw yng Nghymru, ac am ddulliau posibl o gasglu gwybodaeth yn y dyfodol. Tai 9. Ystyrir fod tai yn gonglfaen i integreiddiad llwyddiannus ffoaduriaid. Mae cyfran sylweddol (89.4%) o ffoaduriaid a gymrodd rhan yn yr arolwg yn byw mewn llety wedi ei rentu, gyda’r cyngor neu awdurdod lleol yn landlord i ddau draean. Ychydig iawn o’r ffoaduriaid sy’n berchen ar eu heiddo eu hunain (4.1%). Nid oes gan rai o’r ffoaduriaid eu cartref eu hunain, ond maent yn aros gyda theulu neu ffrindiau, neu’n byw mewn llety dros dro neu hostel. Mae eraill fwy neu lai’n ddigartref. Gallai hyn fod o ganlyniad i’r gofyniad fod ganddynt ‘gysylltiad gwirioneddol’ gyda’r ardal maent yn byw ynddi er mwyn cael hawl i wasanaethau i’r digartref. 10. Er bod un o bob pump o’r ffoaduriaid wedi dweud nad oes ganddynt unrhyw broblemau gyda’u llety, disgrifiodd y mwyafrif helaeth broblemau tai sylweddol yn cynnwys diffyg parhauster (36.6%), cyflwr eu llety (28.5%), dim digon o ystafelloedd (20.3%), problemau gyda chymdogion neu gymuned (14.6%), a’r gost (13%). Rhoddodd ymatebwyr sylwadau helaeth ar ansawdd eu llety, gyda nifer yn disgrifio problemau o ran cyflwr yr eiddo (yn fwyaf amlwg oedd lleithder, plâu o bryfed a llygod, ystafelloedd a charpedi budur a threfniadau byw, yn arbennig gorlenwi a diffyg preifatrwydd). Mynegwyd pryderon am agwedd ac ymddygiad preswylwyr eraill tuag atynt a’u plant hefyd.

Addysg a hyfforddiant 11. Mae addysg yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cyflogaeth a chysylltiadau cymdeithasol ehangach. Mae casgliadau’r arolwg yn gyffredinol gyson gydag astudiaethau blaenorol a ddaeth i’r casgliad fod gan ffoaduriaid fwy o gymwysterau na’u cyfoedion sy’n ddinasyddion o’r Deyrnas Unedig. Roedd gan dri chwarter ymatebwyr dystysgrif addysg ysgol uwchradd ac roedd gan 43.9% arall ddiploma. Roedd dros chwarter wedi derbyn gradd Prifysgol yn eu gwlad tarddiad gyda 8.9% pellach yn meddu ar gymhwyster ôl-raddedig. 12. Mae traean o’r rhai a arolygwyd wedi cael cymhwyster yn yr iaith Saesneg ac mae 13.8% wedi cael gradd Prifysgol neu gymhwyster ôl-raddedig (8.1% a 5.7% yn y drefn honno). Roedd dros draean yr ymatebwyr ar gyrsiau addysgol ar adeg cyflawni’r arolwg hwn. 13. Mae hanner yr holl ymatebwyr wedi cyflawni cyrsiau hyfforddiant ers cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn cynnwys hyfforddiant wagen fforch godi, hylendid bwyd, TGCh, cymorth cyntaf, iechyd a diogelwch, cwnsela, homeopathi, arlwyo a gwaith-chwarae. Mae’r lefelau o hyfforddiant mae ffoaduriaid yng Nghymru yn cyflawni yn sylweddol uwch na’r hyn a adroddir mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 14. Disgrifiodd nifer o ffoaduriaid gychwyn – neu fod eisiau cychwyn – cyrsiau addysgiadol neu gyfleoedd hyfforddiant ond nad oeddynt yn gallu gwneud neu’n methu cwblhau eu hastudiaethau oherwydd afiechyd neu anawsterau gyda chyllid ac/neu ofal plant a chyfrifoldebau domestig. Sgiliau Saesneg 15. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd sgiliau ieithyddol Saesneg ar gyfer y broses o integreiddio ffoaduriaid. Adlewyrchir hyn yn y pwyslais mae’r Swyddfa Gartref a LlCC yn rhoi ar ddarpariaeth hyfforddiant ieithyddol Saesneg (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Mae ymchwil blaenorol wedi dangos fod sgiliau iaith Saesneg a adroddir gan ffoaduriaid yn gyffredinol isel, ond fod y sgiliau hyn yn gwella’n sylweddol gydag amser. Mae casgliadau’r arolwg hwn yn cyd-fynd â’r casgliad hwn gan fwyaf. 16. Disgrifiodd tua thraean o’r ymatebwyr eu sgiliau iaith Saesneg fel ‘gwael iawn’ cyn cyrraedd gyda llai nag un o bob 10 (9.8%) yn ystyried fod eu sgiliau yn ‘dda iawn’. Mewn cyferbyniad, roedd dau draean yn ystyried fod eu sgiliau Saesneg yn ystod cyfnod yr arolwg yn ‘wael iawn’. 17. Er bod dau draean o ffoaduriaid yn dweud iddynt dderbyn rhywfaint o hyfforddiant Saesneg ffurfiol ers cyrraedd y Deyrnas Unedig, disgrifiodd nifer anawsterau o ran derbyn cefnogaeth briodol i wella eu sgiliau iaith. Roedd yr anawsterau hyn yn cynnwys priodoledd y lefel o hyfforddiant a ddarparwyd (fel arfer yn rhy hawdd), cyrsiau a gwersi/dosbarthiadau'n rhy fyr, diffyg gofal plant gyda phlant oedran ysgol i ofalu amdanynt. Soniodd nifer o’r ymatebwyr am y costau’n gysylltiedig â mynychu, yn arbennig pris tocyn bws.

Cyflogaeth a gwirfoddoli 18. Mae cyflogaeth yn darparu mecanwaith ar gyfer creu incwm a datblygiad economaidd ac, o ganlyniad, fe’i hystyrir i fod yn fecanwaith allweddol ar gyfer integreiddiad. Mae swyddi hefyd yn werthfawr o ran sefydlu rolau cymdeithasol gwerthfawr, datblygu gallu ieithyddol a chymdeithasol ehangach a sefydlu cysylltiadau cymdeithasol. 19. Dengys ymchwil fod ffoaduriaid yn profi lefel uchel o ddiweithdra a thangyflogaeth, er gwaethaf y ffaith fod nifer yn cyrraedd y Deyrnas Unedig gyda chymwysterau da a phrofiad gwaith blaenorol yng ngwlad eu tarddiad. Mae casgliadau’r arolwg hwn yn cadarnhau fod hyn hefyd yn wir yng Nghymru. Er bod bron i ddau draean o’r ymatebwyr wedi eu cyflogi mewn amrywiaeth o broffesiynau cyn dod i’r Deyrnas Unedig, roedd gan lai na thraean (31.7%) swydd pan gyflawnwyd yr arolwg hwn. O’r ffoaduriaid oedd wedi eu cyflogi, roedd y rhan fwyaf mewn swyddi gweinyddol neu glerigol, gwaith glanhau neu ffatri. Nid oedd bron i hanner y rhai a gyflogir yn teimlo fod eu swydd yn briodol o ran eu cymwysterau, sgiliau a phrofiad. 20. Nododd nifer o ffoaduriaid eu bod wedi wynebu hiliaeth a gwahaniaethu wrth ddod o hyd i gyflogaeth a’u profiadau yn y gweithle. Mynegwyd materion yn ymwneud â lliw croen, crefydd a rheolau gwisg (yn arbennig penwisg) fel achosion gwahaniaethu. Mae nifer o’r ymatebwyr y credu nad ydynt yn cael eu dewis am gyfweliadau am nad oes ganddynt enw Saesneg (neu Gymraeg). 21. Credir fod gwirfoddoli yn llwybr pwysig posibl i gyflogaeth ar gyfer nifer o ffoaduriaid, gan y gall o leiaf roi cyfle i ffoaduriaid ennill profiad gwaith yn y Deyrnas Unedig, caffael neu ddatblygu sgiliau a sicrhau geirda o’r Deyrnas Unedig. Er bod ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru yn gyffredinol wedi eu tangyflogi neu’n ddi-waith, mae dros hanner (57.7%) wedi bod yn gysylltiedig â gwaith gwirfoddol ers cyrraedd. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r 29% sy’n gysylltiedig â gwaith gwirfoddol mewn ymchwil cynharach ledled y Deyrnas Unedig, ond ychydig yn is nag ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a Lloegr. 22. Gallai lefelau is o wirfoddoli adlewyrchu nifer o ffactorau. Dywedodd tua chwarter ymatebwyr yr arolwg eu bod yn ei chael yn anodd cael mynediad i wirfoddoli. Y prif reswm a roddwyd oedd diffyg gwybodaeth am gyfleoedd i wirfoddoli. Mae’r broblem yn fwy ar gyfer y rhai sydd newydd gyrraedd ac sydd â sgiliau Saesneg cyfyngedig. Iechyd a lles 23. Mae casglu gwybodaeth gan grwpiau poblogaeth ar iechyd a lles yn anodd iawn, ac mae cyfyngiadau sylweddol i fethodoleg arolwg ar y math o gwestiynau a materion y gellir eu harchwilio. Fodd bynnag, mae’r arolwg yn darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am iechyd meddyliol a chorfforol ffoaduriaid yn bwy yng Nghymru. 24. Mae’r ffoaduriaid a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg yn ystyried fod eu hiechyd corfforol yn gyffredinol well na chyn iddynt gyrraedd y Deyrnas Unedig. Roedd dwywaith cymaint o ymatebwyr yn ystyried fod eu hiechyd meddyliol yn dda ers

iddynt gyrraedd o gymharu â’n flaenorol. Mae’n werth nodi fod y gyfran o ymatebwyr sy’n ystyried fod eu hiechyd meddyliol yn y Deyrnas Unedig yn ‘wael’ yn debyg i’r gyfran cyn cyrraedd. Yn ogystal, nododd cyfran sylweddol o ymatebwyr eu bod yn teimlo fod eu hiechyd corfforol a meddyliol wedi gwaethygu ers iddynt gyrraedd y Deyrnas Unedig (22.8% a 38.2% yn y drefn honno). 25. Mae bron i bob un o’r disgrifiadau o ddirywiad mewn iechyd meddyliol a chorfforol ers cyrraedd y Deyrnas Unedig yn ymwneud â gofid, straen, iselder ac unigedd sy’n gysylltiedig â bod yn ffoadur, y broses lloches a gwahanu o’r cartref a theulu. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gwaethygir problemau iechyd meddwl o ganlyniad i sefyllfaoedd tai a chyflogaeth mae nifer o ffoaduriaid yn profi. 26. Roedd traean yr ymatebwyr yn derbyn triniaeth feddygol pan gyflawnwyd yr arolwg, yn fwyaf nodedig, triniaeth ar gyfer iselder ar ffurf tabledi gwrth iselder ac/neu gynghori. Disgrifiodd bron i chwarter anawsterau o ran cael mynediad i driniaeth feddygol yn cynnwys anawsterau ac oedi wrth sicrhau apwyntiad gyda meddyg teulu, deintydd ac ymgynghorwyr ysbytai, a hyd amserau aros am apwyntiadau, yn arbennig gydag ymgynghorwyr. Hiliaeth a gwahaniaethu 27. Mae’r broses o integreiddio yn ymwneud â mwy na darparu mynediad i wasanaethau neu’r farchnad lafur yn unig: mae hefyd yn ymwneud â sut mae cymunedau’n gweithio o ddydd i ddydd, p’un a yw unigolion yn teimlo'n ddiogel a sut maent yn ymwneud â'i gilydd. 28. Mae hanner yr holl ffoaduriaid a gymrodd ran yn yr arolwg hwn wedi profi agweddau negyddol a hiliaeth gan y cyhoedd wrth fyw yng Nghymru. Mae’r ystadegau hyn yn sylweddol uwch na chasgliadau arolwg diweddar a gyflawnwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer poblogaeth Cymru’n gyffredinol. 29. Disgrifiodd ymatebwyr yr arolwg nifer sylweddol o ddigwyddiadau, gyda thipyn yn cynnwys ymosodiadau llafar a chorfforol, yn aml gan blant yn eu harddegau a phobl ifanc. Adroddwyd cryn dipyn o ddifrod i eiddo hefyd. Cyfeiriodd rhai o’r ymatebwyr at wahaniaethu yn y gweithle ac wrth ddelio ag asiantaethau a darparwyr gwasanaeth, yn cynnwys yr heddlu. Ymddengys na adroddir nifer o ddigwyddiadau hiliol o ganlyniad i bryderon am yr oblygiadau. Mae nifer hefyd yn teimlo nad yw’r heddlu, darparwyr tai a’r UKBA yn delio’n dda ag achosion a adroddir. 30. Mae traean y rhai a gymrodd ran yn teimlo y gwahaniaethir yn eu herbyn oherwydd lliw eu croen, tarddiad ethnig neu grefydd. mae hyn dair gwaith yn uwch na chasgliad yr arolwg Byw yng Nghymru diweddaraf. Nodir fod gwahaniaethau gweledol, yn arbennig penwisgoedd, yn achosi problemau penodol. 31. Gofynnwyd i’r ffoaduriaid am eu teimladau am ddiogelwch yn y lle maent yn byw. Daeth y cwestiynau hyn yn bennaf o Arolwg Troseddu Prydain gyda’r bwriad o allu cymharu ymatebion ffoaduriaid yn byw yng Nghymru gydag ymatebion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a Lloegr. Mae casgliadau’r arolwg yn cyd-fynd â rhai'r boblogaeth gyffredinol gan fwyaf.

32. Mae’r arolwg yn archwilio teimladau a pherthynas tuag at y gymdogaeth neu ardal ble mae’r ffoaduriaid yn byw a’u cyfraniad neu beidio tuag at sefydliadau lleol. Yr agwedd bwysicaf y mae’n werth ei nodi yw’r ffaith fod y rhan fwyaf (61.8%) o’r ymatebwyr yn cytuno gyda’r datganid ‘Rwy’n teimlo fy mod yn perthyn i’r gymdogaeth’. Mae dros ddau draean o’r ymatebwyr yn cytuno gyda’r datganiad ‘Byddwn yn barod i gydweithio gydag eraill ar rywbeth i wella fy nghymdogaeth’. 33. Awgrymodd bron i bob un o’r ymatebwyr eu bod yn aelodau o un sefydliad neu grŵp neu fwy, ond mae eu haelodaeth yn amrywio'n sylweddol, ac felly hefyd eu lefelau o gymryd rhan. Mae bron i hanner y rhai a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg yn aelodau o grwpiau cymuned ffoaduriaid neu genedlaethol/ethnig. Mae cyfran debyg (45.2%) hefyd yn perthyn i grŵp crefyddol neu sefydliad ffydd. Dyma oedd y grwpiau mwyaf o ran aelodaeth. 34. Dywedodd dros dri chwarter yr ymatebwyr eu bod yn bwriadu aros yng Nghymru. Y prif resymau a nodwyd gan ymatebwyr dros fod eisiau aros yng Nghymru yw cymuned/cymdogion (43%), yna teulu a ffrindiau, agweddau’r cyhoedd, cyflogaeth, ac addysg plant. Mae rhesymau eraill yn cynnwys ‘teimlo wedi setlo’, byw ger y môr, a’r gefnogaeth a geir gan yr eglwys a’r sector wirfoddol. 35. Er bod y rhan fwyaf o’r ffoaduriaid wedi nodi eu bod yn bwriadu aros yng Nghymru, dywedodd un o bob pump ei bod yn bosibl y byddant yn gadael. Rhoddwyd nifer o resymau, ond y prif reswm oedd awydd i fod yn agos at deulu, ffrindiau ac aelodau o’r gymuned yn byw mewn man arall, dehongliad fod diffyg amrywiaeth yng Nghymru a adlewyrchir ar adegau yn agweddau negyddol ac/neu hiliaeth y cyhoedd, problemau gyda thai, ac anawsterau o ran cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth priodol. 36. Mae gwrthddweud rhwng disgrifiadau ffoaduriaid o’u profiadau dydd i ddydd o hiliaeth a’r sylwadau a wnaed gan nifer parthed eu teimladau am fyw yng Nghymru. Ymysg y rhai a nododd eu bod yn bwriadu aros yng Nghymru, nodwyd cymuned a chymdogion fel y rheswm unigol pwysicaf o blaid. Ymddengys y byddai hyn yn awgrymu fod ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru yn cael profiadau positif a negyddol yn eu cymdogaeth agos. Goblygiadau polisi 37. Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth newydd bwysig am sgiliau, anghenion a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae nifer o brif gasgliadau’r ymchwil hwn yn cyd-fynd â’r hyn sydd eisoes yn wyddys am brofiadau ffoaduriaid yn byw mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 38. Mae’r arolwg yn nodi nifer o rwystrau posibl i gynhwysiant ym meysydd tai, addysg a hyfforddiant, cyflogaeth a hiliaeth a gwahaniaethu. Awgryma’r rhwystrau hyn y dylai polisïau yn y dyfodol ei gwneud yn flaenoriaeth i geisio:

• taclo llety israddol a sicrhau nad yw ffoaduriaid yn effeithiol ddigartref; • delio gyda rhwystrau penodol o ran cael mynediad at gyrsiau hyfforddiant

iaith Saesneg priodol;

• cael gwared ar rwystrau i addysg a hyfforddiant; • cynyddu mynediad at wirfoddoli, yn arbennig tu allan i’r sector ffoaduriaid; • lleihau hiliaeth a gwahaniaethu wrth ddod o hyd i gyflogaeth ac yn y

gweithle; a • gwella adrodd o, ac ymateb i, achosion hiliol.

Ymchwil yn y dyfodol 39. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymroddedig i bolisïau yn seiliedig ar dystiolaeth ac i fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ei bolisïau. Bydd y diffyg gwybodaeth systematig ar sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru yn ei gwneud yn anoddach i gyflawni'r amcan hwn parthed y Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. 40. Mae cwmpas i wella casglu gwybodaeth ar sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid yn byw yng Nghymru yn seiliedig ar yr arddull arolwg a ddatblygwyd ac a brofwyd yn yr ymchwil hwn. Mae’r arolwg yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y strategaethau mwyaf effeithiol y gellid eu dilyn i wella ansawdd a faint o wybodaeth sydd ar gael. 41. Dylid ystyried nifer o faterion pwysig sydd wedi eu trafod yn yr ymchwil hwn mewn unrhyw ymdrechion yn y dyfodol i gyflawni ymchwil gyda ffoaduriaid yn byw yng Nghymru. Mae’r rhain yn ymwneud â maint ac amlder unrhyw waith arolwg, y technegau y gellid eu defnyddio i sicrhau y cynhwysir y detholiad llawn o gefndiroedd a phrofiadau ffoaduriaid, a strategaethau ar gyfer gwella mynediad i a lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â gwaith arolwg. O ystyried nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn gwahaniaethu rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid wrth ddarparu nifer o wasanaethau, dylid ystyried cynnwys ceiswyr lloches yn unrhyw ymchwil yn y dyfodol sy’n ceisio nodi sgiliau, anghenion a phrofiadau’r rhai sy’n byw yng Nghymru.

1

Adran 1 Cefndir yr arolwg 1.1 Y boblogaeth ffoaduriaid yng Nghymru Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gefndir, amgylchiadau ac anghenion ffoaduriaid (a ddiffinnir fel y rhai sy’n cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig) sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn am fod diffyg gwybodaeth swyddogol ddibynadwy. Mae’r unig wybodaeth sydd ar gael yn ymwneud â cheiswyr lloches sy’n dal i aros am benderfyniad ar eu ceisiadau. Mae Asiantaeth Ffiniau’r DU ac asiantaethau eraill yn casglu data’n ymwneud â'r grŵp hwn yn rheolaidd. Ar y llaw arall, bydd ffoaduriaid sydd wedi derbyn yr hawl i breswylio, yn diflannu i gyfresi generig data’r llywodraeth, ar y cyd â (a heb wahaniaethu rhwng) unigolion a chartrefi eraill (Robinson 2005). Er enghraifft, nid yw’r cyfrifiad yn gofyn i bobl ddatgan p'un a ydynt, neu ydynt wedi bod, yn ffoadur, nac ychwaith yr Arolwg o'r Llafurlu na’r Arolwg Cartrefi Cyffredinol. Felly mae’n amhosibl creu is-sampl o ffoaduriaid o gyfresi generig data cenedlaethol a disgrifio eu nodweddion. Diddwythir gwybodaeth am boblogaeth ffoaduriaid yng Nghymru yn bennaf o’r hyn a wyddom am nifer a chenedligrwydd ceiswyr lloches, y bydd cyfran ohonynt (yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol, dyddiad cyrraedd a gwlad tarddiad) yn derbyn caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig ac yn dewis parhau i fyw yng Nghymru. Efallai na fydd eraill yn llwyddo gyda’u cais ond yn parhau i fyw yn yr ardal. Ni fydd eu hanghenion a phrofiadau yn cael ei cipio mewn unrhyw broses ac felly bydd yn gwbl anhysbys. Cyn 2001, lefel gymharol isel o ffoaduriaid oedd yn dewis setlo yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Ni ddaeth y rhan fwyaf o’r grwpiau allweddol o ffoaduriaid a ddaeth i’r Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel i Gymru. Dim ond o ganlyniad i gysylltiadau cymdeithasol oedd eisoes wedi eu sefydlu a rhwydweithiau’n gysylltiedig â mudiadau llafur i Gaerdydd ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif y denwyd ffoaduriaid Somalïaidd i Gymru, gan greu cartref i boblogaeth fwyaf y Deyrnas Unedig o Somaliaid a aned ym Mhrydain (Robinson 2005). Yn 2001, sefydlwyd Cymru fel ardal wasgaru ar gyfer ceiswyr lloches yn cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae pedwar awdurdod lleol yng Nghymru wedi eu dynodi fel ardaloedd gwasgaru ac erbyn hyn fe wasgarir ceiswyr lloches i lety’r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Ym mhob un o’r ardaloedd gwasgaru hyn, mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am drefnu mynediad ceiswyr lloches i lety a gwasanaethau a rheoli integreiddiad ceiswyr lloches i’r ardal. Yn un o’r unig astudiaethau eraill yn edrych yn benodol ar ffoaduriaid yn byw yng Nghymru, cyflwynodd Robinson (2005) ddata yn dangos, erbyn Mawrth 2004, fod gan Gymru boblogaeth o geiswyr lloches gyda chefnogaeth NASS o 2,605 o bobl, gyda 44% yn byw yng Nghaerdydd, 36% yn Abertawe, 16% yng Nghasnewydd a 2% yn Wrecsam. Roedd 74 o genhedloedd wedi eu cynrychioli yng Nghymru, o gymharu â 132 ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ac roedd 14 o genedlaethau yn atebol am 75% o’r cyfanswm. Y gwledydd mwyaf cyffredin ym Mawrth 2004 oedd Somaliaid, Pacistaniaid, Iraciaid ac Iraniaid, ond roedd maint pob un wedi newid gydag amser yn unol â newidiadau mewn ffrydiau mudo i’r Deyrnas Unedig.

2

Awgryma data mwy diweddar gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru fod y nifer o geiswyr lloches a ddosbarthwyd i Gymru wedi lleihau mymryn, yn unol â’r gostyngiad cyffredinol mewn ceisiadau am loches i’r Deyrnas Unedig. Ar ddiwedd Mai 2009, roedd 2,322 o geiswyr lloches yn byw yng Nghymru1. Mae hyn yn eithrio plant yn ceisio lloches heb oedolyn a gefnogir gan awdurdodau lleol. Daw bron i dri chwarter (71.1%) y rhai a ddosbarthwyd i Gymru o naw gwlad tarddiad: Affganistan, China, Eritrea, Iran, Irac, Pacistan, Somalia, Y Swdan a Zimbabwe (Ffigwr 1). Ffigwr 1: Nifer ceiswyr lloches a wasgarwyd yng Nghymru yn ôl cenedlaetholdeb, diwedd Mai 2009

Cenedligrwydd Nifer 1 2 Canran

Affganistan 122 5.3

China 222 9.6

Eritrea 159 6.7

Iran 270 11.6

Irac 294 12.7

Pacistan 160 6.9

Somalia 111 4.8

Swdan 136 5.9

Zimbabwe 177 7.6

Arall 671 28.9

Nodiadau 1 Mae’r ffigurau hyn wedi eu cyfannu i’r 5 agosaf 2 Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys y rhai a gefnogir dan Adran 95 ac Adran 4 y Ddeddf Mewnfudo a

Lloches 1999 Ffynhonnell: casglwyd o ddata a ddarparwyd gan WSMP, Mai 2009

Roedd dros hanner (56.9%) ceiswyr lloches yn byw yng Nghaerdydd ar ddiwedd Mai 2009, tra bod gan Abertawe 562 o geiswyr lloches (24.2%), Casnewydd 364 (15.7%), a Wrecsam gyda dim ond 74 (3.2%). Er bod Caerdydd wedi lletya’r nifer fwyaf o geiswyr lloches a gefnogir gan NASS yn gyson, mae cyfanswm cymharol y ddinas o gyfanswm Cymru wedi gostwng gydag amser wrth i awdurdodau eraill ymuno fel ardaloedd gwasgaru (Robinson, 2005). Roedd dros hanner ceiswyr lloches yn byw mewn teuluoedd, gyda chyfran sylweddol wedi eu harwain gan fenyw (ac yn debygol o fod yn gartrefi gydag un oedolyn yn unig). Roedd nifer sylweddol uwch o geiswyr lloches yn ddynion sengl o gymharu â menywod sengl (911 a 176 yn y drefn honno).

1 Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys y rhai a gefnogir dan Adran 95 ac Adran 4 y Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

3

Awgryma hyn fod poblogaethau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn wahanol i’r boblogaeth ehangach o ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig mewn ambell fodd pwysig (Robinson 2005). Fel y nodwyd uchod, mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi eu crynhoi’n fwy i nifer gyfyngedig o drefi a dinasoedd ac maent yn dod o amrediad mwy cyfyngedig o genhedloedd a grwpiau ieithyddol. Yn ogystal, ymddengys yn debygol fod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llai tebygol o fod wedi dewis dod i fyw yng Nghymru. Awgrymodd Robinson (2005) fod y ffaith fod ceiswyr lloches yng Nghymru yn fwy tebygol o fod ym meddiant y pecyn ‘cefnogaeth a llety’ llawn na’r rhai yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn eu gwneud yn llai tebygol o fod wedi dewis ble yn y Deyrnas Unedig yr hoffent fyw wrth aros am y penderfyniad ar eu cais am loches. Awgryma’r data mwyaf diweddar sydd ar gael (ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2009) mai dim ond 1% o geiswyr lloches sy’n meddu ar gefnogaeth cynhaliaeth yn unig yng Nghymru o gymharu â chymaint â 68% yn Llundain, a rhwng 4%-6% ar gyfer nifer o ranbarthau eraill y Deyrnas Unedig (Swyddfa Gartref 2009a). Mae’r canran o geiswyr lloches dan gefnogaeth NASS yng Nghymru sydd yn achosion ‘cefnogaeth a llety’ ac sydd wedi eu gwasgaru i Gymru wedi bod yn cynyddu’n raddol o 90% yn Rhagfyr 2002 i 95% y Mawrth 2004 a 97.4% ar ddiwedd Mawrth 2009 (Swyddfa Gartref 2008a, 2008b). Felly, dim ond cyfran fechan iawn o ffoaduriaid yn byw yng Nghymru sydd wedi dewis Cymru fel lle i fyw eu hunain. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o hanes cyfyngedig mudo mewnol o’r gwledydd mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn tarddu, a'r diffyg cysylltiadau teuluol a chymdeithasol cyfatebol. Yn amlwg mae goblygiadau i hyn, yn arbennig gan nad yw’n amlwg pa gyfran o’r rhai y mae eu ceisiadau yn llwyddiannus ac sy’n cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n penderfynu parhau i fyw yng Nghymru. Fel mae Robinson (2005) yn nodi, ychydig iawn a wyddom am p'un a yw pobl yn dewis aros neu adael Cymru pan fyddant yn cael penderfyniad positif. Nac ychwaith ydym yn gwybod faint o geiswyr lloches sy’n derbyn penderfyniad positif yn Lloegr sy’n dewis symud i Gymru. Awgryma tystiolaeth anecdotaidd fod rhai o’r unigolion a wasgerir i Gymru yn gadael y wlad wedi hynny i ymuno â ffrindiau a pherthnasau yn byw mewn cymunedau yn Lloegr wedi iddynt dderbyn statws (ac felly nad oes raid iddynt ddibynnu ar y Swyddfa Gartref am lety a chefnogaeth). Felly hefyd, efallai y bydd y rhai nad ydynt yn derbyn lloches ac sy’n parhau i fyw yn y Deyrnas Unedig yn dewis gadael Cymru i chwilio am gyflogaeth mewn man arall, yn fwyaf tebygol mewn dinasoedd gyda phoblogaethau mwy amrywiol o ran ethnigrwydd sy’n fwy tebygol o gynnig cyfleoedd am swyddi ac anhysbysrwydd. Mae tystiolaeth anecdotaidd hefyd fod rhai o’r unigolion sy’n dewis aros yng Nghymru o gefndir ethnig, cenedlaethol neu ieithyddol penodol ac felly efallai y bydd ganddynt anghenion a phrofiadau penodol. Gan edrych i’r dyfodol, ymddengys yn debyg y bydd rhai cenedlaethau’n datblygu i fod yn gyfran fwy sylweddol o boblogaeth y ffoaduriaid yng Nghymru nag eraill. Mae tystiolaeth yn dechrau codi fod rhai cenhedloedd (er enghraifft, y rhai o Eritrea a Zimbabwe) yn cael hawl i aros mewn niferoedd uwch na grwpiau eraill. Efallai y bydd hyn yn atgyfnerthu’r tuedd presennol tuag at amrediad mwy cyfyngedig o genhedloedd a grwpiau ieithyddol.

4

1.2 Cyd-destun polisi Ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr sy’n gysylltiedig â’r broses o integreiddio, mae’r diffyg gwybodaeth ar gefndir, anghenion a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru yn broblem gan y golyga y gall darparu cefnogaeth a gwasanaethau priodol fod yn anodd ac anghyson (Robinson 1999; Threadgold a Court 2005). Sefydlwyd arddull gyffredinol y Deyrnas Unedig tuag at integreiddio ffoaduriaid gyntaf yn Full and Equal Citizens (Swyddfa Gartref 2000), gan ehangu ar hyn yn Integreation Matters (Swyddfa Gartref 2005). Er bod llenyddiaeth academaidd helaeth ar integreiddiad, mae’r diffiniad a fabwysiadwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yn un syml: digwydd integreiddiad pan fydd ffoaduriaid wedi eu grymuso i gyflawni eu potensial llawn fel aelodau o gymdeithas Prydain, cyfrannu’n llawn i’r gymuned, a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus y mae ganddynt hawl iddynt. Rhaid i’r cam cyntaf tuag at integreiddio ffoaduriaid fod i nodi a'u helpu gyda’u hanghenion mwyaf dybryd. Yn ôl llywodraeth y Deyrnas Unedig mae dod o hyd i a’u setlo mewn tai diogel a phriodol, cael mynediad i gyflogaeth neu gefnogaeth nawdd cymdeithasol, delio ag unrhyw bryderon iechyd, a setlo plant yn yr ysgol oll yn hanfodol i alluogi ffoaduriaid i ganolbwyntio ar agweddau hirdymor integreiddiad. Yn fwyaf diweddar mae’r llywodraeth wedi ail ategu ei ymroddiad i integreiddio ffoaduriaid gyda chyhoeddiad Moving on Together (Swyddfa Gartref 2009b), sy’n atgyfnerthu pwysigrwydd gallu siarad Saesneg a dod o hyd i swydd cyn gynted â phosibl fel camau allweddol yn y broses o integreiddiad. Sefydlwyd Gwasanaeth Integreiddio Ffoaduriaid a Chyflogaeth (RIES) newydd, a gynlluniwyd i wella'r tebygolrwydd y bydd ffoaduriaid newydd yn dod hyd i waith. Mae’n bwysig nodi tra bod rheoli mewnfudiad yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth y Deyrnas Unedig, fod integreiddio ffoaduriaid yn fater sydd wedi ei ddatganoli. Mae tair gweinyddiaeth ddatganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban o’r farn fod integreiddiad ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cychwyn o’r diwrnod byddant yn cyrraedd - ac mae hynny’n hanfodol nid yn unig ar gyfer yr ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid, ond hefyd ar gyfer y cymunedau ble maent yn byw. O ganlyniad, mae strategaeth genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer integreiddio ffoaduriaid yn canolbwyntio ar Loegr yn unig, er bod rhai mentrau ledled y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mae RIES yn cael ei ddarparu i ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid ei hun ym Mehefin 2008 (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008). Mae’r strategaeth hon yn sefydlu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad o gynhwysiant ffoaduriaid yng Nghymru ac yn ceisio cefnogi a galluogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas. Mae’r strategaeth yn amlygu sut fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i sylweddoli ei weledigaeth o gynhwysiant ffoaduriaid yng Nghymru. Un o’r meysydd allweddol mae’r amcanion yn canolbwyntio arno yw cydlyniad cymunedol. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys:

• sicrhau y ceir cyfathrebu da rhwng cymunedau ffoaduriaid/sy’n ceisio lloches a’r cymunedau sy’n eu derbyn, darparwyr gwasanaeth a llywodraeth;

5

• hyrwyddo perthynas bositif rhwng cymunedau ffoaduriaid/sy’n ceisio lloches a’r cymunedau sy’n eu derbyn;

• taclo camddealltwriaeth cyffredinol am geiswyr lloches a ffoaduriaid; a

• hyrwyddo Saesneg a’r Gymraeg i bawb sy’n byw yng Nghymru, yn cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Ystyrir cynhwysiant ac integreiddiad ffoaduriaid fel prosesau hirdymor, deinamig, dwy ffordd sy’n gosod gofynion ar ffoaduriaid unigol, cymunedau ffoaduriaid, cymunedau sy’n derbyn a’r gymdeithas ehangach. Golyga hyn gael gwared ar rwystrau sy’n atal ffoaduriaid rhag bod yn aelodau cwbl weithredol o gymdeithas. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi y bydd diffyg data llinell sylfaen yn ei gwneud yn anodd monitro datblygiad ar weithredu’r strategaeth a gwerthuso ei effeithiolrwydd. Mae detholiad o sefydliadau ac awdurdodau lleol eraill hefyd angen gwybodaeth llinell sylfaen er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau priodol a gwneud defnydd o sgiliau ac arbenigedd posibl ffoaduriaid. Yn ôl Threadgold a Court (2005), mae’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis defnyddio’r term ‘cynhwysiant’ yn hytrach nag ‘integreiddiad’ yn adlewyrchu awydd ymwybodol i symud oddi wrth arwyddocâd posibl cymathiad yn y cysyniad ‘integreiddio’. Mae LlCC wedi gwrthod creu ‘cydlyniad cymdeithasol’ fel problem i fudwyr newydd yn unig (ffoaduriaid yn yr achos hwn), gan ddewis gweld y broses hirdymor o integreiddiad cymdeithasol ac economaidd fel proses dwy ffordd, ond yn mynd yn bellach o ran cydnabod y detholiad o gyfraniadau allai nodweddu cynhwysiant (Threadgold et al. 2008). Mae’r gwahaniaeth hwn yn rhannol symbolaidd, ond mae oblygiadau ymarferol ar gyfer polisi hefyd. Er enghraifft, er nad yw mewnfudo a lloches yn faterion datganoledig, daw ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gysylltiad ag amrywiaeth helaeth o wasanaethau sydd wedi eu datganoli yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Nid yw rhai o’r gwasanaethau hyn yn gwahaniaethu mewn unrhyw fodd ymarferol rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran darpariaeth. Er y gall Llywodraeth y Cynulliad arfer rhywfaint o reolaeth dros gyfeiriad polisïau cynhwysiant ffoaduriaid yng Nghymru, mae materion rheoli mewnfudiad yn parhau i fod tu hwnt i’w reolaeth ac mae polisïau yn y maes hwn yn cael effaith uniongyrchol – ac yn aml negyddol – ar allu ffoaduriaid yng Nghymru i ailadeiladu eu bywydau. Mae’n werth nodi tri pholisi. Y cyntaf yw’r ffaith na all ceiswyr lloches weithio cyn derbyn penderfyniad positif. Ystyrir fod y polisi hwn yn effeithio’n negyddol ar bosibiliadau cyflogaeth hirdymor ffoaduriaid sy’n cael caniatâd i aros, ac fe wyddom fod iddo oblygiadau sylweddol o ran iechyd meddyliol a hunan barch (Bloch 2002). Yn ail, mae polisïau parthed y rhai sy’n derbyn statws ffoadur wedi newid. Cyn 30 Awst 2005, roedd y rhai a dderbyniodd statws ffoadur yn cael caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, ers hynny mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi derbyn statws ffoadur a chaniatâd cyfyngedig o bum mlynedd i aros yn y Deyrnas Unedig, yn unol â Strategaeth Pum Mlynedd y Llywodraeth ar gyfer Lloches a Mewnfudo a gyhoeddwyd yn Chwefror 2005. Ymddengys yn debygol y bydd oblygiadau sylweddol i ffoaduriaid yn byw yng Nghymru o ganlyniad i’r newid polisi hwn, er nad ydym yn gwybod beth hyd yn hyn. Yn olaf, mae’n werth nodi fod y Model Lloches Newydd wedi cynyddu cyflymder y broses o wneud penderfyniadau’n sylweddol ar gyfer nifer o geiswyr lloches. Yn amlwg mae gan hyn oblygiadau ar

6

gyfer polisïau a fwriedir i sicrhau y gall ffoaduriaid gael mynediad at dai, addysg, hyfforddiant a gwaith priodol wedi derbyn caniatâd i aros. 1.3 Nodau ac amcanion yr arolwg Fel y nodwyd uchod, mae diffyg gwybodaeth sylfaenol ar sgiliau, anghenion a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae angen yr wybodaeth yma er mwyn sicrhau fod ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru yn derbyn gwasanaethau a chefnogaeth briodol, ac y gall cyflogwyr ac eraill wneud defnydd o’r sgiliau ac arbenigedd a ddaw gyda nifer o ffoaduriaid. Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad angen yr wybodaeth er mwyn monitro datblygiad ar weithredu’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid ac i werthuso ei effeithiolrwydd. Amcan yr arolwg yw casglu gwybodaeth am sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru ac i nodi unrhyw rwystrau i gynhwysiant, yn cynnwys hiliaeth a gwahaniaethu. Cyflawnwyd yr arolwg hwn gydag adnoddau cyfyngedig a chyfnod cyfyngedig o amser. Adlewyrchir hyn yn yr arddull fethodolegol a drafodir isod. Mae’r arolwg yn cynrychioli ymateb pragmatig i'r diffyg gwybodaeth sydd ar gael i hysbysu polisi ac ymarfer yng Nghymru a'r angen i ganfod dulliau o wella casglu data ar gyfer y dyfodol. Mae casgliadau’r ymchwil yn cynrychioli’r arolwg cyntaf o brofiadau ac anghenion ffoaduriaid yn byw yng Nghymru ac felly’n datgelu gwybodaeth newydd ddiddorol. Yr un mor bwysig, mae’n darparu dysgu posibl ar gyfer unrhyw arolwg yn y dyfodol o anghenion a phrofiadau ffoaduriaid yn byw yng Nghymru. Mae’n bwysig fod gwybodaeth a gesglir mewn unrhyw arolwg o ffoaduriaid yng Nghymru yn ddefnyddiol i lunwyr polisi ac ymarferwyr. Oherwydd hyn, dyfeisiwyd cwestiynau’r arolwg mewn ymgynghoriad â llunwyr polisi ac ymarferwyr ac maent wedi eu lleoli yn y fframwaith i feddwl am faterion integreiddio a ddatblygwyd gan Ager a Strang (2004). Mae’r fframwaith wedi ei strwythuro o amgylch deg parth allweddol y mae tystiolaeth yn awgrymu i fod o bwys canolog i integreiddiad ffoaduriaid. O fewn pob un o’r deg parth hyn awgrymir nifer o ddangosyddion fel modd o asesu integreiddiad ar y parth penodol hwnnw. Mae’r deg parth wedi eu grwpio dan bedwar pennawd, fel y gwelir yn Ffigwr 2. Awgryma’r diffiniad o integreiddiad sy’n ymhlyg yn y fframwaith fod unigolyn neu grŵp wedi ei integreiddio i gymdeithas pan fydd:

• yn cyflawni deilliannau cyhoeddus o fewn cyflogaeth, tai, addysg, iechyd ac ati sy'n cyfateb i'r rhai a gyflawnwyd yn y gymuned letya ehangach;

• wedi cysylltu’n gymdeithasol ag aelodau cymuned (genedlaethol, ethnig, diwylliannol, crefyddol neu arall) y maent yn uniaethu â hi, gydag aelodau cymunedau eraill a gyda gwasanaethau a swyddogaethau perthnasol y wladwriaeth; a

• bod ganddynt gymhwyster ieithyddol a dealltwriaeth ddiwylliannol ddigonol, a digon o deimlad o ddiogelwch a sefydlogrwydd i ymgysylltu’n hyderus â’r gymuned honno mewn modd sy’n gyson â syniadau rhanedig o genedligrwydd a dinasyddiaeth (Ager a Strang 2004, 5).

7

Dangosyddion fframwaith integreiddio

Ffynhonnell: Ager a Strang 2004 Mae’r fframwaith yn nodi nifer o ‘ddynodwyr a moddau’ allweddol ar gyfer cyrraedd a mesur y broses hon o integreiddiad. Mae’r ‘dynodwyr a moddau’ hyn yn cynnwys y canlynol:

• mae cyflogaeth yn darparu mecanwaith ar gyfer creu cyflogaeth a dyrchafiad economaidd ac, felly, fe’i hystyrir gan ddadansoddwyr polisi a ffoaduriaid eu hunain i fod yn ffactor allweddol parthed integreiddiad. Mae swyddi hefyd yn werthfawr o ran (ail)sefydlu rolau cymdeithasol gwerthfawr, datblygu gallu ieithyddol a chymdeithasol ehangach a sefydlu cysylltiadau cymdeithasol;

• mae tai yn strwythuro cryn dipyn o brofiad ffoaduriaid o integreiddiad. Mae tai yn effeithio ar ymdeimlad cymuned o ddiogelwch a sefydlogrwydd, cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol, a mynediad at ofal iechyd, addysg a chyflogaeth;

• mae mynediad i - a datblygiad o fewn - y system addysg yn ddynodwr arwyddocaol o integreiddiad, a hefyd yn fodd sylweddol tuag at y nod hwn. Mae addysg yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cyflogaeth, cysylltiadau cymdeithasol ehangach a dysgu iaith;

• mae iechyd yn galluogi gwell cyfraniad ac ymgysylltiad mewn gweithgareddau cyflogaeth ac addysg. Y materion allweddol yma yw cydraddoldeb mynediad i wasanaethau iechyd a gallu gwasanaethau o’r fath i ymateb i anghenion poblogaethau ffoaduriaid;

• mae diogelwch cymunedol yn bryder cyffredin ymysg ffoaduriaid ac yn y cymunedau ehangach ble maent yn byw. Mae aflonyddu hiliol a throsedd yn erydu hyder, yn llesteirio ymlyniad i gyswllt cymdeithasol, ac yn gwyrdroi gwybodaeth ddiwylliannol; a

8

• creu cysylltiadau cymdeithasol gyda chymunedau eraill sy’n cefnogi cydlyniad cymdeithasol, yn creu cyfleoedd i ehangu dealltwriaeth ddiwylliannol, ehangu cyfleoedd economaidd ac ati.

Mae’r pedwar modd cyntaf o integreiddiad - cyflogaeth, tai, addysg ac iechyd - yn ‘ddynodwyr’ am fod llwyddiant yn y parthau hyn yn awgrym o ddeilliannau integreiddiad positif, ac yn ‘fodd’ am fod llwyddiant yn y parthau hyn yn debygol o gynorthwyo’r broses integreiddio ehangach. Fe gydnabyddir hyn yn strategaeth cynnwys ffoaduriaid (LlCC 2008) sy’n ceisio sicrhau fod gan ffoaduriaid fynediad teg a hafal i dai, addysg a gofal iechyd a chymdeithasol, ac y gallant gyflawni eu potensial parthed cyflogaeth. Felly mae cwestiynau yn gysylltiedig â’r pedwar maes wedi eu cynnwys yn yr arolwg. Mae materion diogelwch cymunedol a chysylltiadau i – a theimladau am – yr ardal neu gymuned mae ffoaduriaid yn byw ynddi hefyd wedi eu cynnwys fel ‘dynodwyr’ prosesau ehangach o gynhwysiant ac integreiddiad. 1.4 Materion Methodolegol Cyflawnwyd yr ymchwil hwn trwy ddefnyddio holiadur a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â grŵp ymgynghorol oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prif sefydliadau sy’n gweithio gyda ffoaduriaid yng Nghymru (Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru), Asiantaeth Ffiniau’r DU, cynrychiolwyr o nifer o wahanol Adrannau Llywodraeth y Cynulliad a darparwyr gwasanaeth ym meysydd iechyd ac addysg. Roedd yr holiadur yn cynnwys cyfanswm o 74 cwestiwn (rhai caeedig a phen agored) a fwriadwyd i gipio gwybodaeth ar nodweddion demograffig ymatebwyr, a’u hamgylchiadau a phrofiadau o fyw yng Nghymru, tai, cefnogaeth, sgiliau, cymwysterau, cyflogaeth ac iechyd a lles. Roedd yno hefyd nifer o gwestiynau ar faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, yn cynnwys profiadau o agweddau cyhoeddus negyddol, hiliaeth a gwahaniaethu a theimladau am y gymdogaeth neu’r ardal ble mae ymatebwyr yn byw. Mae anawsterau methodolegol cyflawni ymchwil arolwg o’r fath gyda ffoaduriaid eisoes wedi ei drafod yn fanwl (Bloch 2004, 2007). Samplo ymatebwyr yw un o’r anawsterau mwyaf sy’n wynebu ymchwilwyr sydd eisiau cyflawni arolygon gyda ffoaduriaid. Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, unwaith bydd ceisiwr lloches wedi derbyn penderfyniad positif a chael ei gydnabod fel ffoadur, bydd ef neu hi yn dod yn rhan o’r boblogaeth gyffredinol i’r perwyl o gasglu data gweinyddol ac felly ni ellir samplu. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf o arolygon o’r fath yn dibynnu ar fynediad i ffoaduriaid trwy sefydliadau cymunedol, cyrff anllywodraethol ffoaduriaid neu gysylltiadau sydd eisoes wedi eu sefydlu fel mannau cychwyn i gronni sampl. Mae samplu cronnol yn strategaeth a ddefnyddir i gael ymatebwyr eraill trwy ofyn i ymatebwyr presennol nodi unigolion allai fod yn barod i gael eu cyfweld. Mae’n strategaeth arbennig o ddefnyddiol pan fydd ffocws yr ymchwil ar fater sensitif ac/neu fod y boblogaeth yn gudd. Golyga sail annhebygoleg samplu cronnol nad yw’n bosibl mesur cywirdeb y sampl parthed y boblogaeth yn gyffredinol yn defnyddio’r gwall safonol, gan arwain at gyfyngiadau data ac anawsterau o ran gwneud datganiadau cyffredinol am gasgliadau. Po fwyaf cyfyngedig yw’r man cychwyn ar gyfer cronni, y mwyaf tebygol y bydd y sampl yn rhannu nodweddion ac yn fwy homogenaidd ei natur na’r boblogaeth mae’n cynrychioli. Un modd o ehangu cynhwysiant a thrwy hynny gynrychioldeb arolygon gyda ffoaduriaid yw’r defnydd o

9

arddulliau rhwydweithio lluosog i’r perwyl o samplu: “er y cydnabyddir y cyfyngiadau - yn arbennig y tuedd anfesuradwy a'r anawsterau o ran cael mynediad i’r mwyaf anghysbell nad ydynt yn gysylltiedig i unrhyw grwpiau neu rwydweithiau - mae’n fodd o sicrhau mwy o amrywiaeth nag a gyflawnir trwy ddibyniaeth ar un neu ambell sefydliad ffoaduriaid neu gymunedol” (Bloch 2007, 236). Ystyriwyd y materion hyn wrth gyflawni’r arolwg. Y bwriad cyntaf oedd y byddai’r arolwg yn hunan weinyddol ac fe sefydlwyd amrywiol brosesau i alluogi hyn, yn cynnwys trafodaeth gyda sefydliadau perthnasol a darparwyr gofal i sicrhau dosbarthiad yr arolwg i ymatebwyr posibl. Unwaith daeth yn amlwg na fyddai’r arddull hwn yn ennyn cyfradd ymateb digon uchel, penderfynwyd gweinyddu’r arolwg trwy gyfweliadau gyda ffoaduriaid a gyflawnwyd gan ymchwilydd yn swyddfeydd yr asiantaethau a sefydliadau allweddol sy’n dod i gysylltiad â ffoaduriaid naill ai ar yr adeg pan fyddant yn derbyn statws neu wedi hynny. Roedd hyn yn cynnwys swyddfeydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam) ac Asiantaeth Ffiniau’r DU (Caerdydd). Gwnaethpwyd digon o ymdrech i sefydlu cyswllt a pherthynas gyda detholiad helaeth o grwpiau cefnogi ffoaduriaid a sefydliadau cymunedol i sicrhau cyfraniad gan amrywiaeth eang o gefndiroedd socio-economaidd, demograffig a gwlad tarddiad. Penderfynwyd hefyd y byddai’r meini prawf ar gyfer cynnwys yn yr arolwg yn agored i gynnwys y rhai a dderbyniodd statws ffoadur ar unrhyw adeg ac o unrhyw wlad. Fel y rhagwelwyd, profodd sicrhau mynediad i ffoaduriaid oedd yn barod i gymryd rhan yn yr ymchwil i fod yn un o agweddau mwyaf heriol a llafurus yr arolwg. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda ffoaduriaid yn y cyfnod Awst i Dachwedd 2008. Am resymau cyfleustod, cyflawnwyd bron i hanner (47.1%) y cyfweliadau yn swyddfeydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd (19.5%), Casnewydd (21.1%) ac Abertawe (6.5%). Cynhaliwyd rhai cyfweliadau yn Wrecsam hefyd, ond roedd y nifer yn llawer is gan adlewyrchu’r ffaith fod nifer llai o ffoaduriaid yn byw yng Ngogledd Cymru o gymharu â’r de. Roedd cyflawni’r ymchwil yn swyddfeydd y Cyngor yn fodd effeithiol iawn o gwrdd â nifer fawr o ymatebwyr posibl, ond nid oedd heb ei gyfyngiadau. Yn ogystal, mae’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn fwy tebygol o fod yn geiswyr lloches yn hytrach na ffoaduriaid, ac felly’n lleihau’r gronfa bosibl o ymatebwyr. Mae’r rhai sy’n ceisio gwasanaethau’r Cyngor, trwy ddiffiniad, yn debygol o fod y rhai sydd mewn cysylltiad â mecanweithiau cefnogaeth prif ffrwd yn hytrach na’r rhai allai fod yn fwy ymylol ac/neu agored i niwed. O safbwynt ymarferol, mae problemau o ran cyfweld ffoaduriaid ar gyfer ymchwil yn syth wedi cyfarfod gyda gweithiwr achos, yn nhermau gofod corfforol i gyflawni’r cyfweliad a’r straen ychwanegol mae hyn yn rhoi ar yr ymatebwr. Yn ogystal â'r ymatebwyr y cysylltwyd â nhw trwy Gyngor Ffoaduriaid Cymru, cyflawnwyd nifer sylweddol o gyfweliadau o ganlyniad i weithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol ffoaduriaid. Trefnwyd y cyfweliadau hyn wedi cyfnod helaeth o drafodaeth ac ymgynghori gydag unigolion allweddol (y cyfeirir atynt yn aml mewn llenyddiaeth ymchwil fel ‘porthorion’ ond a ellid eu galw’n fwy cywir yn ‘hwyluswyr’ o bosibl) oedd yn gallu cysylltu’r ymchwilydd ag unigolion oedd yn barod i gymryd rhan yn yr arolwg. Yna cyflawnwyd cyfweliadau ar adeg a lleoliad oedd yn gweddu i’r ymatebwr, er enghraifft, yn swyddfeydd sefydliad cymunedol, yng nghartref yr

10

ymatebwr neu mewn caffi lleol. Trwy broses o gronni rhai o’r ymatebwyr hyn, cafodd yr ymchwilydd gyflwyniad i ymatebwyr eraill. Eto, mae manteision ac anfanteision i’r arddull hwn. Ar un llaw fe alluogodd fynediad at ymatebwyr na fyddai wedi cael cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwil fel arall ac mewn lleoliad ble byddai’n haws sicrhau ymddiriedaeth, anhysbysrwydd ac annibyniaeth. Fodd bynnag, roedd yn anochel fod cyfraniad rhai sefydliadau ac nid eraill yn y broses hon wedi arwain at oruchafiaeth cenhedloedd penodol yn y sampl. Er bod yr arddull hwn yn llafurus iawn ac yn cymryd tipyn o amser, efallai mai dyma’r mwyaf manteisiol ac mae’n darparu mathau gwahanol o fewnwelediad na’r rhai sy’n bosibl trwy strategaethau mynediad eraill. Yn olaf, gwnaed cryn ymdrech hefyd i gynnal arolygon yn swyddfeydd Asiantaeth Ffiniau’r DU. Y bwriad oedd cyfweld y rhai oedd yn mynychu’r swyddfeydd i dderbyn statws gan gipio profiadau gwahanol garfan, yn cynnwys rhai oedd wedi cyrraedd yn fwy diweddar ac wedi eu prosesu trwy’r system gwaith achos newydd (y cyfeirir ato’n aml fel y Model Lloches Newydd). Mewn gwirionedd, fe brofodd i fod yn anodd iawn nodi’r amserau pan fyddai ffoaduriaid yn mynychu’r swyddfeydd er mwyn derbyn eu statws ac felly’n anodd cydlynu’r broses ymchwil. Dim ond pedwar cyfweliad a gyflawnwyd gydag ymatebwyr yn swyddfeydd UKBA er gwaethaf ymdrechion glew. Roedd lleoliad y cyfweliadau hyn hefyd yn achos penbleth o ran ymddiriedaeth a chyfrinachedd i’r ymatebwyr. Yn absenoldeb unrhyw strategaeth ar gyfer casglu data systematig ar sgiliau, anghenion a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, mae nodi arddull methodolegol priodol ar gyfer unrhyw waith yn y maes hwn yn y dyfodol wedi bod yn amcan pwysig i’r arolwg hwn. Yn y cyd-destun hwn, mae nifer o faterion methodolegol yn gysylltiedig â chyflawni’r arolwg sy’n werth eu trafod yn gryno yma. Yn ogystal â’r problemau samplu a nodwyd uchod, mae’r rhain yn cynnwys materion moesegol, er enghraifft sicrhau caniatâd gwybodus a diogelu anhysbysrwydd a chyfrinachedd yr wybodaeth a gasglwyd, defnyddio cyfieithwyr a thalu cymhelliant a chostau ymchwil. Parthed materion moesegol, gwnaethpwyd cryn dipyn i sicrhau fod pawb oedd yn cymryd rhan yn deall amcanion yr ymchwil yn llwyr cyn iddynt benderfynu cymryd rhan neu beidio. Darparwyd dalen wybodaeth i’r holl ymatebwyr posibl (gweler Atodiad 1) a sicrhau caniatâd ar bapur cyn cyflawni’r cyfweliad. Cynghorwyd ymatebwyr y gallent dynnu allan o’r ymchwil ar unrhyw adeg, yn cynnwys yn ystod y cyfweliad ei hun. Rhoddwyd sicrwydd am gyfrinachedd ac anhysbysrwydd yr wybodaeth a gasglwyd ac roedd hyn fel arfer yn ddigon, er bod rhai ymatebwyr yn dal yn nerfus ac yn poeni y gallai gwybodaeth a roddwyd yn y cyfweliad gael ei drosglwyddo i’r awdurdodau, yn arbennig Asiantaeth Ffiniau’r DU. Gallai’r gofid hwn adlewyrchu, yn rhannol o leiaf, y ffaith nad yw nifer o’r rhai gyda statws ffoadur yn teimlo’n ddiogel am eu dyfodol o ganlyniad i benderfyniad y Swyddfa Gartref i gael gwared ar hawl diamod i aros a chynnig hawl cyfyngedig i aros am bum mlynedd yn unig yn ei le. O ran defnyddio cyfieithwyr, dylid nodi er bod tua un o bob pump o’r rhai a gymrodd ran wedi gofyn am gyflawni’r cyfweliad trwy gyfieithydd, oherwydd diffyg adnoddau i dalu’r costau cysylltiedig roedd yn rhaid dibynnu ar sefydliadau gwirfoddol a ffrindiau

11

a theulu ymatebwyr i gynorthwyo gyda’r dehongli. Nid oedd hyn yn ddelfrydol, yn arbennig wrth iddi ddod yn amlwg yn ystod y cyfweliad fod problemau cyfathrebu. Yn ogystal, nid oedd unrhyw adnoddau ar gael i dalu costau cysylltiedig â chymryd rhan yn yr arolwg nac i ddiolch i’r ymatebwyr am eu hamser. Yr unig gymhelliant i gyfranwyr oedd yr addewid o adborth ac y byddai casgliadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i geisio gwella ansawdd gwasanaethau a’r gefnogaeth a roddir i ffoaduriaid yn byw yng Nghymru. Bydd angen i unrhyw arolwg yn y dyfodol sicrhau y gellir ad-dalu costau teithio ac eraill i ymatebwyr a bod, yn ddelfrydol, cymhelliant iddynt gymryd rhan. Cymrodd ychydig dros hanner y cyfweliadau rhwng 30 a 60 munud i gwblhau’r arolwg. Cymrodd un o bob pump (20.3%) dros 60 munud ac fe gymrodd un o bob pump (19.5%) lai na 30 munud. Ar y sail hon, gellid ystyried cymhelliant ymchwil o £10-15 y cyfweliad. Yn olaf, dim ond gyda ffoaduriaid sydd wedi derbyn statws y cyflawnwyd yr arolwg. O ystyried nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn gwahaniaethu rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran darparu nifer o wasanaethau, dylid ystyried cynnwys ceiswyr lloches yn unrhyw ymchwil yn y dyfodol sy’n ceisio nodi sgiliau, anghenion a phrofiadau’r rhai sy’n byw yng Nghymru. Dyma’r arddull a ddefnyddiwyd yn y gweinyddiaethau eraill (gweler, er enghraifft, Charlaff et al. 2004). 1.5 Nodweddion y boblogaeth sampl Cymrodd cyfanswm o 123 o ffoaduriaid ran yn yr arolwg. Roedd ymatebwyr yr arolwg yn byw yng nghlymdrefi Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe gyda thua traean ym mhob dinas (34.1%, 29.3% a 32.5% yn y drefn honno). Roedd cyfran fechan o ymatebwyr (4.1%) yn byw yn Wrecsam. Mae’n bwysig pwysleisio nad yw'r sampl hwn yn gynrychiadol oherwydd y problemau samplu a amlinellir uchod a’r diffyg gwybodaeth llinell sylfaen ar gyfanswm y boblogaeth o ffoaduriaid yn byw yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n darparu grŵp sylweddol y mae gennym bellach wybodaeth ar eu sgiliau, anghenion a phrofiadau o fyw yng Nghymru. Dengys Ffigwr 3 wlad tarddiad ymatebwyr yr arolwg. Y prif wledydd tarddiad yw Eritrea (21.1%), Swdan (13.8%), Irac (9.8%), Somalia (8.9%), Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (6.5%), Iran (6.5%), Twrci (4.9%), Algeria (4.1%) a Zimbabwe (3.3%).

12

Ffigwr 3: Gwlad tarddiad ymatebwyr Mae cyfran sylweddol o ymatebwyr o wledydd eraill (26 ymatebwr o 22 o wledydd tarddiad gwahanol). Mae hyn yn adlewyrchu rhywfaint, ond nid pob un, o’r prif genhedloedd y gwyddom i fod wedi eu gwasgaru yng Nghymru ar ddiwedd 2007. Mae’r penderfyniad i weithio gyda sefydliadau’r gymuned ffoaduriaid i gael mynediad at ymatebwyr yr arolwg yn esbonio goruchafiaeth rhai grwpiau cenedlaethol dros eraill i raddau. Mae cyfansoddiad y sampl hefyd yn adlewyrchu’r ffaith fod rhai grwpiau yn fwy tebygol nag eraill i geisio mynediad i wasanaethau cefnogaeth prif ffrwd, megis y rhai sydd ar gael yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru, ble cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r cyfweliadau. Mae oddeutu 70% o ymatebwyr yr arolwg hwn yn 25-44 oed, unwaith eto’n adlewyrchu’r hyn a wyddom yn gyffredinol am strwythur demograffig y boblogaeth o ffoaduriaid a goruchafiaeth rhai yn yr ystod oedran hon (Ffigwr 4). Nid oedd yr un o’r ymatebwyr dros 65 oed, ac mae hyn yn agwedd o’r fframwaith samplu y dylai unrhyw waith arolwg yn y dyfodol daclo.

Eritrea Swdan Irac Somalia Y Congo Iran Twrci Algeria Zimbabwe Arall

13

Ffigwr 4: Oed ymatebwyr

Mae’r sampl yn cynnwys cydbwysedd o ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd 57% a 43% yn y drefn honno). Roedd ychydig dros hanner (55.3%) ymatebwyr yn briod pan gyflawnwyd yr arolwg. Dim ond un ymatebwr oedd yn byw gyda phartner. Roedd y gweddill yn sengl (37.4%), wedi gwahanu, ysgaru neu’n weddwon neu’n dewis peidio rhoi gwybodaeth am eu statws priodasol. Mae gan dros hanner (59.3%) yr ymatebwyr blant, ac mae gan bron i hanner y rheiny (45.2%) ddau o blant. Ychydig iawn o ymatebwyr (5.4%) sydd â mwy na phedwar o blant. Mae gan tua thraean ymatebwyr (31.7%) blant sy’n bump oed neu iau. Ychydig iawn o ymatebwyr sy’n ystyried fod ganddynt anabledd ac ni ymddengys fod yr un ohonynt wedi cofrestru fel anabl. O ran ethnigrwydd, disgrifiodd dros hanner (56.9%) yr ymatebwyr eu hunain fel ‘Du Affricanaidd’, 11.4% fel ‘Gwyn’ a 26% fel ‘Arall’. Mae’n werth nodi nad oedd isafswm sylweddol o ymatebwyr (26%) yn ystyried fod unrhyw un o’r categorïau ethnigrwydd safonol yn disgrifio eu grŵp neu darddiad ethnig yn gywir. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer y rhai o’r Dwyrain Canol nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod yn ‘Ddu’. Dewisodd rhai ymatebwyr ddisgrifio eu grŵp ethnig yn nhermau gwlad eu tarddiad (er enghraifft, Iracaidd, Affganistanaidd, Swdanaidd, Fietnamaidd neu Gwrdaidd). Disgrifiodd eraill eu hunain fel ‘Arabaidd’, ‘Dwyrain Canol’, ‘America Ladin’ neu ‘Berber’. Disgrifiodd un ymatebwr ei darddiad ethnig fel ‘Cymro Somalaidd’ (Ffigwr 5). Gofynnwyd i ymatebwyr am eu crefydd neu gredo. Disgrifiodd tua hanner (49.6%) eu hunain fel Mwslimiaid, ac ychydig dan hanner (43.1%) fel Cristnogion, gyda chyfrannau llai o Sikhiaid, Bwdhyddion a Hindŵiaid (yn cynrychioli un neu ddau unigolyn ym mhob achos).

14

Ffigwr 5: Ethnigrwydd ymatebwyr

Mae’r arolwg yn gofyn cyfres o gwestiynau am faint o amser mae’r ffoaduriaid wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig a Chymru, pryd y gwnaethpwyd eu cais am loches (a ble roeddynt yn byw ar y pryd), a phryd y symudont i Gymru. Mae cwestiynau am faint o amser a dreuliwyd yn y Deyrnas Unedig a Chymru yn bwysig oherwydd mae gan yr amser a dreulir mewn gwlad ailgyfanheddu oblygiadau sylweddol ar y broses o integreiddio. Yn ogystal, gwyddwn fod gan y dyddiad y gwneir cais am loches oblygiadau arwyddocaol oherwydd newidiadau sylweddol i bolisi ac ymarfer lloches yn ystod y ddegawd ddiwethaf, yn cynnwys polisïau parthed y broses o integreiddio ffoaduriaid. Gwyddwn fod faint o amser mae’n rhaid i unigolyn aros i glywed y penderfyniad terfynol o ran cais am loches yn cael effaith sylweddol ar y broses o integreiddio oherwydd yr oblygiadau ar eu gallu i gael mynediad i’r farchnad lafur, tai cymdeithasol a gwasanaethau eraill, yn cynnwys addysg bellach (Bloch 2004). Yn yr un boblogaeth samplu, mae ceisiadau am loches wedi eu dosbarthu’n weddol gyfartal yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gyda’r rhan fwyaf o geisiadau (15.7%) wedi eu gwneud yn 2003, gan ddilyn gyda 2008, 2002, 2007 a 2004. Cafodd cyfran sylweddol (44%) o’r ymatebwyr statws yn 2008, ac un pumed arall (17.9%) statws yn 2007. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o ‘clirio ôl-groniad’ neu ‘raglen etifeddiaeth’ y Swyddfa Gartref. Mae bron i dri chwarter (71.5%) wedi derbyn statws ffoadur gyda chaniatâd amhenodol i aros, a chwarter arall (24.4%) wedi derbyn statws ffoadur am bum mlynedd, Er y dylid nodi yma nad oedd holiadur yr arolwg yn gwahaniaethu’n ddigonol rhwng y ddau gategori statws. Mae gan bron i un o bob pump (17.1%) o ffoaduriaid yr arolwg ddinasyddiaeth Brydeinig, ac mae gan y mwyafrif helaeth o’r rhai nad oes ganddynt ddinasyddiaeth ddiddordeb mewn gwneud cais i fod yn ddinasyddion Prydeinig unwaith y byddant yn bodloni’r gofynion.

Gwyn Bangladeshaidd Asiaidd Arall Du Affricanaidd

Du Arall Tsieineaidd Grŵp ethnig arall

15

Ffigwr 6 Crefydd neu gredo ymatebwyr

Mae bron i hanner (44.7%) y rhai a gymrodd ran yn yr arolwg wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ers dros bum mlynedd ac mae traean (35.8%) wedi bod yn byw yng Nghymru am y cyfnod hwnnw. Roedd y mwyafrif o ymatebwyr (81.1%) yn byw tu allan i Gymru pan wnaethant gais am loches (Llundain yn bennaf), ond fe’i gwasgarwyd i Gymru wedi gwneud cais. Symudodd deg o’r ymatebwyr (8.1%) i Gymru wedi derbyn statws ffoadur.

Cristion

Mwslim

Sikh

Hindŵ

Bwdhydd

Dim

Arall

16

17

Adran 2 Tai 2.1 Pwysigrwydd tai Mae yna gonsensws yn y llenyddiaeth gyfredol bod tai yn gonglfaen ar gyfer integreiddio ffoaduriaid yn llwyddiannus (Robinson 2006). Yn ôl y fframwaith a ddatblygwyd gan Ager a Strang (2004), mae tai yn strwythuro rhan helaeth o brofiadau integreiddio ffoaduriaid. Mae cyflwr tai yn effeithio ar ymdeimlad cymuned o ddiogelwch a sefydlogrwydd, cyfleoedd i gysylltu’n gymdeithasol, a mynediad i ofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn adran 6 o’r adroddiad hwn yn awgrymu bod materion tai yn gysylltiedig ag ansawdd a fforddiadwyedd y llety ei hun, yn ogystal â’i leoliad, ac a yw’r bobl hynny sy’n byw yn y gymdogaeth yn deall amrywiaeth ai peidio. Cydnabyddir pwysigrwydd tai yn Strategaeth Integreiddio Ffoaduriaid y DU (Swyddfa Gartref 2005) ac yn Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC 2008). Mae LlCC yn ystyried bod tai o ansawdd gwael yn fater o bwys i ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, ac yn cydnabod bod hyn yn rhwystr allweddol rhag cynhwysiad. Mewn ymateb i hyn, cyhoeddwyd canllawiau am dai ar gyfer ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i helpu darpar ddarparwyr gwasanaeth, a’r rhai sy’n bodoli eisoes, i ddatblygu a chyflawni gwasanaethau tai ymatebol i ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid. Mae Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru Gyfan a gyhoeddwyd yn ddiweddar (LlCC 2009) hefyd yn cydnabod y gall darpariaeth tai fod yn un o’r ffactorau sy’n arwain at dyndra cymunedol, sy’n gallu achosi cydlyniad cymunedol gwael, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o dlodi. Gall dulliau gwael o ddyrannu tai achosi mwy o risg i ddiogelwch personol a thyndra cymunedol. Fel gydag agweddau eraill ar integreiddio, ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael am brofiadau tai'r ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Yr unig eithriad sy’n dwyn ein sylw yw astudiaeth a wnaed gan Robinson (2006) ar gyfer Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithasau Tai (hact). Mae e’n nodi, ar adeg pan fo nifer y cartrefi yn cynyddu’n gyffredinol, a chyda’r galw am dai fforddiadwy yn cynyddu hefyd, bod stoc tai cymdeithasol yng Nghymru wedi gostwng. Dylid nodi y credir bod digartrefedd ymysg ffoaduriaid yng Nghymru yn broblem gynyddol, ac mae newidiadau polisi eithaf diweddar yn golygu nad oes gan ffoaduriaid yr hawl, o bosib, i gael gwasanaethau digartrefedd yn eu hardal2. Yn yr Alban, ac mewn gwrthgyferbyniad llwyr â hyn, ni ystyrir bod gan ffoaduriaid gysylltiad lleol. Mae hyn yn golygu bod posib i’r ffoaduriaid ddiogelu llety mewn cymunedau lle 2 Diwygiodd Adran 11 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr etc) 2004 y darpariaethau sy’n ymwneud â chysylltiad lleol a welir yn neddfwriaeth digartrefedd Cymru a Lloegr fel bod ymofynwyr noddfa yn creu cysylltiad lleol yn awtomatig gyda’r ardal ddiwethaf lle cawsant lety dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (hynny yw, llety a ddarperir gan y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches). Mae hyn yn golygu petai ymofynnwr noddfa yn cael yr hawl i aros yng Nghymru a Lloegr ac yn gwneud cais digartrefedd yn ddiweddarach, byddai ganddo/ganddi gysylltiad lleol gyda’i (h)ardal wasgaru. Os bydd ef neu hi yn gwneud cais am gymorth gyda digartrefedd mewn rhan wahanol o Gymru neu Loegr, ac nad oes ganddo/ganddi gysylltiad lleol yno am ba bynnag reswm (er enghraifft cysylltiadau teuluol neu waith) a bod dyletswydd digartrefedd yn berthnasol, yna gall yr awdurdod tai lleol (os ydynt yn dymuno gwneud hynny) gyfeirio’r cais yn ôl i’r awdurdod lleol yn yr ardal wasgaru.

18

maen nhw’n teimlo’n ddiogel, yn hytrach na chael eu gorfodi i fyw mewn ardaloedd y maen nhw wedi cael eu gwasgaru iddynt am resymau gweinyddol. Mae dod o hyd i lety sefydlog yn ffactor hanfodol wrth wneud yn siŵr bod ffoaduriaid yn gallu dechrau ailsefydlu eu bywydau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw wybodaeth ar raddfa fawr am ddigartrefedd ymysg ffoaduriaid, ei effaith ar unigolion neu sefydliadau perthnasol, na’i amrywiaeth ddaearyddol. Yn ogystal â hyn, mae tystiolaeth bod bwlch fforddiadwyedd yng Nghaerdydd. Nid yw budd-daliadau tai wedi parhau i gynyddu gyda gwerth eiddo yng Nghaerdydd, felly mae ffoaduriaid - ynghyd â phreswylwyr y DU - yn cael trafferth talu am lety preifat fforddiadwy. Mae Robinson (2006) yn awgrymu bod ffoaduriaid dan anfantais ddwbl oherwydd yr anawsterau sy’n eu hwynebu wrth gael gwaith (a drafodir isod), sydd felly yn gostwng eu hannibyniaeth ariannol a’u cyfle o gael tai. 2.2 Cyflwr tai a llety Gofynnodd yr arolwg nifer o gwestiynau am brofiadau ac anghenion tai ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys cwestiynau mewn perthynas â daliadaeth ac ansawdd llety. Mae mwyafrif sylweddol (89.4%) o'r rhai wnaeth ymateb yn byw mewn llety wedi’i rentu, a’r cyngor neu’r awdurdod lleol yw’r landlord ar gyfer dwy ran o dair o’r rhain (69%). Disgrifiwyd NASS fel landlord 17 o’r rhai wnaeth ymateb. Nid yw’n glir pam fod ffoaduriaid gyda statws yn parhau i fyw mewn llety NASS, ond mae’n debyg bod hyn oherwydd nad oes tai cymdeithasol priodol i symud y teuluoedd iddynt. Ychydig iawn o’r ffoaduriaid wnaeth gymryd rhan yn yr arolwg sy’n berchen ar eu heiddo eu hun gyda morgais neu fenthyciad (4.1%). Dywedodd chwech o’r rhai wnaeth ymateb eu bod yn aros gyda theulu neu ffrindiau, disgrifiwyd hyn gan un ohonynt fel ‘syrffio soffas’ ac mae dau yn aros mewn hostel. Mae’r rhain (6.5%) yn ddigartref mewn gwirionedd. Mae hyn yn gyson gyda darganfyddiadau gwaith ymchwil eraill a welodd bod daliadaeth tai ffoaduriaid yn amrywio o bobl lleiafrif ethnig eraill gyda chyfran uwch yn rhentu a llai o lawer yn berchen ar eu heiddo neu’n prynu eu heiddo (Bloch 2002). Er bod un ym mhob pump o’r rhai a holwyd (20.3%) wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw broblemau gyda’u llety, disgrifiodd y mwyafrif helaeth bod ganddynt broblemau tai arwyddocaol gan gynnwys diffyg llety parhaol (36.6%), cyflwr eu llety (28.5%), ystafelloedd annigonol (20.3%), problemau gyda chymdogion neu’r gymuned (14.6%), a chost (13%). Rhoddodd y rhai a holwyd sylwadau ansoddol am ansawdd eu llety, gyda llawer ohonynt yn disgrifio problemau gyda chyflwr yr eiddo (sef tamprwydd, pla o bryfaid neu lygod, ystafelloedd a charpedi budur) a threfniadau byw (yn enwedig gordyrru a diffyg preifatrwydd). Nodwyd pryder hefyd am agwedd ac ymddygiad y preswylwyr eraill tuag atyn nhw a’u plant. Ategwyd y sylwadau hyn yn ystod y broses ymchwil pan gynhaliwyd cyfweliadau yn nhai’r rhai a holwyd. Er enghraifft, gwelwyd baw cŵn a baw dynol ar riniog eiddo’r cyngor lle'r oedd teulu â dau o blant ifanc yn byw. Roedd y fam wedi cloi ei hun yn yr eiddo ac roedd hi’n amlwg ofni ei chymydog am ei bywyd. Dylid nodi fodd bynnag, fod y gyfran sy’n nodi problemau gyda chymdogion neu’r gymuned yn llai o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl o’i gymharu â’r dystiolaeth gref o hiliaeth a

19

gwahaniaethu a ddisgrifir yn adran 6 yr adroddiad hwn. Mae’n debygol bod yr anghysondeb hwn yn deillio o ddau bwynt. Yn gyntaf, mae’n bosib bod cyfuno’r ddwy elfen yma – cymdogion a’r gymuned – i un cwestiwn yn yr arolwg, yn creu problemau. Mae’r ymatebion ansoddol yn nodi bod pobl yn meddwl bod y gymuned yn cyfeirio at eraill sy’n deillio o’u gwlad wreiddiol neu eu rhanbarth gwreiddiol yn hytrach na’r ardal lle bont yn byw ar hyn o bryd. Yn ail, mae tystiolaeth wrth law bod pobl yn rhyngweithio’n dda gyda rhai aelodau o’r gymuned a’u cymdogion cyfagos, ac ar yr un pryd yn dioddef gelyniaeth a hiliaeth gan eraill. Mewn gwirionedd, efallai bod ffoaduriaid yn cael profiadau gwahanol – cadarnhaol a negyddol – o fyw mewn lle penodol. Trafodir goblygiadau hiliaeth a gwahaniaethu fel rhwystr i gynhwysiad ymhellach yn adran 6 o’r adroddiad hwn.

Ansawdd a lleoliad y llety Nid yw’n ddiogel gan mai llety dros dro ydyw. Mae tamprwydd yno ac mae’r ffenestri a’r drysau mewn cyflwr gwael. Mae’r cyflwr esthetaidd yn wael iawn ac mae’n ddrud iawn. Ar ôl ceisio pob ffordd posib o ddod o hyd i dŷ fforddiadwy a phriodol, nid oedd gennyf opsiwn arall ond symud i lety preifat sy’n ddrud iawn ac nid yw budd-dal tai yn talu amdano’n llwyr. Rwy’n ymwybodol o fy hawliau ac rwy’n ystyried bod hyn yn mynd yn erbyn fy hawliau fel ffoadur. Nid oes digon o dai fforddiadwy yng Nghaerdydd, mae fy ffrindiau i gyd yn dioddef yr un problemau. Mae fy nghartref yn bell oddi wrth ysgol y plant ac nid yw cludiant cyhoeddus yn ddibynadwy. Mae tacsis yn rhy ddrud ac mae’n anodd eu defnyddio yn ystod yr adegau prysur. Nid oes lleoedd ar gael i fy mhlant yn yr ysgol leol. Deunaw mis yn ôl, dechreuodd plant o’r ardal leol daflu cerrig at fy eiddo, a chafodd ffenestr ei thorri. Ers hynny mae’r problemau wedi stopio. Cysylltais â’r heddlu, ond fe ddywedont nad oedd unrhyw beth y gallant ei wneud gan fod y teulu neu’r rheiny oedd yn gyfrifol am daflu’r cerrig wedi gwadu popeth. Cawsom ein cartrefu yn [lleoliad yn Abertawe] i ddechrau. Yn ystod y tair blynedd yno, roeddem yn dioddef camdriniaeth hiliol gyson, ar lafar ac yn gorfforol a difrod i’n heiddo gan bobl ifanc a hen bobl. Cawsom ein symud i [lleoliad] lle barhaodd y sefyllfa a gwaethygodd gan roi dim dewis i ni ond prynu ein cartref ein hunain.

20

21

Adran 3 Sgiliau, cymwysterau a galluoedd ieithyddol 3.1 Pwysigrwydd addysg ac iaith Yn ôl Ager a Strang (2004), mae mynediad i – a chynnydd o fewn – y system addysg yn gweithredu fel pwynt integreiddio arwyddocaol, a ffordd bwysig o wireddu’r targed yma. Mae addysg yn creu cyfleoedd arwyddocaol ar gyfer cyflogaeth, cysylltiad cymdeithasol ehangach a dysgu ieithoedd. Mae nifer o astudiaethau cyfredol wedi archwilio profiadau a chymwysterau addysgol ffoaduriaid cyn iddynt gyrraedd y DU. Yn gyffredinol, dengys yr astudiaethau hyn fod y ffoaduriaid yn meddu ar fwy o gymwysterau na’u cyfoedion yn y DU. Yn yr archwiliad mwyaf a gynhaliwyd erioed yn y DU hyd yn hyn am sgiliau ffoaduriaid, archwiliodd Kirk (2004) sgiliau a chymwysterau ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio dull arolwg. Roedd bron i hanner y bobl a holwyd wedi cael deng mlynedd neu fwy o addysg, ac roedd dros 40% yn meddu ar gymwysterau cyn cyrraedd y DU. Darganfyddodd Charlaff et al (2004) bod y mwyafrif o ffoaduriaid ac ymofynwyr noddfa sy’n byw yn yr Alban yn meddu ar gymwysterau da. Dywedodd mwy na 75% o’r rhai a holwyd eu bod wedi cwblhau eu haddysg yn yr ysgol uwchradd (neu addysg gyfwerth), dywedodd dros hanner eu bod wedi cwblhau addysg mewn coleg (neu addysg gyfwerth) a dywedodd tua 21% o’r rhai a holwyd eu bod wedi cwblhau cwrs mewn prifysgol. Er hyn, mae llawer o ffoaduriaid yn cael anhawster wrth gael gwaith sy’n briodol i’w sgiliau a’u cymwysterau (Bloch 2004), mater a drafodir ymhellach yn adran 4 o’r adroddiad hwn. Mae hyn yn adlewyrchu, yn rhannol o leiaf, bod anawsterau wrth gymharu cymwysterau addysgol o wahanol wledydd, a’r materion sy’n gysylltiedig â diogelu cydnabyddiaeth ar gyfer y cymwysterau hyn ym marchnad waith y DU. Cydnabyddir pwysigrwydd sgiliau iaith Saesneg er mwyn integreiddio ffoaduriaid gan bawb (Bloch 2002; Swyddfa Gartref 2004; LlCC 2008). Yn ôl Bloch (2002) a Rutter et al (2008), sgiliau iaith Saesneg yw’r ffactor pwysicaf wrth sicrhau gwaith. Y prif rwystr wrth chwilio am swydd neu waith yw methu siarad Saesneg sy’n golygu na allant ddefnyddio eu sgiliau i’r eithaf (Swyddfa Gartref 2004). Yn ogystal â hyn, mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg (neu Gymraeg) yn bwysig wrth gyflawni cymunedau integredig a chydlynol. Drwy ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan MORI, gwelwyd bod 60% o’r bobl a holwyd yn credu mai methu siarad Saesneg oedd y rhwystr mwyaf i gydlyniad (LlCC 2009), tra roedd adroddiad Comisiwn ar Integreiddio a Chydlyniad (2007) yn nodi iaith gyffredin fel rhan hanfodol o integreiddio a chydlyniad. Gall methu cyfathrebu mewn iaith benodol effeithio ar allu unigolyn i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu eu hawliau. O gofio pwysigrwydd iaith, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi pwyslais sylweddol ar ddarparu hyfforddiant Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Darganfyddodd ymchwil a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref mai’r prif rwystr i ffoaduriaid sy’n dymuno cael hyfforddiant ESOL yw diffyg dosbarthiadau a rhestrau aros hir yn Llundain a’r rhanbarthau (Griffiths 2003). Mae hyn yn golygu bod recriwtio a hyfforddi athrawon ESOL yn flaenoriaeth bwysig. Yn ogystal â hyn, er bod lefelau sylfaenol i lefelau uwch o Saesneg yn cael eu dysgu ar y rhan fwyaf o gyrsiau ESOL, mae tystiolaeth o ddiffyg hyfforddiant iaith Saesneg ar gyfer datblygiad proffesiynol neu alwedigaethol. Ym mhob achos, mae diffyg gofal

22

plant yn golygu na all merched fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Gellir gweld enghreifftiau o’r materion hyn yng Nghymru hefyd, lle bo’r galw wedi cynyddu, ac mae’n debyg y bydd yn cynyddu eto gan fod gofyn i ffoaduriaid ddangos eu bod yn meddu ar sgiliau iaith Saesneg ESOL Lefel Mynediad 3 neu uwch er mwyn cael dinasyddiaeth ac o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y gweithwyr ymfudol, yn enwedig o wledydd Undeb Ewropeaidd. Mae LlCC yn cydnabod nad oes digon o hyfforddiant ESOL yn cael ei ddarparu yng Nghymru ar hyn o bryd i fodloni’r galw, sy’n golygu bod dysgwyr mewn rhai ardaloedd ar restrau aros (LlCC 2008, 2009). 3.2 Cymwysterau Addysgol Cyn yr arolwg hwn, roedd yr unig wybodaeth benodol oedd ar gael am sgiliau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru wedi’i chymryd o archwiliad sgiliau a gynhaliwyd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru (2007) fel rhan o Menter Cyfartal (rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n bwriadu ymdrin â ffurfiau o wahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y farchnad lafur, ar gyfer y rheiny sy’n gweithio eisoes a’r rheiny sy’n chwilio am waith). Darganfyddodd yr arolwg o 360 o ffoaduriaid bod 60% o’r rheiny sy’n byw yng Nghymru yn meddu ar gymhwyster addysg bellach neu uwch a bod gan 27% o’r rhain radd prifysgol. Mae canlyniadau’r arolwg yn gyson â chanfyddiadau’r arolwg hwn ac arolygon eraill. Nid oedd gan leiafrif o’r rhai a holwyd (15.4%) unrhyw gymwysterau pan gyrhaeddont y DU. Roedd gan dri chwarter (76.4%) o’r rhai a holwyd dystysgrif addysg ysgol uwchradd ac roedd gan 43.9% ddiploma. Roedd mwy na chwarter (28.5%) wedi ennill eu gradd prifysgol yn eu gwlad wreiddiol ac roedd gan 8.9% gymhwyster ôl-radd hefyd. Dywedodd nifer eithaf bychan o’r rhai a holwyd bod ganddynt gymwysterau galwedigaethol neu eu bod wedi cael hyfforddiant galwedigaethol neu broffesiynol ers cyrraedd y DU. Gofynnwyd a oedd unrhyw un o’r rhai a holwyd wedi ennill cymwysterau ers cyrraedd y DU. Er nad oedd y mwyafrif helaeth o ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru (38.2%) wedi ennill unrhyw gymwysterau ers dod i’r DU, mae un rhan o dair ohonynt (32.5%) wedi ennill cymhwyster iaith Saesneg ac mae 13.8% wedi cyflawni gradd prifysgol neu gymhwyster ôl-radd (8.1% a 5.7% yn ôl eu trefn). Roedd mwy nac un rhan o dair (37.4%) o’r rhai a holwyd yn astudio cyrsiau addysgol pan gynhaliwyd yr arolwg. Yn ogystal â hyfforddiant iaith Saesneg, roedd y cyrsiau yn cynnwys TAR, cyfrifo, technoleg cerdd, cynllunio, cynhyrchu fideos, cyllid cyhoeddus, lles cymdeithasol, seicoleg, dylunio, cynhyrchu, gofal plant ac adnoddau dynol. Bydd nifer o’r cyrsiau hyn yn arwain at radd neu gymwysterau ôl-radd. Mae canfyddiadau’r arolwg yn awgrymu bod lefel hyfforddiant ffoaduriaid yng Nghymru yn uwch o lawer na’r hyn a nodwyd gan Bloch (2002), a ddarganfyddodd mai dim ond 4% o ffoaduriaid a gymrodd rhan yn yr arolwg oedd yn ymgymryd â hyfforddiant (er bod cyfran uwch o lawer, 60% o’r rhai a holwyd, wedi dangos diddordeb mewn cyfleoedd i gael hyfforddiant). Mae hanner (49.6%) y rheiny sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil hwn wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi ers cyrraedd y DU, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi gyrru wagenni fforch godi, hylendid bwyd, TGCh, cymorth cyntaf, iechyd a diogelwch, cwnsela, homeopathi, arlwyo a gwaith-chwarae. Efallai bod hyn yn adlewyrchu ar brofiadau a chefndiroedd penodol y rhai a holwyd neu’r cyfleoedd oedd ar gael.

23

Dywedodd nifer o’r rhai a holwyd eu bod wedi dechrau astudio – neu’n dymuno dechrau astudio – cyrsiau addysgol neu gyfleoedd hyfforddiant ond nad oeddent yn gallu gwneud hynny, neu’n methu gorffen eu hastudiaeth oherwydd salwch neu anawsterau gydag ariannu a/neu gyfrifoldebau domestig a gofal plant. Roedd diffyg gwybodaeth a’r ffaith mai ond yn ddiweddar y cawsant eu statws ffoadur hefyd yn cael eu nodi fel rhesymau ychwanegol dros beidio â manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant ac addysg. Roedd cyfran sylweddol o’r rheiny oedd wedi cyrraedd y DU yn fwy diweddar wedi dweud eu bod yn rhy brysur yn ceisio setlo mewn i’w bywydau newydd i archwilio’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant oedd ar gael iddynt. 3.3 Sgiliau a hyfforddiant iaith Saesneg Darganfyddodd Bloch (2002) bod sgiliau iaith Saesneg ffoaduriaid, a hunan aseswyd ganddynt, yn wael ar y cyfan wrth gyrraedd y DU, ond mae’r sgiliau hyn yn gwella’n sylweddol dros amser. Mae canfyddiadau’r arolwg yn gyson ar y cyfan gyda hyn. Gofynnwyd iddynt ddisgrifio eu sgiliau iaith Saesneg cyn dod i’r DU a phan gynhaliwyd yr arolwg. Dywedodd tua thraean (31.7%) o’r rhai a holwyd bod eu sgiliau iaith Saesneg yn ‘wael iawn’ cyn iddynt gyrraedd y DU, gyda llai nag un ym mhob deg (9.8%) yn ystyried bod ganddynt sgiliau iaith Saesneg ‘da iawn’. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, mae dwy ran o dair (65.9%) yn ystyried bod eu sgiliau iaith Saesneg pan gynhaliwyd yr arolwg yn ‘dda iawn’ ac ychydig iawn (dim ond dau o’r rhai a holwyd) yn teimlo y gellid disgrifio eu sgiliau iaith fel ‘gwael iawn’ (Ffigwr 7). Ymddengys y gellid priodoli o leiaf ychydig o’r gwelliant yn sgiliau iaith Saesneg y ffoaduriaid i hyfforddiant iaith. Roedd dwy ran o dair (68.3%) o’r rhai a holwyd wedi cael rhywfaint o hyfforddiant iaith Saesneg swyddogol ers cyrraedd y DU, er mae’n debyg oherwydd y cyfnod o amser y mae’r grŵp sampl wedi’i dreulio yn y DU, mae’n golygu bod gan y ffoaduriaid yn yr arolwg hwn well sgiliau iaith na’r rheiny sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar, yn syml oherwydd eu bod yn byw mewn gwlad lle mai Saesneg yw’r brif iaith o gyfathrebu. Nododd eraill bryderon am anawsterau wrth ddiogelu mynediad i leoedd, priodoldeb lefel yr hyfforddiant a roddwyd (fel arfer yn rhy hawdd), cyrsiau a gwersi/ dosbarthiadau yn rhy fyr, diffyg gofal plant a/neu amser y dosbarthiadau yn ei gwneud hi’n anodd i rieni (yn enwedig mamau) sydd â phlant yn yr ysgol i fynychu’r hyfforddiant. Soniodd nifer o’r rhai a holwyd am gostau cysylltiedig, yn enwedig cost tocyn bws. Dywedodd tua hanner y rheiny nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant iaith Saesneg bod hyn oherwydd eu bod eisoes yn ddigon hyfedr yn Saesneg, a nododd yr hanner arall mai diffyg dosbarthiadau a rhestrau aros hirfaith oedd y prif broblemau.

24

Ffigwr 7 Sgiliau iaith Saesneg (cyn ac ar ôl cyrraedd yn y DU)

Cyn cyrraedd

Nawr

Da iawn Da

Iawn Gwael Gwael iawn

25

Darparu hyfforddiant iaith Saesneg Nid oedd y cwrs yn cael ei gynnal ar y lefel briodol. Roeddwn mewn dosbarth gyda myfyrwyr nad oeddent yn gallu siarad Saesneg o gwbl. Mae diffyg cyfleusterau gofal plant yno. Mae hi’n anodd cyrraedd erbyn 9 o’r gloch os oes gennych chi blant. Nid oes unrhyw gefnogaeth i’w gael gyda chludiant. Nid oedd y lefelau ddigon anodd ac fel bo’r lefelau’n datblygu, disgwylir i chi dalu ffi sy’n afresymol. Ni allwn orffen fy nghwrs IELTS gan fod ffi arholiad o £90. Gofynnais am gefnogaeth ond nid oedd hyn ar gael. Mae tocynnau bws yn ddrud iawn ac nid ydw i wedi gallu hawlio’r rhain yn ôl er fy mod i’n cael lwfans ceisio gwaith a’u bod wedi dweud wrthyf fy mod yn cael ad-daliad am y rhain. Nid yw’r coleg yn gallu esbonio’r sefyllfa na fy helpu i chwaith. Dw i wedi gwario tua £400 hyd yn hyn. Mi fethais i ddosbarthiadau oherwydd blaenoriaethau eraill ar y pryd fel cyfweliadau ceisio gwaith, mynd i weld tai a phethau eraill oedd yn rhan o gael statws ffoadur.

26

27

Adran 4 Cyflogaeth 4.1 Cyflogaeth fel dull ar gyfer integreiddio Mae cyflogaeth yn darparu dull ar gyfer cynhyrchu incwm a gwelliant economaidd, ac o’r herwydd, mae’n cael ei ystyried gan ddadansoddwyr polisi a ffoaduriaid eu hunain fel y prif ffactor sy’n cefnogi integreiddio (Ager a Strang 2004). Mae swyddi hefyd yn werthfawr wrth (ail) sefydlu rolau cymdeithasol, datblygu gallu ieithyddol a diwylliannol ehangach a sefydlu cysylltiadau cymdeithasol. Fel mae Threadgold a Court (2005) yn awgrymu, mae cyflogaeth hefyd yn ddull arwyddocaol o wella hunanhyder a’r syniad o hunanwerth ac mae’n cynrychioli maes o ryngweithio cymdeithasol a diwylliannol hanfodol rhwng cyfoedion (cyfle i ymarfer sgiliau iaith ac integreiddio i mewn i ddiwylliant gwaith y genedl). Cydnabyddir pwysigrwydd cyflogaeth yn y broses o integreiddio ffoaduriaid gan lywodraeth y DU ac fe’i hadlewyrchir yn Strategaeth Integreiddio Ffoaduriaid a pholisïau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP 2004, DWP 2005; Swyddfa Gartref 2005). Mae cyflawni potensial ffoaduriaid drwy gyflogaeth briodol hefyd yn faes blaenoriaeth yn strategaeth cynhwysiad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er hyn, mae ffigyrau diweithdra ymysg ffoaduriaid o oedran gweithio yn annerbyniol o uchel. Mae’r amcangyfrifon o lefelau diweithdra ymysg ffoaduriaid yn amrywio, ond dengys yr ymchwil i gyd bod lefel uchel o ddiweithdra a thangyflogaeth ymysg ffoaduriaid, er gwaethaf y ffaith bod llawer ohonynt yn cyrraedd y DU gyda chymwysterau da a phrofiad gwaith blaenorol yn eu gwlad wreiddiol (Swyddfa Gartref 2004). Tua 36% yw’r cyfartaledd cenedlaethol o ddiweithdra ymysg ffoaduriaid - tua chwe gwaith y cyfartaledd cenedlaethol - ond mae astudiaethau lleol ar raddfa fechan wedi dangos canrannau uwch ymysg rhai cymunedau penodol o ffoaduriaid. Pan fo ffoaduriaid yn gweithio, maent fel arfer mewn swyddi sy’n is o lawer na’u gallu (DWP 2004). Mae gwaith ymchwil gan Harrison a Read (2005) yn amlygu bod llawer o ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid wedi cael eu cyflogi mewn meysydd lle byddai angen addysg i lefel uchel a sgiliau amrywiol yn y gorffennol. Mae achos tangyflogaeth a diweithdra yn amrywio o achos i achos, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod y ffoaduriaid eu hunain yn grŵp amrywiol iawn. Mae’r achosion o anfantais yn amrywio rhwng unigolion, yn aml yn cael eu cymhlethu gan faterion sy’n ymwneud â rhyw ac oedran. Mae rhai wedi methu cael addysg yn eu gwlad wreiddiol, mae eraill yn anllythrennog yn eu hiaith eu hunain ac mae ganddynt sgiliau cyflogadwyedd gwael. Mae eraill yn meddu ar gymwysterau addysg dda gyda sgiliau proffesiynol ac o bosib wedi dysgu Saesneg i lefel uchel cyn cyrraedd y DU. Mae’r anfanteision ar gyfer yr ail grŵp hwn yn cynnwys anawsterau wrth drosglwyddo eu sgiliau a’u cymwysterau i farchnad waith y DU, sy’n golygu continwwm o waith di-grefft a diweithdra i lawer o ffoaduriaid (DWP 2004). Yn ogystal â hyn, mae ymofynwyr noddfa yn wynebu rhwystrau i’r farchnad waith (Bloch 2002). Mae’r ffaith nad yw ffoaduriaid yn cael gweithio tan eu bod yn cael penderfyniad cadarnhaol am eu cais am noddfa yn cyfrannu at broses o golli sgiliau, yn enwedig pan fo’r penderfyniad yn broses hirfaith.

28

4.2 Profiadau o’r farchnad lafur Mae gwaith ymchwil gan Bloch (2002) yn ymchwilio i brofiadau ffoaduriaid o ranbarthau Somalïaidd, Irac, Kosovo, Sri Lanca a Thwrci o’r farchnad lafur. Dangosodd yr ymchwil bod 42% o’r rhai a holwyd yn gweithio cyn dod i’r DU. Roedd y mwyafrif (78%) o’r rheiny yn cael eu cyflogi gan gwmni neu sefydliad yn hytrach na gweithio ar eu liwt eu hunain, a hynny ar draws ystod eang o sectorau a chategorïau galwedigaethol. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn dim ond 29% o’r ffoaduriaid oedd yn gweithio yn y DU. Roedd y rheiny oedd yn gweithio yn cael eu cyflogi’n bennaf mewn rhai diwydiannau penodol neu fathau penodol o swyddi: arlwyo, dehongli a chyfieithu, gwaith siop a swyddi gweinyddol a chlercio. Daw’r unig wybodaeth sydd ar gael sy’n ymwneud yn benodol â phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru o’r farchnad waith o archwiliad a gynhaliwyd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru (2007). Dangosodd yr arolwg er bod 78% o’r ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru wedi bod yn gweithio i gyflogwyr cyn dod i’r DU, roedd 64% bellach yn ddi-waith. Nodwyd diffyg dosbarthiadau ESOL fel un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu ffoaduriaid. Y prif reswm dros beidio â mynychu dosbarthiadau ESOL oedd diffyg cyrsiau yn eu hardal. Mae tystiolaeth o’r arolwg hwn yn gyson ar y cyfan â gwaith ymchwil blaenorol. Mae darganfyddiadau’r arolwg yn nodi bod dwy ran o dair (63.4%) o’r rhai a holwyd wedi cael eu cyflogi cyn dod i’r DU. Nododd y rhai a holwyd eu bod yn arfer cael eu cyflogi fel athrawon, gyrwyr, perchnogion tai bwyta, trydanwyr, milwyr, ffermwyr, nyrsys, peirianwyr sifil, newyddiadurwyr, geoffisegwyr, cyfrifwyr a chriw hedfan cyn cyrraedd y DU. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael mewn perthynas â chyflogaeth bresennol yn nodi bod gan lai nag un rhan o dair (31.7%) o’r rhai a holwyd swydd pan gynhaliwyd yr arolwg. Mae hyn yn gyson gyda darganfyddiadau gwaith ymchwil Bloch (2002) er bod lefelau o addysg a chyflogaeth flaenorol yn y wlad wreiddiol, a hyfforddiant yn y DU, gryn dipyn yn uwch ymysg y grŵp sy’n cymryd rhan yn yr arolwg hwn. O’r ffoaduriaid hynny oedd yn cael eu cyflogi, roedd gan y rhan fwyaf ohonynt swyddi gweinyddol neu glercio, glanhau neu waith mewn ffatri. Roedd bron i hanner (46.2%) o’r rheiny oedd yn cael eu cyflogi yn teimlo nad oedd eu swydd yn briodol ar gyfer eu cymwysterau, eu sgiliau a’u profiad. Nododd mwyafrif helaeth (84.5%) o’r rheiny nad oeddent yn cael eu cyflogi y byddent yn hoffi gweithio, a dywedodd nifer o’r rhai a holwyd y byddent yn fodlon gwneud ‘unrhyw beth’. Dywedodd eraill y byddent yn hoffi cael eu cyflogi mewn meysydd tebyg i’r hyn roeddent wedi cael eu hyfforddi ar eu cyfer, neu lle'r oedd ganddynt brofiad o weithio yn y maes (er enghraifft, fel cogydd, gyrrwr, adeiladwr, trydanwr, unigolyn trin gwallt neu dechnegydd cyfrifiadurol). Roedd y rheiny wnaeth nodi nad oeddent yn dymuno gweithio mewn addysg llawn amser neu roedd ganddynt gyfrifoldebau domestig/gofal plant pan gynhaliwyd yr arolwg. Mae yna sawl ffaith sy’n gysylltiedig â lefelau cyflogaeth isel ymysg ffoaduriaid ym marchnad lafur y DU, rhai ohonynt wedi cael eu trafod eisoes. Hefyd, mae tystiolaeth o wahaniaethu sylweddol yn y farchnad lafur yn erbyn y rheiny o gefndiroedd lleifafrif ethnig a ffoaduriaid. Mae ymchwil diweddar gan Rutter et al (2008) wedi darganfod

29

Profiadau o wahaniaethu mewn cyflogaeth Pan anfonais fy CV gyda fy enw arno, cafodd ei wrthod. Pan anfonais fy CV am yr un swydd ond gydag enw Seisnig, cafodd ei ddewis. Rwyf wedi llenwi llawer o geisiadau am swyddi ond erioed wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad, er fy mod i’n hynod gymwys ar gyfer y swyddi yr oeddwn yn ymgeisio amdanynt. Pan rydw i’n ffonio’r rhifau ar gyfer y swyddi, dwedir wrthyf fod y swydd wedi cael ei llenwi ond mae hi dal yn y Ganolfan Waith y diwrnod nesaf. Rwyf wedi gwneud cais am nifer o swyddi a heb gael fy newis. O’r blaen pan oeddwn yn cymryd prawf addasrwydd ar gyfer swydd cefais fy ngwrthod er fy mod i’n gwybod fy mod i wedi pasio. Yn fy swydd bresennol rwy’n teimlo bod fy ngoruchwyliwr yn fy ngwylio fwy na neb arall ac mae’n rhaid i mi weithio ychydig caletach i brofi fy hun. Dwedodd cydweithiwr wrthyf nad oedd hi’n hoffi i bobl o wledydd eraill ddod i’r DU a chymryd eu swyddi. Cefais fy nhrin mewn ffordd nad oedd yr un peth â phobl eraill. Yn y diwedd gwnaeth yr agwedd hon hi’n amhosibl i mi barhau i weithio yno felly gadewais y swydd honno. Yn y gwaith cefais fy ngham-drin yn eiriol gan ddynion canol oed gan nad oeddent yn hapus fy mod wedi cael dyrchafiad. Yn y diwedd, cefais fy ngorfodi i ymddiswyddo.

bod yna gysyniad cyffredin ymysg ymfudwyr o Bangladesh, Iran, Nigeria a Somalia eu bod yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle. Roedd llawer yn teimlo nad oedd eu cymwysterau na’u profiadau gwaith blaenorol yn cael eu gwerthfawrogi yn y DU, canfyddiad yr oedd llawer o ymchwil arall ar gyflogaeth ymfudwyr yn ei gefnogi. Dwedodd lawer a gymrodd ran mewn arolygon eu bod wedi dioddef o hiliaeth a gwahaniaethu o ran canfod swyddi ac o ran eu profiadau yn y gweithle. Soniwyd am liw croen, crefydd a gwisgoedd (yn enwedig sgarffiau pen) fel achosion o wahaniaethu. Mae llawer o ymatebwyr yn credu nad ydynt yn cael eu dewis ar gyfer cyfweliad am nad oes ganddynt enw Seisnig (neu Gymreig). 4.3 Gwirfoddoli Gall gwaith gwirfoddol chwarae rôl bwysig o ran galluogi ffoaduriaid i ddefnyddio eu sgiliau, gwybodaeth a’u hymreolaeth eu hunain, gan gynorthwyo eraill sydd newydd gyrraedd a gwelir cyfrannu at eu cymunedau fel bod yn rhan annatod o ddatblygu hunanhyder a chysyniadau o hunan werth (Threadgold and Court 2005). Gwelir gwirfoddoli yn gyffredinol fel llwybr pwysig tuag at waith ar gyfer llawer o ffoaduriaid, nid yn unig gan ei fod yn darparu cyfle i ffoaduriaid fagu profiad o weithio yn y DU ac ennill neu ddatblygu sgiliau a chael geirda gan gwmnïau/pobl o’r DU. Gall mentora a chysgodi fod yn ganolog o ran helpu ffoaduriaid gymryd y cam tuag at gyflogaeth. Yr un mor bwysig, gall gwirfoddoli a mentora hefyd ddarparu cyfleoedd pwysig ar gyfer

30

ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ryngweithio efo’r gymuned ehangach, creu ffrindiau a hyrwyddo perthnasau da (WAG 2008). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl o bob rhan o’r gymuned a thuag at gymryd camau arbennig i gynnwys y rheiny sy’n agored i gael eu cau allan o’r gymdeithas. Ar lefel y DU, ymddengys bydd y pwyslais cynyddol ar ‘ddinasyddiaeth weithredol’ fel mecanwaith ar gyfer diogelu mynediad cynnar at ddinasyddiaeth Brydeinig yn cynyddu lefelau gwirfoddoli3. Er, ar y cyfan, bod gwirfoddolwyr yng Nghymru yn cael eu tangyflogi neu allan o waith, mae mwy na hanner (57.7%) wedi bod yn gysylltiedig â gwaith gwirfoddol ers iddynt gyrraedd. Mae hyn yn llawer uwch na’r 29% sy’n gysylltiedig â gwaith gwirfoddol yn yr astudiaeth gan Bloch (2002). Mae ymatebwyr wedi gwirfoddoli ar gyfer nifer fawr ac ystod mawr o sefydliadau, llawer ohonynt yn grwpiau cymunedol neu eglwysi sy’n gweithio efo ceiswyr lloches. Mae enghreifftiau o grwpiau a sefydliadau y mae ffoaduriaid yn y sampl wedi gwirfoddoli â nhw yn cynnwys gwahanol siopau elusennol, eglwysi lleol a chymunedol, sefydliadau digartrefedd a grwpiau iechyd meddwl, yn ogystal â sefydliadau adnabyddus fel Grŵp Cefnogi Ceiswyr Lloches Bae Abertawe (SBASSG), Asylum Justice, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Prosiect Mosaig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Grŵp Cymunedol Cymdeithas Affrica, Byddin yr Iachawdwriaeth, SOVA, DPIA, Cymdeithas Integreiddiad Somali, y Gymuned Swdan yn Ne Cymru, Y Groes Goch Brydeinig, Cychwyn Cadarn, CAFOD a CAB. Er bod lefelau gwirfoddoli ymysg ffoaduriaid yn sylweddol, mae yna dystiolaeth eu bod ychydig yn is nag ar gyfer poblogaeth Lloegr a Chymru gyda’u gilydd. Yn y cyfnod o Ebrill - Mehefin 2007, gwirfoddolodd 73% o’r holl oedolion (yn ffurfiol neu’n anffurfiol) o leiaf un waith yn y 12 mis diwethaf, efo 48% wedi gwirfoddoli o leiaf un waith y mis (Cymunedau a Llywodraeth Leol 2007). Canfu astudiaeth fwy cynhwysfawr a manwl a wnaethpwyd gan Swyddfa’r Cabinet bod 59% o’r ymatebwyr wedi rhoi rhyw fath o help gwirfoddoli i sefydliad yn y flwyddyn ddiwethaf. Roedd dwy ran o bump (39%) wedi gwirfoddoli yn rheolaidd (o leiaf un waith y mis) (Swyddfa’r Cabinet 2007). Gallai lefelau gwirfoddoli is adlewyrchu nifer o ffactorau. Dwedodd chwarter (24.4%) o’r ymatebwyr i’r arolwg hwn eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd cael at wirfoddoli. Y prif reswm oedd diffyg gwybodaeth am y cyfleoedd a oedd ar gael ar gyfer gwirfoddoli. Mae’r broblem hon yn waeth ar gyfer y rheiny sydd newydd gyrraedd ac efo ychydig o sgiliau siarad Saesneg. Dywedodd rhai ffoaduriaid eu bod wedi cynnig eu gwasanaethau fel gwirfoddolwyr i nifer o sefydliadau ond nad oedd neb wedi ymateb. Awgrymodd llawer y dylid casglu gwybodaeth ar y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Nghymru a bod y wybodaeth yma ar gael trwy’r prif sefydliadau cefnogi. 3 Mae’r Llywodraeth eisiau annog mudwyr i integreiddio’n llawn i gymdeithas os ydynt yn bwriadu aros yma’n barhaol – felly bydd y rhai sy’n dewis cymryd rhan weithredol yn y gymuned yn gallu sicrhau dinasyddiaeth ddwy flynedd yn gynharach na’r rhai nad ydynt. Er mwyn arddangos ‘dinasyddiaeth weithredol’, gallai mudwr wirfoddoli gyda sefydliad cydnabyddedig megis elusen, gwasanaethu ar fwrdd cymunedol neu gymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n hybu addysg neu iechyd, yn hybu lles cymdeithasol neu gymunedol, yn hybu treftadaeth, celfyddydau, diwylliant neu chwaraeon, o les i’r amgylchedd naturiol, yn llesol i blant, pobl ifanc, yr henoed, pobl anabl neu grwpiau bregus eraill ac/neu yn cynnwys mentora neu gyfeillio.

31

Adran 5 Iechyd a lles Mae Ager a Strang (2004) yn awgrymu bod iechyd da yn galluogi gwell cyfranogiad a chyswllt cymdeithasol mewn cyflogaeth a gweithgareddau addysg. Y prif fater yma ydi ecwiti’r mynediad at wasanaethau iechyd ac ymatebolrwydd gwasanaethau o’r fath i anghenion penodol poblogaethau o ffoaduriaid. Mae casglu gwybodaeth oddi wrth grwpiau poblogaeth ar iechyd a lles yn fater adnabyddus o anodd ac mae dull arolwg yn achosi cyfyngiadau difrifol ar y mathau o gwestiynau a’r materion y gellir eu harchwilio. Er hynny, mae iechyd corfforol a meddylion yn cael eu cydnabod fel agweddau pwysig o ail-setlo a’r broses integreiddio, gan gynnwys o fewn Strategaeth Cynhwysiant Ffoaduriaid Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG 2008). Gan adlewyrchu hyn, cafodd nifer bychan o gwestiynau eu cynnwys mewn ymdrech i gael ychydig o wybodaeth sylfaenol ynglŷn ag iechyd corfforol a meddyliol ffoaduriaid, cyn ac ar ôl iddynt gyrraedd y DU a’u mynediad at driniaeth feddygol tra’u bod yn byw yng Nghymru. 5.1 Iechyd corfforol a meddyliol Gofynnwyd i ymatebwyr ddisgrifio eu hiechyd corfforol cyn ac ar ôl cyrraedd yn y DU ar raddfa pum pwynt yn amrywio o gwael iawn i da iawn. Dangosir yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn Ffigwr 8 ac mae’n awgrymu er bod iechyd corfforol ar ôl cyrraedd y DU yn llai tebygol (o 6 y cant) o gael ei ystyried yn ‘dda iawn’, mae’r iechyd cyffredinol yn well: mae bron i draean (29.3%) o’r ymatebwyr yn credu bod eu hiechyd corfforol yn ‘iawn’ ers iddynt gyrraedd y DU i’w gymharu â 17.9% cyn iddynt gyrraedd. Fodd bynnag, dwedodd rhai ymatebwyr bod eu hiechyd corfforol wedi dirywio o ganlyniad i newid mewn hinsawdd a chyflyrau tai, yn enwedig presenoldeb lleithder. Roedd hyn wedi achosi cyflyrau bronciol ac asthmatig ar gyfer rhai ymatebwyr. Ru’n fath ag iechyd corfforol, gellir gweld gwelliant yn iechyd meddwl cyffredinol ffoaduriaid ar ôl iddynt gyrraedd y DU (Ffigwr 9). Roedd dwywaith gymaint o ymatebwyr yn credu bod eu hiechyd meddwl yn ‘dda’ ers iddynt gyrraedd y DU i’w gymharu â chyn hynny, er nad oes yna unrhyw wahaniaeth sylweddol yn y cyfraddau sy’n credu bod eu hiechyd meddwl yn ‘dda iawn’. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw’r gyfran o ymatebwyr sy’n credu bod eu hiechyd meddwl yn ‘wael’ ers cyrraedd y DU yn annhebyg i’r gyfran a oedd yn credu hynny cyn iddynt gyrraedd. Yn fwy na hynny, dynododd cyfran sylweddol o ymatebwyr eu bod yn teimlo bod eu hiechyd corfforol a meddyliol wedi dirywio ers iddynt gyrraedd y DU (22.8% a 38.2% yn eu trefn).

32

Ffigwr 8 Iechyd corfforol cyn ac ar ôl cyrraedd y DU Ffigwr 9 Iechyd meddwl cyn ac ar ôl cyrraedd y DU Mae bron bob un o’r disgrifiadau o ddirywiad mewn iechyd meddwl a corfforol ers cyrraedd y DU yn ymwneud a phryder, straen, iselder ac unigedd sy’n gysylltiedig â bod yn ffoadur, y broses loches a gwahanu o’u cartref a’u teulu. Mae yna dystiolaeth o ymatebion ansoddol bod problemau iechyd meddwl yn benodol yn cael eu gwaethygu gan y sefyllfaoedd tai a chyflogaeth y mae llawer o ffoaduriaid yn canfod eu hunain ynddynt.

Gwael iawn Gwael Iawn Da Da iawn

Gwael iawn Gwael Iawn Da Da iawn

Cyn dod i’r Deyrnas Unedig (DU) Ers cyrraedd y Deyrnas Unedig (DU)

Cyn dod i’r Deyrnas Unedig (DU) Ers cyrraedd y Deyrnas Unedig (DU)

33

5.2 Mynediad at driniaeth feddygol Roedd traean (36.6%) o’r ymatebwyr yn cael triniaeth feddygol ar adeg yr arolwg. Dwedodd llawer o’r ymatebwyr eu bod ar hyn o bryd yn cael triniaeth am iselder, ar ffurf tabledi gwrth-iselder a/neu gwnsela gan fwyaf. Roedd rhai yn cwyno nad oeddent wedi cael help priodol gyda’u problemau iechyd meddwl, a soniwyd am y diffyg mynediad at gwnsela a mathau eraill o gefnogaeth. Nododd eraill nad oeddent eisiau unrhyw help ac eisiau delio gyda’u hiselder ar ben eu hunain neu efo help ffrindiau a’r eglwys. Disgrifiodd bron i chwarter (23.6%) o’r ymatebwyr anawsterau gyda cael at driniaeth feddygol gan gynnwys anawsterau ac oediadau o ran cael apwyntiadau gyda doctoriaid, deintyddion ac ymgynghorwyr mewn ysbytai, a hyd yr amser aros am apwyntiadau, yn enwedig gydag ymgynghorwyr. Er i lawer o’r ymatebwyr ddweud bod doctoriaid a/neu dderbynyddion wedi bod yn bowld ac weithiau’n hiliol yn eu hagweddau, ymddengys bod y rhan fwyaf o anawsterau yn ymwneud â’r problemau cyffredinol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau gofal iechyd.

Achosion gwaeledd iechyd meddwl Dirywiodd fy iechyd meddwl tra’r oeddwn yn aros am benderfyniad ynglŷn â statws a cheisio rheoli fy nhŷ, gofal plant a materion ariannol. Ers cael statws, mae fy iechyd meddwl wedi gwella. Rwy’n dioddef efo straen ôl-drawma yn deillio o brofiad blaenorol yn ogystal â’r pryder, straen a’r rhwystredigaeth a deimlir trwy’r broses lloches ac i gyflawni statws a phroblemau mawr gyda thai mae fy iechyd meddwl wedi dirywio’n ddramatig. Rwyf wedi cael fy nghyfeirio i’r ysbyty am driniaeth seicolegol ond rwy’n teimlo ei fod yn ddibwynt nes bo fy sefyllfa tai wedi cael ei ddatrys a fy mod yn rhydd rhag profiadau dychrynllyd a bygythiol yn y cartref. Ers cyrraedd mae fy iechyd corfforol wedi dirywio. Rwy’n methu fy nheulu a [fy ngwlad] yn ofnadwy yn ogystal â’r straen a’r pryder sy’n gysylltiedig ag aros am statws am chwe mlynedd. Ers cyrraedd rwyf wedi dioddef o bryderon, straen ac iselder. I ddechrau cefais barasetamol gan y doctor, yna cefais dabledi gwrth iselder. Pan gyrhaeddais, roeddwn yn teimlo’n bryderus a dan straen gan fy mod yn aros am benderfyniad ar fy statws a gan nad oeddwn yn gallu gweithio. Unwaith y cefais statws roedd yn rhaid i mi weithio’n galed iawn.....12 awr y dydd, 7 diwrnod o’r wythnos i ennill digon i ddarparu ar gyfer fy nheulu ac i allu fforddio fy nghartref fy hun. Bu’n rhaid i mi newid gyrfa’n gyfan gwbl. Effeithiodd hyn ar fy iechyd meddwl a gafodd effaith niweidiol ar fy iechyd corfforol hefyd. Teimlais dan lawer o straen ac yn bryderus wrth aros am benderfyniad oddi wrth y Swyddfa Gartref a hefyd dioddefais o straen a phryder o gael fy ngwahanu oddi wrth fy ngŵr a theimlo hiraeth. Roeddwn hefyd yn rhwystredig gyda’m diffyg sgiliau Saesneg. Rwy’n poeni a dan straen gan fy mod yn methu canfod gwaith, er fy mod i’n trio trwy’r amser. Mae’r sefyllfa ariannol hefyd yn peri pryder.

34

35

Adran 6 Hiliaeth a gwahaniaethu Mae’r broses o integreiddio yn fwy na chael mynediad at wasanaethau neu’r farchnad lafur: mae hefyd yn ymwneud â sut mae cymunedau’n gweithio o ddydd i ddydd, os ydi unigolion yn teimlo’n ddiogel a sut maent yn perthnasu â’u gilydd. Mae Ager a Strang (2004) yn awgrymu bod diogelwch cymunedol yn broblem gyffredin ymysg ffoaduriaid a’r cymunedau ehangach maent yn byw ynddynt. Gall hyn fod yn rhwystr sylweddol rhag integreiddiad gan fod aflonyddu a throseddau hiliol yn pydru’r hyder, yn cyfyngu ar gyfranogiad mewn cysylltiadau cymdeithasol, ac yn ystumio dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae strategaeth integreiddio’r DU Integration Matters (2005) yn amlygu barn gyhoeddus negyddol a darpariaeth wael o wybodaeth fel bod y prif rwystrau i ffoaduriaid rhag cyfrannu i’r gymuned. Mae’r strategaeth yn cydnabod “er mwyn i ffoaduriaid gyfrannu at bob agwedd o fywyd y gymuned, mae’n rhaid iddynt deimlo’n saff a diogel, yn enwedig yn erbyn aflonyddwch hiliol a thrais sy’n cael ei ysgogi gan hil. Gall profiadau o ansicrwydd neu erledigaeth ei gwneud hi bron yn amhosibl i bobl chwarae rôl weithredol yn y gymuned” (2004, para. 2.13). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cydnabod yr angen i wella’r ddealltwriaeth rhwng cymunedau ar draws Cymru (WAG 2008). Mae ymchwil diweddar gan Threadgold et al (2008) yn darparu tystiolaeth y gall hiliaeth a gwahaniaethu effeithio ar wasanaethau sydd â swyddogaeth bosibl mewn perthynas ag integreiddiad (gan gynnwys iaith, cefnogaeth gyfreithiol, tai, addysg, gwaith ac iechyd) ac y gallai fod yn rhannol berthnasol â dosbarth yn ogystal â thlodi. Mae’n werth nodi yma bod llawer o’r ymchwil cyfredol ar hiliaeth a gwahaniaethu yng Nghymru yn hanesyddol yn ei natur ac weithiau wedi ei danseilio gan y rhagdybiaeth bod hiliaeth yn llai o broblem yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU. Yn ôl Robinson (1999), mae yna goel yng Nghymru bod y Cymry yn genedl oddefgar, efallai yn rhannol oherwydd eu hanes o ddioddef gorthrwm gan y Saeson. Adlewyrchir y gredo hon mewn ‘diwylliant o wadu’ sy’n awgrymu bod hiliaeth a gwahaniaethu yn llai ffyrnig yng Nghymru nag y mae yn Lloegr. Mae Threadgold et al. (2008) yn nodi pwynt tebyg bod yna hanes arwyddocaol o hiliaeth yng Nghymru. Er enghraifft, mae’r Tsieineaid wedi cael ei hystyried yn fygythiad o bryd i’w gilydd i’r farchnad lafur ac roeddent yn un o dargedau terfysgoedd hil De Cymru ym 1991. Mae gan y Somaliaid hanes hyd yn oed hirach o ddioddef gwahaniaethu. Mae adroddiad diweddar ar agweddau cyhoeddus at fewnlifiad a cheisio lloches yng Nghymru yn cyflwyno canlyniadau deublyg (Lewis 2005). Mae yna hefyd dystiolaeth o hiliaeth mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â rhai trefol (Robinson a Gardner 2006). 6.1 Profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu Holodd yr arolwg nifer o gwestiynau am sut yr oedd yr ymatebwyr yn teimlo am ddiogelwch a’u cysylltiadau cymdeithasol. Bwriad y cwestiynau hyn oedd canfod i ba raddau yr oedd y rheiny â statws ffoaduriaid ac yn byw yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel yn y lle yr oeddent yn byw ynddo ac yn cysylltu efo’r cymunedau yr oeddent yn rhan ohonynt.

36

Gofynwyd i ffoaduriaid a gymrodd ran yn yr arolwg a oeddent wedi dioddef unrhyw agweddau cyhoeddus negyddol neu hiliaeth ers iddynt gyrraedd Cymru. Dynododd hanner (49.6%) o’r holl ymatebwyr eu bod wedi dioddef agweddau cyhoeddus negyddol a hiliaeth tra’r oeddent yn byw yng Nghymru. Mae’r ffigyrau hyn yn sylweddol uwch na chanfyddiadau arolwg diweddar a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru am boblogaeth Cymru gyfan a ganfu bod 12% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi dioddef o ryw fath o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth dros y pum mlynedd diwethaf (WAG 2008b). Rhoddodd y mwyafrif helaeth o’r rheiny a oedd wedi dioddef agweddau cyhoeddus negyddol a hiliaeth fanylion manwl a thrallodus o’r profiadau hynny (gweler bocs). Yn wir, cafwyd yr ymatebion mwyaf cynhwysfawr oddi wrth y rheiny a gymrodd ran yn y rhan yma o’r arolwg. Mae’n amlwg o’r disgrifiadau a ddarparwyd gan yr ymatebwyr, mae detholiad isod, fod llawer o’r digwyddiadau hyn yn cynnwys camdriniaeth lafar a chorfforol, yn aml oddi wrth rai yn eu harddegau. Sonnir hefyd am ddifrod i eiddo. Cyfeiriodd rhai o’r ymatebwyr at wahaniaethu yn y gweithle ac wrth ddelio ag asiantaethau a darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys yr heddlu. Ymddengys nad yw llawer o ddigwyddiadau’n cael eu riportio o ganlyniad i bryderon ynglŷn â dial. Roedd llawer o’r ymatebwyr hefyd yn teimlo nad oedd yr heddlu, darparwyr tai na’r UKBA yn delio’n dda gyda digwyddiadau sy’n cael eu riportio. Nid yw hyn yn awgrymu bob pob ffoadur yn dioddef o hiliaeth a gwahaniaethu na’u bod heb gael profiadau positif o fewn eu cymunedau a’u cymdogaethau. Ymysg y rheiny a ddynododd eu bwriad i aros yng Nghymru, nodwyd cymuned a chymdogion fel y rheswm mwyaf pwysig dros y penderfyniad hwnnw. Byddai hynny’n awgrymu bod ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru wedi cael profiadau positif iawn a negyddol iawn o fewn eu cymdogaethau, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y sylwadau gan rai unigolion sef er bod rhai cymdogion wedi bod yn hiliol a negyddol tuag atynt, mae eraill wedi bod yn gefnogol ac o gymorth. Gofynnwyd cwestiwn arall ynglŷn ag a oedd ffoaduriaid a oedd yn byw yng Nghymru yn teimlo y gwahaniaethwyd yn eu herbyn oherwydd lliw eu croen, tarddiad ethnig neu grefydd. Dynododd traean (33.3%) eu bod yn teimlo y gwahaniaethwyd yn eu herbyn ar y sail hon, ffigwr sydd dair gwaith yn uwch na chanfyddiad arolwg Byw yng Nghymru (WAG 2008). Mae’r prif enghreifftiau o wahaniaethu a roddwyd yn ymwneud ag addysg eu plant a’u profiadau eu hunain o’r farchnad lafur (trafodwyd hyn yn adran 4). Nodir gwahaniaethau gweledol, yn enwedig sgarffiau pen fel bod yn achosi problemau sylweddol.

37

Profiadau o agweddau cyhoeddus negyddol neu hiliaeth yng Nghymru Mae pobl wedi poeri arnaf ac ar adeg arall pan oeddwn i’n cerdded adref gyda fy mhlant roedd y rhaid i mi basio grŵp o ddynion a ddechreuodd glapio’n ara deg. Mae’r doctor a’r derbynnydd wedi bod yn bowld a hiliol yn eu hagweddau, er enghraifft wrth wneud apwyntiadau. Mae’r darparwr tai yn hynod hiliol yn erbyn ceiswyr lloches. Dwynodd fachgen ifanc fy sgarff pen ddwywaith, a thaflwyd cerrig at fy nhŷ. Pan oeddwn i’n teithio ar fws gyda’r nos, ymosododd grŵp cymysg o bobl ifanc arnaf... roeddent yn tynnu fy ngwallt ac yn fy nyrnu. Es i’r ysbyty a’r heddlu ond ni wnes i ei riportio. Yn ystod y flwyddyn gyntaf i mi gyrraedd, roeddem mewn llety NASS, cnociodd gweithwyr ar y drws ac yn dod i mewn yn syth gan ddefnyddio eu goriadau eu hunain. Roedd fy chware yn ceisio gorchuddio ei hun cyn iddynt ddod i mewn ac roedd hi’n flin iawn ac mewn sioc eu bod yno cyn iddi allu gorchuddio ei hun. Ffoniais NASS i gwyno ond roedd eu hymateb yn bowld. Dwedont y dylem fod yn falch bod y gwaith yn cael ei wneud. Am dair wythnos cafodd ffenestri ein cartrefi eu malu efo cerrig ar dri neu bedwar achlysur gwahanol. Unwaith pan oeddwn yn dod oddi ar y bws, ymosododd grŵp o fechgyn arnaf. Ar achlysur arall safodd bachgen a merch tu allan i’n ffenestr ac edrych i mewn am dros awr. Yna taflodd grwpiau o fechgyn fwd ar y ffenestri a’r gwaith brics. Cefnogodd ein cymydog ar yr ochr arall ni ac roedd eu cyngor o help. Galwom yr heddlu i ddechrau a chafodd pethau eu riportio ond gwnaeth y sefyllfa yn waeth felly rŵan tydym ni ddim yn ffonio’r heddlu. Ymosodwyd arnaf ddwywaith gan ddynion ifanc yn y stryd gyda’r nos yng nghanol Abertawe. Ar ôl yr ail ymosodiad bu’n rhaid i mi fynd i’r ysbyty. Riportiais yr ymosodiad i’r heddlu ond nid oedd fel petai ots ganddynt. Nid oedd y TCC yn gweithio ar y ddwy adeg. Gwelais un o’r ymosodwyr eto a’i ddangos i’r heddlu ond dwedodd yr heddlu nad oeddent yn gallu gwneud dim gan fod y digwyddiad wedi pasio. Rwyf wedi dioddef camdriniaeth lafar yn y stryd ac ar gludiant cyhoeddus, gan ddynion a merched, hen ac ifanc. Ar ôl i lawer o bobl gyrraedd o Wlad Pwyl mae’r gamdriniaeth wedi gwaethygu gan fod llawer o bobl yn meddwl mai o Wlad Pwyl yr ydw i’n dod hefyd. Rydw i’n chwarae pêl-droed yn rhannol broffesiynol ac mewn un gêm yng Nghaerfyrddin cefais fy ngham-drin yn llafar gan y dyrfa.

38

6.2 Diogelwch a theimlo’n ddiogel Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i ffoaduriaid am eu teimladau ynglŷn â bod yn ddiogel a diogelwch yn y lle maent yn byw. Lluniwyd y cwestiynau yn rhannol ar Arolwg trosedd Prydain gyda’r golwg o allu cymharu ymatebion ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru gydag ymatebion cyffredinol poblogaeth Cymru a Lloegr. Mae Ffigwr 10 yn dangos canfyddiadau cwestiwn a holwyd am deimladau o ddiogelwch mewn ardal breswylio yn ystod y dydd a’r nos. Dynododd y mwyafrif helaeth (92.6%) o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel (yn gymharol ddiogel neu’n ddiogel iawn) yn yr ardal lle mae’n yn byw yn ystod y dydd. Er mai cyfran fechan o ymatebwyr (7.4%) oedd yn teimlo nad oeddent yn ddiogel (cymharol anniogel neu anniogel iawn), mae’r gyfran hon fodd bynnag lawer yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol (dim ond 3% sy’n teimlo’n anniogel yn ystod y dydd). Gallai maint y sampl fod yn fater yma, neu efallai ddim. Gyda’r nos, mae’r ffigwr o bobl sy’n teimlo’n ddiogel yn yr ardal maent yn byw ynddi yn disgyn i 71.5% ac mae’r gyfran o bobl sy’n teimlo’n anniogel yn codi. Mae’n bwysig nodi bod un o bob deg ffoadur sy’n byw yng Nghymru yn teimlo’n anniogel iawn yn yr ardal lle maent yn byw wedi iddi nosi. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig nodi bod y ffigwr hwn yn debyg iawn i’r gyfran o’r boblogaeth gyffredinol (9%) sy’n teimlo’n ‘anniogel iawn’ ar ôl iddi nosi yng Nghymru a Lloegr (Cymunedau a Llywodraeth Leol 2007). Ffigwr 10 Pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo yn yr ardal lle’r ydych yn byw? Gofynwyd i ymatebwyr hefyd pa mor bryderus yr oeddent ynglŷn â dioddef ymosodiad corfforol gan ddieithriaid neu gael eu sarhau neu eu poeni gan rywun, un ai yn y stryd neu mewn man cyhoeddus arall. Mae’n ddiddorol nodi bod y patrwm ymateb ar gyfer y ddau gwestiwn yma bron yn union run fath (Ffigwr 11), gyda thua dwy ran o dair o ffoaduriaid ddim yn poeni o gwbl neu ddim yn poeni llawer am ymosodiadau corfforol neu sarhad (61.8% a 63.4% yn eu trefn).

Aniogel iawn Braidd yn anniogel Cymharol ddiogel Diogel iawn

Yn ystod y dydd Yn y tywyllwch

39

Er bod hyn yn golygu bod oddeutu traean o’r holl ffoaduriaid a ymatebodd i’r arolwg hwn un ai yn poeni llawer neu’n gymharol boenus am ymosodiadau corfforol a chael eu sarhau, nid yw’r ffigwr hwn yn wahanol iawn i boblogaeth Cymru a Lloegr gyda’u gilydd; mae data o Arolwg Trosedd Prydain 2007 yn dynodi bod 31.9% o bobl yn gymharol boenus neu’n poeni llawer am ddioddef ymosodiad corfforol oddi wrth ddieithriad a bod 27.7% yn poeni am gael eu sarhau neu eu poeni gan rywun yn y stryd neu fan cyhoeddus arall (Y Swyddfa Gartref 2008b). Ffigwr 11 Pa mor bryderus ydych chi ynglŷn â dioddef ymosodiad corfforol/sarhad? 6.3 Integreiddiad Cymdeithasol Mae Ager a Strang (2004) yn awgrymu bod creu cysylltiadau cymdeithasol gyda chymunedau eraill yn cefnogi cydlyniad cymdeithasol ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwella dealltwriaeth ddiwylliannol ac ymestyn cyfleoedd economaidd. Hefyd, maent yn amlygu’r pwysigrwydd o ‘deimlo yn perthyn’ yn y broses o gydlyniad cymdeithasol. Mae ffoaduriaid – a’r rhan fwyaf o agweddau at integreiddiad – yn deall bod cael synnwyr o berthyn i grŵp penodol neu gymuned yn hanfodol. Heb yr ymdeimlad yma o uniaethu efo cymuned ethnig, grefyddol neu ddaearyddol, mae integreiddio’n berygl o ddod yn ‘gymhathu’. Gan adlewyrchu hyn, gofynnodd yr arolwg nifer o gwestiynau sy’n ceisio archwilio teimladau a pherthnasau ymatebwyr tuag at gymdogaeth neu ardal lle maent yn byw a’u cysylltiad neu rôl arall mewn cymdeithasau lleol gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a grwpiau, undebau llafur, sefydliadau crefyddol neu gredo, ysgolion a chymdeithasau tai, a chlybiau cymdeithasol a grwpiau. Gofynnom hefyd pa mor aml yr oeddent yn cymryd rhan yn y grwpiau hyn. Mae ymatebion i ddatganiadau am y gymdogaeth neu ardal y mae’r ffoaduriaid yn byw ynddynt yn Ffigwr 12.

Ymosodiad corfforol Sarhau neu boeni

Pryderus iawn Braidd yn bryderus Cymharol bryderus Di-bryder

40

Ffigwr 12 Cysylltiadau Cymdogaeth Y pwynt pwysicaf i’w nodi yma ydi bod y mwyafrif o ymatebwyr yn cytuno efo’r datganiad ’Rydw i’n teimlo fy mod i’n perthyn i’r gymdogaeth’ (61.8%). Mae hyn yn cymharu efo ffigwr o 75.7% o boblogaeth gyffredinol Cymru a Lloegr sy’n teimlo’n gryf neu’n gymharol gryf eu bod yn perthyn i’w cymdogaeth (Cymunedau a Llywodraeth Leol 2007). Dwedodd mwy na dwy ran o dair (69.9%) o’r ymatebwyr eu bod yn cytuno efo’r datganiad ‘Buaswn yn barod i weithio gydag eraill ar rywbeth i wella fy nghymdogaeth’, gyda lleiafrifoedd llai yn cytuno efo’r datganiadau ‘Hoffwn gysidro fy hun yn debyg i’r bobl sy’n byw yn y gymdogaeth yma’ (52.8%) a ‘Rydw i’n stopio i siarad efo pobl yn fy nghymdogaeth yn rheolaidd’ (56.9%). Yr unig ddatganiad yr oedd ymatebwyr yn llai tebygol o gytuno ag o oedd ‘Rydw i’n benthyca ac yn cyfnewid ffafrau gyda’m cymdogion’. Roedd yr ymatebion ar ddau ben y sbectrwm (‘cytuno’n gryf’ ac ‘anghytuno’n gryf’) yn isel iawn (llai na 3%) ar gyfer bob datganiad heblaw ‘Buaswn yn barod i weithio gydag eraill ar rywbeth i wella fy nghymdogaeth’: Roedd 13.8% o’r ymatebwyr yn cytuno’n gryf efo’r datganiad yma. O ran aelodaeth o sefydliadau a grwpiau, nododd bron pawb a ymatebodd eu bod yn perthyn i un neu fwy o grwpiau ond bod eu haelodaeth yn amrywio’n fawr fel ag yr oedd eu cyfranogiad yn y grwpiau hyn. Roedd bron i hanner (47.2%) o’r ffoaduriaid a gymrodd ran yn yr arolwg hwn yn aelodau o grwpiau cymunedol ffoaduriaid neu genedlaethol/ethnig. Mae cyfran debyg (45.2%) hefyd yn perthyn i grŵp crefyddol neu gymdeithas ffydd. Roedd y rhain yn cynnwys y grwpiau mwyaf o ran aelodaeth o gryn nifer. Mae grwpiau merched, grwpiau chwaraeon a chymunedol neu grwpiau

Anghytuno’n Anghytuno Ddim yn cytuno Cytuno Cytuno’n gryf gryf nac yn anghytuno

Rwy’n teimlo mod i’n perthyn i’r gymdogaeth

Mae’r ffrindiau a’r cysylltiadau sydd gennyf gyda phobl eraill yn fy nghymdogaeth yn golygu llawer i mi Rydw i’n benthyca ac yn cyfnewid ffafrau gyda’m cymdogion Byddwn yn fodlon gweithio gydag eraill ar rywbeth i wella fy nghymdogaeth Hoffwn gysidro fy hun yn debyg i’r bobl sy’n byw yn y gymdogaeth yma Rydw i’n stopio i siarad efo pobl yn fy nghymdogaeth yn rheolaidd

41

dinesig hefyd yn ymddangos yn bwysig (13.8%, 15.4% a 19.5% yn eu trefn). Mae bron i ddwy ran o dair o’r ymatebwyr (61.2%) yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r grwpiau maent yn gysylltiedig â hwy yn aml (un waith yr wythnos) neu yn aml iawn (2-3 gwaith yr wythnos). 6.4 Teimladau am fyw yng Nghymru Dwedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (78%) eu bod yn bwriadu aros yng Nghymru. Mae’n bwysig cydnabod bod yr ymateb hwn bron yn sicr ar sgiw gan na fyddai’r rheiny sydd wedi penderfynu gadael Cymru ar ôl cael penderfyniad positif yn cael eu cynnwys yn yr arolwg. Gwyddys bod o leiaf un ymatebwr wedi gadael Cymru i fyw yn Llundain ychydig ar ôl gwneud yr ymchwil. Y prif resymau a roddwyd gan ymatebwyr dros fod eisiau aros yng Nghymru oedd cymuned/cymdogion (43%), yna teulu a ffrindiau (36%), agweddau cyhoeddus (32.5%), gwaith (21.9%) ac addysg plant (21.1%). Roedd rhesymau eraill yn cynnwys ‘teimlo wedi setlo’, byw wrth y môr, a’r gefnogaeth a ddarperir gan yr eglwys a’r sector gwirfoddol. Unwaith eto, mae’n werth nodi'r gwrthddywediad yma rhwng y rheiny sy’n nodi cymuned/cymdogion fel y rheswm pwysicaf dros aros a’r profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu a amlinellwyd uchod. Efallai bod ffoaduriaid yn teimlo cysylltiad go iawn gydag eraill o’u gwlad eu hunain sy’n byw mewn ardaloedd eraill ac yn cwrdd yn rheolaidd, ond ar yr un pryd yn dioddef o hiliaeth a gelyniaeth yn eu cymuned leol. Nid yw’n glir i ba raddau y dylanwadir ar y penderfyniad i fyw yng Nghymru gan y ffaith y gall fod yn anodd cael llety priodol a fforddiadwy mewn mannau eraill ar y rhagofyn bod yn rhaid i ffoadur fod â ‘chysylltiad lleol’ â’r ardal y mae o neu hi yn dymuno byw ynddi. Mae llawer o’r ymatebion yn ymddangos i wrthddweud eu hunain, gan gynnwys y ffaith bod ffoaduriaid yn hoffi byw yng Nghymru gan ei fod yn ddigon bach iddynt fod yn adnabyddus yno, ond hefyd yn ddigon mawr i fod yn anhysbys. Mae’r sylw canlynol oddi wrth un ymatebwr yn dangos y gwrthddweud hwn yn ogystal â phwysigrwydd cyfleoedd cyffredinol a rhyddid rhag y gwrthdaro sy’n gysylltiedig â byw yn y DU: “Mae Cymru yn ddigon mawr a digon bach. Rydw i’n caru’r môr. Er y gall pobl

Gymraeg fod yn hiliol gallant fod yn gyfeillgar hefyd. Mae Abertawe wedi darparu cyfle i ni nad oedd ar gael yn [mamwlad]. Hefyd, does yna ddim rhyfel yn y DU”.

Er y dynododd y mwyafrif o’r ymatebwyr eu bod yn bwriadu aros yng Nghymru, aeth un allan o bump (19.5%) ymlaen i ddweud y buasent efallai yn gadael Cymru. Rhoddwyd ystod eang o resymau, ond ymddengys mai’r prif resymau oedd awydd bod yn agos at deulu, ffrindiau ac aelodau’r gymuned sy’n byw mewn mannau eraill, diffyg amrywiaeth a dybir weithiau yng Nghymru sydd o bryd i’w gilydd yn cael ei adlewyrchu mewn agweddau cyhoeddus negyddol a/neu hiliaeth, problemau gyda thai ac anawsterau mewn cael at gyfleoedd gwaith priodol.

42

43

Adran 7 Casgliadau a goblygiadau polisi Fel nodwyd o’r cychwyn cyntaf yn yr adroddiad hwn, mae’r diffyg data swyddogol mewn perthynas â ffoaduriaid yng Nghymru yn tanseilio’r gallu o lunwyr polisi ac ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth briodol i’r ffoaduriaid eu hunain ac i economi Cymru a’r gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth newydd bwysig ynglŷn â sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru ac yn amlygu nifer o rwystrau rhag cynhwysiant, gan gynnwys hiliaeth a gwahaniaethu. 7.1 Canfyddiadau allweddol yr ymchwil Tai Mae’r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn byw mewn llety wedi ei rentu, gyda niferoedd o’r llety yma yn berchen i’r awdurdod lleol yn yr ardal maent yn byw ynddi. Er eu bod wedi cael statws ffoaduriaid, a’r hawl i ddarpariaeth o lety yn unol â hynny, nid oes gan rai ffoaduriaid eu cartref eu hunain ac yn hytrach, maent yn aros gyda theulu neu ffrindiau, neu mewn llety dros dro neu hostel. Gallai hyn fod o ganlyniad i’r rhagofyniad bod yn rhaid iddynt gael ‘cysylltiad lleol’ efo’r ardal y maent yn byw ynddi er mwyn cael hawl at y gwasanaeth digartrefedd. Mae’r mwyafrif helaeth o ffoaduriaid yn disgrifio problemau’n gysylltiedig ag ansawdd eu llety ac agwedd ac ymddygiad preswylwyr eraill tuag atynt hwy â’r plant. Addysg a hyfforddiant Mae addysg yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cyflogaeth a chysylltiadau cymdeithasol ehangach. Mae astudiaethau blaenorol wedi canfod bod gan ffoaduriaid fwy o gymwysterau na’u cyfatebion Prydeinig. Mae canfyddiadau’r arolwg yn cyd-fynd yn helaeth efo hyn. Roedd mwy na chwarter efo gradd Prifysgol yn eu mamwlad gyda 8.9% pellach efo cymhwyster ôl-radd. Roedd mwy na thraean o’r ymatebwyr hyn yn dilyn cyrsiau addysgol ar adeg yr arolwg ac roedd cyfran sylweddol wedi cael cymhwyster addysgol ers cyrraedd Cymru. Er bod lefelau hyfforddiant sy’n cael ei wneud gan ffoaduriaid yng Nghymru yn sylweddol uwch nag unrhyw le arall yn y DU, mae yna broblemau o hyd gyda mynediad efo nifer o ffoaduriaid yn methu dechrau cwrs addysgol na dechrau ar hyfforddiant oherwydd anawsterau gyda nawdd a/neu ofal plant a chyfrifoldebau domestig. Mae yna hefyd dystiolaeth nad oedd rhai ffoaduriaid yn gallu cael at gyrsiau hyfforddiant Saesneg priodol, problem a nodwyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ei Strategaeth Cynhwysiant Ffoaduriaid. Mae’r dystiolaeth o’r arolwg yn awgrymu nid yn unig bod angen mwy o ddarpariaeth ESOL, yn enwedig dosbarthiadau ar lefel uwch na’r hyn a ddarperir ar hyn o bryd, ond hefyd cefnogaeth ar gyfer costau cludiant a gofal plant. Cyflogaeth Fel mewn mannau eraill yn y DU, mae tangyflogaeth a diweithdra yn broblem sylweddol ar gyfer ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Er bod bron i ddwy ran o dair o’r ymatebwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o broffesiynau cyn dod i’r DU, llai na thraean (31.7%) oedd a swydd ar adeg yr arolwg. O’r ffoaduriaid hynny a oedd yn

44

gweithio, roedd y mwyafrif mewn swyddi gweinyddol neu glercio, gwaith glanhau neu mewn ffatri. Roedd bron i hanner y rheiny a oedd yn gweithio yn teimlo nad oedd eu swydd yn addas ar gyfer eu cymwysterau, sgiliau a phrofiad. Dwedodd llawer o ffoaduriaid eu bod wedi dioddef o hiliaeth a gwahaniaethu o ran canfod gwaith ac o’u profiadau yn y gweithle, gan awgrymu’r angen am well gwybodaeth i gyflogwyr ynglŷn â hawliau ffoaduriaid i weithio a gorfodaeth mwy llym o arferion gwrth-wahaniaethu o ran recriwtio. Mae lefelau gwirfoddoli yn uwch na’r nifer a gofnodwyd ar gyfer poblogaethau ffoaduriaid sy’n byw mewn mannau eraill yn y DU ond yn is na’r boblogaeth yn gyffredinol. Ymddengys bod yna ddiffyg gwybodaeth ar gael i wirfoddolwyr am gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael iddynt, yn enwedig tu allan i’r sector ffoaduriaid. Mae cyfleoedd o’r fath mor bwysig o ran ymestyn gorwelion gwaith a gwella sgiliau iaith. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer galluogi prosesau ehangach o integreiddio a chynhwysiant. Iechyd a Lles Er nad oes llawer ohono, mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth sylfaenol am iechyd meddwl a chorfforol ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae’r wybodaeth yma’n awgrymu’n gryf, er yn gyffredinol, bod iechyd meddyliol a chorfforol ffoaduriaid yn gwella yn y DU, ar gyfer lleiafrif sylweddol, mae yna ddirywiad, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl. Mae bron yr holl ddisgrifiadau o ddirywiad mewn iechyd meddwl a chorfforol ers cyrraedd yn y DU yn ymwneud â phryder, straen, iselder ac arwahanu sy’n gysylltiedig efo bod yn ffoadur, yn y broses loches a chael eu gwahanu oddi wrth eu cartref a’u teuluoedd. Mae yna dystiolaeth o ymatebion ansoddol bod problemau iechyd meddwl yn benodol yn cael eu gwaethygu gan y sefyllfa dai a gwaith y mae cymaint o ffoaduriaid yn ei wynebu. Mae’r materion hyn yn awgrymu’r angen am fwy o bwyslais ar wasanaethau cefnogi iechyd meddwl ar gyfer ffoaduriaid er mwyn sicrhau eu bod yn gallu addasu i fywyd yng Nghyrmu a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt unwaith maent wedi cael caniatâd i aros. Dylid hefyd nodi efallai bod y polisi i roi caniatâd cyfyngedig i aros am bum mlynedd (yn hytrach nag am byth) yn tanseilio synnwyr y ffoaduriaid o sefydlogrwydd a diogelwch, sydd yn ei dro yn tanseilio’r broses integreiddio tymor hir. Hiliaeth a gwahaniaethu fel rhwystr rhag cynhwysiant Mae’n bwysig cofio bod y broses integreiddio yn golygu mwy na chael mynediad at wasanaethau neu’r farchnad lafur; mae hefyd yn ymwneud â sut mae cymunedau’n gweithio o ddydd i ddydd, os ydi unigolion yn teimlo’n ddiogel a sut maent yn perthnasu â’u gilydd. Yn y cyd-destun hwn efallai mai un o ganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yr arolwg ydi, er gwaetha’r ffaith bod gan bawb a gymrodd ran yn yr arolwg yr hawl i aros yn y DU - ac felly yn gallu cael eu hystyried yn gyfreithlon neu yn ddilys - ac wedi bod yn byw yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, mae gan bron i hanner brofiadau personol o agweddau cyhoeddus negyddol neu hiliaeth tuag atynt. Mae’r ffigwr hwn yn sylweddol uwch na chanfyddiadau arolwg diweddar a wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar boblogaeth Cymru gyfan. Disgrifiwyd nifer sylweddol o ddigwyddiadau, llawer o gamdriniaeth lafar a chorfforol, yn aml gan bobl ifanc a rhai yn eu harddegau. Soniwyd llawer hefyd am ddifrod i eiddo. Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at wahaniaethu yn y gweithle ac wrth ddelio efo asiantaethau a

45

darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys yr heddlu. Ymddengys nad yw llawer o ddigwyddiadau hiliol yn cael eu riportio o ganlyniad i bryderon ynglŷn â dial. Roedd llawer o’r ymatebwyr hefyd yn teimlo nad oedd yr heddlu, darparwyr tai na’r UKBA yn ymdrin yn dda iawn gyda digwyddiadau a oedd yn cael eu nodi. Yn amlwg mae’r profiadau hyn yn cael effaith ar gydlyniad cymunedol yng Nghymru a’r rhaglen cydlynu cymunedol ehangach. Dylid nodi fodd bynnag fod ffoaduriaid wedi cael profiadau positif a negyddol. Mae gan hyn oblygiadau ar bolisïau i hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol a chymunedol. Er bod mwy na thri chwarter yr ymatebwyr wedi nodi eu bwriad i aros yng Nghymru ac wedi nodi eu cymuned a’u cymdogion fel y prif reswm dros hyn, nododd un allan o bump bod y diffyg amrywiaeth yng Nghymru yn un o’r rhesymau pam y buasent eisiau gadael. Mae’r dystiolaeth yma yn awgrymu efallai bod ffoaduriaid yn cael profiadau cymysg: ar un law efallai eu bod yn teimlo’n agos at unigolion eraill o’u mamwlad neu gefndir ethnig, a hefyd at ffrindiau unigol a chymdogion. Ond, efallai eu bod hefyd â phrofiadau mwy gelyniaethus yn y gymuned fwy eang ac oddi wrth rai aelodau o’r gymdogaeth y maent yn byw ynddi. Bydd taclo’r perthnasau ehangach yn hanfodol ar gyfer cydlyniad cymunedol yn gyffredinol ac ar gyfer sicrhau bod eu teuluoedd y teimlo’n ddiogel, ac wedi eu hintegreiddio i’r gymuned Gymreig ehangach. 7.2 Goblygiadau Polisi Mae gan ganfyddiadau’r arolwg oblygiadau ar gyfer gwaith polisi pellach mewn perthynas â chynhwysiant ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae’r arolwg yn amlygu nifer o rwystrau posibl rhag cynhwysiant mewn meysydd fel tai, addysg a hyfforddiant, cyflogaeth a hiliaeth a gwahaniaethu. Mae’r rhwystrau hyn yn awgrymu y dylai polisïau’r dyfodol, fel blaenoriaeth, geisio:

• taclo llety is na’r safon a sicrhau nad yw ffoaduriaid yn ddigartref;

• delio efo’r rhwystrau penodol o ran cael at gyrsiau hyfforddiant iaith Saesneg;

• cael gwared ar rwystrau rhag cael mewn i addysg a hyfforddiant;

• cynyddu mynediad at wirfoddoli, yn enwedig tu allan i’r sector ffoaduriaid;

• lleihau hiliaeth a gwahaniaethu o ran canfod gwaith ac yn y gweithle; a

• gwella adrodd o, ac ymateb i, achosion hiliol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wneud polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a thuag at fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd ei bolisïau. Fodd bynnag, mae yna brinder ymchwil a data mewn perthynas â ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Bydd y diffyg data hwn yn ei gwneud hi’n anodd monitro cynnydd o ran gweithredu strategaethau ar gyfer cynhwysiant ffoaduriaid ac i werthuso eu heffeithlonrwydd. Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ddeall cyfansoddiad eu cymunedau’n well er mwyn maethu cydlyniad.

46

Un strategaeth ar gyfer delio efo’r diffyg cyfredol o wybodaeth ydi datblygu rhwydweithiau amlasiantaeth cryf ymhellach a all ddarparu cysylltiadau pontio rhwng sefydliadau a sicrhau bod y data cyfyngedig sydd yn bodoli yn cael ei gasglu a’i rannu (Threadgold a Court 2005). Fodd bynnag, ni fydd hyn yn datrys y problemau sy’n gysylltiedig â’r diffyg data sylfaenol sydd ar gael ynglŷn â sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae hefyd angen casglu data yn systematig yn ymwneud yn benodol â’r boblogaeth yma. Un o’r ffyrdd y gall arolwg o’r math a wnaed ar gyfer yr adroddiad hwn wella polisïau ar gyfer cynhwysiant ffoaduriaid ydi trwy ddarparu meincnod lle gellir mesur dros amser effeithlonrwydd polisïau yn ei erbyn. Byddai hyn yn golygu bod angen ailadrodd yr arolwg yn rheolaidd, yn ddelfrydol bob dwy i dair blynedd, a bod graddfa’r arolwg yn cael ei chynyddu i gynnwys rhwng 300 a 500 o ymatebwyr. Er nad yw o anghenraid yn cynrychioli’r boblogaeth ehangach (nad ydym yn gwybod am eu nodweddion), byddai hyn yn golygu carfan sylweddol, lle gellid cynnal ei ehangder trwy dechnegau samplo a ‘pheli eira’ bwriadol. Gallai polisïau a gyflwynwyd yn ddiweddar, gan gynnwys y Gwasanaeth Cyflogi ac Integreiddio Ffoaduriaid, ddarparu mecanwaith briodol ar gyfer cael ymatebwyr, a gellid o bosibl edrych i mewn i hyn. Byddai defnyddio ymchwilwyr cymunedol yn sicrhau y gellid cael at y grwpiau hynny yr ydym yn gwybod ac yn deall y lleiaf am eu teimladau (er enghraifft cenedlaethau penodol neu grwpiau oedran). Byddai angen i adnoddau digonol fod ar gael i dalu am gostau cyfieithu ac i ddarparu mentrau ymchwil a chostau i ymatebwyr i’r arolwg. Yn olaf, dim ond gyda ffoaduriaid sydd wedi cael statws y gwnaethpwyd yr arolwg hwn. O gofio nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwahaniaethu rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid wrth ddarparu llawer o wasanaethau, dylid ystyried cynnwys ceiswyr lloches mewn unrhyw ymchwil yn y dyfodol sydd wedi ei anelu at amlygu sgiliau, anghenion a phrofiadau’r rheiny sy’n byw yng Nghymru. Dyma’r agwedd sy’n cael ei mabwysiadu mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill (gweler, e.e. Charlaff et al. 2004).

47

Cyfeirlyfrau Defnyddiwyd yr holl wefannau ar 23 Mehefin 2009. Ager, A. a Strang. A. (2004) Indicators of Integration: Final Report, Home Office Development and Practice Report 28, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs04/dpr28.pdf Bloch, A. (2007) ‘Methodological challenges for national and multi-sited comparative survey research’, Journal of Refugee Studies 20 (2), 230-247 Bloch, A. (2004) ‘Survey research with refugees: a methodological perspective’, Policy Studies 25 (2), 139-151 Bloch, A. (2002) Refugees’ Opportunities and Barriers in Employment and Training, DWP Research Report No. 179, London: Department for Work and Pensions, http://research.dwp.gov.uk/asd/asd5/rrep179.pdf Burnett, A. a Peel, M. (2001) ‘Asylum seekers and refugees in Britain: Health needs of asylum seekers and refugees’, British Medical Journal 322, 544-547. Cabinet Office (2007) Helping Out: A National Survey of Volunteering and Charitable Giving, London: Cabinet Office, www.cabinetoffice.gov.uk/third_sector/Research_and_statistics/third_sector_research/helping_out.aspx Charlaff, L., Ibrani, K., Lowe, M., Marsden, R. a Turney, T. (2004) Refugees and Asylum Seekers in Scotland: A Skills and Aspirations Audit, Scottish Executive and Scottish Refugee Council, www.scotland.gov.uk/Resource/Doc/47171/0025531.pdf Commission on Integration and Cohesion (2007) Our Shared Future, www.integrationandcohesion.org.uk/upload/assets/www.integrationandcohesion.org.uk/our_shared_future.pdf Communities and Local Government (2007) Statistical Release: Citizenship Survey April-June 2007, England and Wales, London: Department for Communities and Local Government, www.communities.gov.uk/documents/corporate/pdf/citizenshipsurveyaprjun2007.pdf Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2007) Equal Project in Action: Refugees Rebuilding their Lives, Caerdydd, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, www.welshrefugeecouncil.org/documents/reports/Equal%20Project%20in%20Action.pdf Department for Work and Pensions (DWP) (2005) Working to Rebuild Lives: A Refugee Employment Strategy, London: DWP, www.dwp.gov.uk/publications/dwp/2005/emp_guide.pdf Department for Work and Pensions (DWP) (2004) Working to Rebuild Lives: A Preliminary Report towards a Refugee Employment Strategy, London: DWP, www.dwp.gov.uk/publications/dwp/2003/wrl/main_rep.pdf

48

Griffiths, D. (2003) English Language Training for Refugees in London and the Regions, Home Office Online report 14/03, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs2/rdsolr1403.pdf Harrison, J. a Read, E. (2005) Asylum Seeker and Refugee Skills Audit, Warrington: Northwest Regional Development Agency, www.nwda.co.uk/pdf/AsylumSeekerDocument.pdf Home Office (2009a) Control of Immigration: Quarterly Statistical Summary, United Kingdom, January – March 2009, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs09/immiq109.pdf Home Office (2009b) Moving On Together: Government’s Recommitment to Supporting Refugees, London: UK Border Agency, www.ukba.homeoffice.gov.uk/sitecontent/documents/aboutus/workingwithasylumseekers/refugeeintegrationstrat Home Office (2008a) Asylum Statistics United Kingdom 2007, Home Office Statistical Bulletin, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs08/hosb1108.pdf Home Office (2008b) Crime in England and Wales 2007-8, Home Office Statistical Bulletin 07/08, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs08/hosb0708.pdf Home Office (2004) Integration Matters: A National Strategy for Refugee Integration, London: Home Office Home Office (2000) Full and Equal Citizens: A Strategy for the Integration of Refugees in the United Kingdom, London: Home Office Kirk, R. (2004) Skills Audit of Refugees, Home Office Online Report 37/04, London: Home Office, www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs04/rdsolr3704.pdf Lewis, M., (2005) Asylum: Understanding Public Attitudes, London: Institute for Public Policy Research Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Strategaeth Cydlyniad Cymunedol Cymru Gyfan, Caerdydd: WAG, www.wales.gov.uk/docs//dsjlg/consultation/090107communitycohesionstrategyen.pdf Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008a) Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid, Merthyr Tudful: WAG, new.wales.gov.uk/dsjlg/publications/communityregendevelop/refugeeinclusionstrategy/strategye.pdf?lang=en

49

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008b) Gwahaniaethu, Aflonyddu ac Erledigaeth: Canlyniadau o Arolwg Byw yng Nghymru 2007, Bwletin Ystadegol 68/2008, Caerdydd: Ystadegau Cenedlaethol, wales.gov.uk/docs/statistics/2008/081125sb682008en.pdf?lang=en Robinson, V. (2006) Mapping the Field: Refugee Housing in Wales, London: HACT and Welsh Refugee Council, www.hact.org.uk/uploads/MTF_full_report_web(1).pdf Robinson, V. (2005) ‘Poblogaethau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru’, yn D. Owen, C. Peach a V. Robinson (gol.) Proffil o amgylchiadau tai a chymdeithasol-economaidd pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, 2001, adroddiad ymchwil Cyfarwyddiaeth Tai lywodraeth Cynulliad Cymru HRR 4/05, www.wales.gov.uk/dsjlg/research/0405hrr/reporte.pdf?lang=en Robinson, V. (1999) ‘Cultures of ignorance, disbelief and denial: refugees in Wales’, Journal of Refugee Studies 12(1), 78-87 Robinson, V. a Gardner, H. (2006) ‘Place matters: exploring the distinctiveness of racism in rural Wales’ yn J.Agyeman a S.Neal (gol.) The New Countryside? Ethnicity, Nation and Exclusion in Contemporary Rural Britain, Bristol: Policy Press Rutter, J., Cooley, L. Jones, N. a Pillai, R. (2008) Moving Up Together: Promoting Equality and Integration among the UK’s Diverse Communities, London: Institute for Public Policy Research Threadgold, T. a Court, G. (2005) Cynhwysiant Ffoaduriaid: Adolygiad, Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru, www.wales.gov.uk/dsjlg/research/refugeeliteraturereview/report.pdf?lang=en Threadgold, T., Clifford, S., Arwo, A., Powell, V., Harb, Z., Jiang, X. a Jewell, J. (2008) Immigration and Inclusion in South Wales York: Joseph Rowntree Foundation, www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/2290-wales-migration-cohesion.pdf

50

51

Atodiad 1 Taflen wybodaeth i gyfranogwyr Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn arolwg o ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Cyn i chi benderfynu os ydych am gymryd rhan ai peidio, mae’n bwysig eich bod yn deall pam ein bod ni’n cynnal yr arolwg a beth fydd yn ei olygu. Darllenwch yr wybodaeth ganlynol yn ofalus. Siaradwch ag eraill am yr astudiaeth os dymunwch. Beth ydi amcan yr ymchwil? Ychydig iawn yr ydym ni’n ei wybod am anghenion, sgiliau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn ein helpu i ddarganfod mwy am y materion hyn. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i wneud yn siŵr y darperir gwasanaethau a chefnogaeth briodol, ac i gyfarwyddo datblygu polisïau. Pwy sy’n gwneud yr arolwg? Mae’r arolwg yn cael ei wneud gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi mewn fudo (CMPR) sydd ym Mhrifysgol Abertawe (www.swansea.ac.uk/cmpr). Ariennir yr arolwg gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (www.newport.gov.uk/wsmp) a Chyngor Ffoaduriaid Cymru (www.welshrefugeecouncil.org). Beth sydd angen i ni ei wneud? Hoffem wneud yr arolwg efo chi mewn cyfarfod wyneb yn wyneb efo ymchwilydd. Bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi am eich cefndir, addysg, sgiliau, gwaith, tai, iechyd a chysylltiadau cymunedol. Bydd y cyfarfod yn para tua 30 munud. Oes raid i mi gymryd rhan yn yr ymchwil? Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Gallwch newid eich meddwl am gymryd rhan yn yr arolwg ar unrhyw adeg, gan gynnwys yn ystod y cyfarfod. Does dim rhaid i chi ateb unrhyw gwestiwn nad ydych eisiau ei ateb. Does dim rhaid i chi roi eich rhesymau i’r ymchwilydd. Fydd yna rywun arall yn y cyfarfod? Ni fydd yna neb arall yn y cyfarfod heblaw am yr ymchwilydd. Os ydych angen cyfieithydd, gadewch i’r ymchwilydd wybod fel y gellir trefnu i gael un. Fydd unrhyw un yn gwybod fy mod i wedi cymryd rhan yn yr ymchwil? Bydd popeth a ddwedwch yn ystod y cyfweliad yn gyfrinachol. Bydd yr wybodaeth a rowch yn cael ei thrin fel na fydd hi’n bosibl i unrhyw un sy’n darllen yr adroddiad terfynol wybod eich bod wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Does dim angen i chi roi eich enw na’ch manylion cyswllt, ond os gwnewch bydd yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad efo chi fel y gallwn ddarganfod mwy am eich profiadau o fyw yng Nghymru.

52

Fydda i’n cael atborth o gwbl ar ganfyddiadau’r ymchwil? Rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth ar ganfyddiadau’r arolwg i bawb sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Os rhowch eich manylion cyswllt i ni, byddwn yn anfon copi o ganlyniadau’r arolwg atoch. Fel arall, gallwch gysylltu â ni yn [email protected] ac fe anfonwn gopi atoch. Neu gallwch ofyn am un oddi wrth Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ([email protected]) neu Gyngor Ffoaduriaid Cymru ([email protected]).