Profiadau siaradwyr Cymraeg yn y ddalfa a’r carchar. DRAFFT

44
Profiadau siaradwyr Cymraeg yn y ddalfa a’r carchar. Heledd Melangell Williams 02/05/2014

Transcript of Profiadau siaradwyr Cymraeg yn y ddalfa a’r carchar. DRAFFT

Profiadausiaradwyr Cymraegyn y ddalfa a’r

carchar.Heledd Melangell Williams

02/05/2014

CynnwysNod........................................................3Cefndir....................................................3Cyflwyniad.................................................4

Rhan 1-Adolygiad Llenyddiaeth................................5Diffyg cofnodi a chasglu data..............................5Diffyg cynnig dewis iaith ragweithiol......................5Diffyg Carchardai yng Nghymru.............................5Oedi o ganlyniad i ddewis yr opsiwn Gymraeg...............6Bwlio, Ofn, Camwahaniaethu a chael dy gosbi am ddefnyddio’rGymraeg...................................................6Ffurfioldeb y Gymraeg.....................................7Pobl yn cael eu hatal rhag siarad yn Gymraeg yn weithredol7

Casgliadau ac argymhellion.................................8Datganoli.................................................8Casglu Gwybodaeth ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg......9Arferiad da mewn carchardai...............................9

Rhan 2 - Casglu tystiolaeth gynradd.........................10Arddull...................................................10Dewis y Sampl............................................10Gwybodaeth Feintiol Cyffredinol..........................10Moeseg Ymchwil...........................................10Strwythur y Cyfweliadau..................................10Anhysbysdod..............................................11Cyfyngiadau..............................................11Codio.....................................................12

Canlyniadau’r Ymchwil.....................................12Profiadau pobl yn y ddalfa................................12Gwybodaeth Feintiol a throsolwg..........................12

2

Camwahaniaethu ar sail Iaith.............................13Diffyg cynnig iaith ragweithiol..........................13Israddoldeb y Gymraeg....................................14Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg - Oedi.................15Lleoliad y ddalfa a’r ddarpariaeth Cymraeg...............15Teimladau o ddicter a rhwystredigaeth....................16Llyfr PACE ddim ar gael yn y Gymraeg.....................16

Profiadau teuluoedd/cyfeillion carcharorion...............17Gwybodaeth Feintiol a throsolwg..........................17Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg – Oedi.................17Diffyg cynnig iaith ac Israddoldeb y Gymraeg.............18Teimladau o ddicter, ofn a rhwystredigaeth...............18Awgrymiadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth Gymraeg.......18

Profiadau Carcharor.......................................19Gwybodaeth Feintiol a throsolwg..........................19Camwahaniaethu ar sail Iaith.............................19

Rhan 3......................................................20Casgliad..................................................20Argymhellion.............................................21

Llyfryddiaeth...............................................23Atodiad-Y Cyfweliadau.......................................25Profiadau pobl yn y ddalfa................................25Y Cwestiynau.............................................25Cyfweliad gyda C1........................................25Cyfweliad gyda C2........................................26Cyfweliad gyda C3........................................26Cyfweliad gyda C4........................................27Cyfweliad gyda C5........................................27Cyfweliad gyda C6........................................28

3

Cyfweliad gyda C7........................................28Profiadau teuluoedd/cyfeillion carcharorion...............29Y Cwestiynnau............................................29Cyfweliad C8.............................................29Cyfweliad C9.............................................30Cyfweliad C10............................................30

Profiadau Carcharor.......................................31

N od Nod y prosiect ymchwil hwn yw adnabod y prif rwystrau i ddefnyddio’r Gymraeg ganbersonau ddaw i gyswllt â’r system gyfiawnder, gan ganolbwyntio’n benodol ar droseddwyr a’u perthnasau, gwarchodwyr a ffrindiau a dod i gasgliad, ar sail tystiolaeth.

CefndirErbyn hyn ar lefel polisi yn ogystal â lefel y wasg yn gyffredinol, mae’r broblem o ddarpariaeth Gymraeg yn y system gyfiawnder yn dod i’r amlwg yn rheolaidd. O’r nifer o adroddiadau beirniadol a chanfyddir yn y llyfryddiaeth, i’r sawl hanes yn y wasg ynghylch anghyfiawnder y mae carcharorionsy’n dewis siarad Cymraeg yn ei wynebu, mae’n amlwg nad yw cydraddoldeb ieithyddol yn norm yn faes cyfiawnder.

Mae’n eironig bod ein sefydliadau Cymreig fel S4C a’r Comisiynydd Iaith er enghraifft wedi eu ffurfio ar ôl ffrwyth ymgyrchu a oedd yn cynnwys gweithredu uniongyrchol a thor-cyfraith. Er i lawer o’r hyn sydd yn hwyluso pobl Cymru i fedru byw drwy Gyfrwng y Gymraeg (i ryw raddau) wedi dod o ganlyniad i bobl cael eu harestio a’u carcharu, yn gyffredinolnid oes gan garcharorion a honedig droseddwyr ar lawr gwlad lawer iawn o ryddid i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yng ngwrthddweud sefyllfa statudol y Gymraeg mewn carchardai, dalfeydd ac yn gyffredinol, bod yr iaith Gymraeg a Saesneg yn gydradd

4

mewn egwyddor. Mynega Mesur Iaith 2011 y dylai fod cydraddoldeb rhwng y ddwy iaith swyddogol, Cymraeg a Saesneg.

Mae sawl agwedd ‘obeithiol’ yn cael ei fynegi ar hyn o bryd, gan gynnwys carchar newydd sydd am gael ei hadeiladu yn Wrecsam a chanfyddiadau'r Comisiwn Silk y dylid datganoli maescyfiawnder i Gymru. Er hyn mae’r agweddau ‘obeithiol’ hyn yn cynnwys elfennau problematig. Honnir bydd cyrff Cymreig mwy tebygol o fod gyda gwell ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a felly fwy tebygol o weithredu o blaid y Gymraeg.

Os gymerwn felly yn ganiataol buasai datganoli yn newid sefyllfa ieithyddol carcharorion a honedig droseddwyr Cymraeg fel mae sawl testun yn dadlau 1efallai nad yw canfyddiadau Comisiwn Silk mor uchelgeisiol dros carcharorion o Gymru a buasent medru bod. Er bod comisiwn Silk yn argymell datganoli ym maes cyfiawnder a’r heddlu, honnai nad oes unrhyw frys 2 er i adroddiadau rhai fel Rod Morgan 3 a The Howard Leuge for Penal Reform 4fod yn lleisio’r safbwynt ers blynyddoedd lawer fod sefyllfa datganoli Cyfiawnder Ieuenctid yn argyfwng a ddylid gweithredu ar fyrder.

1 The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice in Wales: Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The Howard League for Penal Reform2

BBC News 2014 Silk says no urgency to devolve policing and youth justice to Wales [Arlein].Ar gael yn: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-26619262 [Cyrchwydar 14 Ebrill 2014]

3 Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on thequestion of Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gaelyn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014]

4 The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice in Wales:Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The Howard League for PenalReform

5

Mae maint y carchar newydd yn Wrecsam hefyd yn destun pryder. Mae llawer wedi beirniadu methiannau difrifol carchardai neyddmawr a rhad fel y carchar a gynlluniwyd ar gyfer Wrecsam 5 . Ynogystal â hyn, nid yw’r carchar hyn datrys y broblem o bobl ifanc a menywod yn cael eu carcharu tu allan i Gymru.

CyflwyniadEs i ati i gasglu tystiolaeth am ddefnydd y Gymraeg ym maes cyfiawnder fel rhan o brosiect ymchwil yn ystod cyfnod o leoliad gwaith gyda’r Comisiynydd Iaith fel rhan o’m cwrs M.A.‘Datganoli ar waith’ yw teitl y modiwl penodol hwn, ac mae’r prosiect ymchwil yn un o alwadau’r modiwl. Hoffwn ddiolch i Huw Gapper, Osian Boyer a Ffreur Owen am eu holl sylwadau a chymorth gyda’r prosiect ymchwil hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i’rComisiynydd Iaith ac i Dr Elin Royles am drefnu hyn ar fy nghyfer.

Cynhaliwyd y prosiect ymchwil hwn mewn tair cam, sef yn gyntafcasglu tystiolaeth eilradd o adroddiadau a thestunau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar ddefnydd o’r Gymraeg ym maes cyfiawnder. Yn ail, aethpwyd ati i gasglu tystiolaeth gynradd drwy gynnal cyfweliadau gydag unigolion arestiwyd, gan ddefnyddio fel sail i’r cyfweliadau, y themâu ddaeth i’r amlwgdrwy’r adolygiad llenyddiaeth. Yn olaf, adolygwyd yr holl dystiolaeth gynradd ac eilradd a gasglwyd er mwyn adnabod y prif rwystrau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y ddalfa a’r carchar, yn unol â nod y prosiect.

5 Guardian Tales from the inside: drugs and disorder at G4S's prison of the future (2014)http://www.theguardian.com/society/2014/apr/29/tales-from-inside-oakwood-prison [Cyrchwyd ar Ebrill 30 2014]

6

Rhan 1-Adolygiad LlenyddiaethWedi darllen nifer o adroddiadau a thestunau yn y maes, sylwais fod sawl thema yn codi’n rheolaidd.

Diffyg cofnodi a chasglu dataYn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ‘Welsh prisoners in the prison Estate’, yr oedd y diffyg data wedi ei nodi sawl gwaith. 6 Gan fod disgwyl i’r honedig droseddwr ddatgelu wrth yswyddogion carchar eu bod yn siaradwr Cymraeg o’u gwirfodd er mwyn cael eu cyfri, ac oherwydd mae’n annhebygol y byddent yn gwneud hyn oherwydd natur y sefyllfa mewn carchardai a dalfeydd, mae’n debyg bod y nifer cywir o siaradwyr Cymraeg ddim yn cael eu cofnodi na’u cyfri o gwbl. Gall sawl reswm foddros y ffaith nad yw honedig droseddwyr am ddatgelu eu bod yn siaradwyr Cymraeg gan gynnwys ofn o gael eu bwlio a chamwahaniaethu gan eu cyd-garcharorion, gan staff y carchar neu’r heddlu.

Diffyg cynnig dewis iaith ragweithiolCydnabyddir erbyn hyn bod cydraddoldeb ieithyddol yn golygu cynnig dewis iaith ragweithiol i’r defnyddiwr yn hytrach na ‘ateb yn ôl y galw’. Mae methiant cyson gan yr awdurdodau ym maes cyfiawnder i wneud hyn yng Nghymru. Caiff hyn ei wneud ynamlwg mewn sawl adroddiad a thestun academaidd, gan gynnwys testun Hughes a Madoc-Jones 7 ac adroddiad Welsh prisoners in the prison Estate.8 Yn nhestun Dubberly et al daiff i’r casgliadbod anghenion diwylliannol ac ieithyddol merched wedi eu

6 House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited tt. 37-397

Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh SpeakingYoung People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt.374–386 t.3838

7

carcharu ddim yn cael ei ddarparu ar eu cyfer. 9 Yn adroddiad Cwmni Iaith, y maent yn disgrifio’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes cyfiawnder gogledd Cymru fel bod popeth wedi’i seilio ar y cysyniad o ymateb i’r galw yn hytrach na chynnig rhagweithiol. 10

Diffyg Carchardai yng Nghymru Fe ymddengys o’r testunau bod diffyg carchardai yng Nghymru’n gyffredinol. 11 Nid oes carchar yn y gogledd, ble mae nifer uchel o siaradwyr Cymraeg ac nid oes carchar i fenywod yng Nghymru. Mae hefyd diffyg carchardai i blant a phobl ifanc. Mae’r diffyg hyn yn golygu bod plant Cymraeg dan anfantais yn addysgiadol 12 gan fod diffyg adnoddau addysg Gymraeg a chyfrwng Cymraeg mewn carchardai yn Lloeger. Yn ôl Dubblely etal ddylai merched Cymraeg ddim gorfod mynd i’r carchar yn Lloegr ond yn hytrach dylent fod gyda hawl i fynd i’r carchar yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ei fod yn bwysig ar gyfer eu hunaniaeth, ail-integreiddio i’r gymuned ac ar gyfer eu sefydlogrwydd.13

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t. 38

9

Hughes, C. Dubberley, S. a Buchanan, J. (2012). ‘Girls from Wales in theSecure Estate: Sent to Coventry?’ Social Policy and Society, 11, tt. 519-531 t.525

10 Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn SectorCyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith tt.99-10011

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t. 3-4

12

The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice in Wales: Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The Howard League for Penal Reform t.613

Hughes, C. Dubberley, S. a Buchanan, J. (2012). ‘Girls from Wales in theSecure Estate: Sent to Coventry?’ Social Policy and Society, 11, tt. 519-531 t.526

8

Oedi o ganlyniad i ddewis yr opsiwn Gymraeg Mae ansawdd gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ffactor arallsydd yn codi yn y llenyddiaeth. Os yw carcharor neu unrhyw o’rtu allan yn ysgrifennu i’w gilydd yn Gymraeg, gellid disgwyl cryn oedi o gymharu pe baent yn ysgrifennu at ei gilydd yn Saesneg .14 15

Bwlio, Ofn, Camwahaniaethu a chael dy gosbi am ddefnyddio’r Gymraeg

Un agwedd o’r maes Gyfiawnder a ddoth i’r amlwg mewn sawl testun oedd y bwlio a chamwahaniaethu y mae siaradwyr Cymraeg yn ei wynebu am ddefnyddio’u hiaith. Profir hyn mewn carchardai i ddynion yn ogystal â charchardai i ferched, ymysgcarcharorion ifanc a rai hyn. Profir bwlio gan staff carchardai 16 yn ogystal â gan eu cyd-garcharorion. 17 18 19 Arweinia hyn at ddiffyg galw am y Gymraeg;

14

Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the questionof Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gael yn:http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.48

15 Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector CyfiawnderTroseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t.9016

Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the questionof Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.4917

Hughes, C. Dubberley, S. a Buchanan, J. (2012). ‘Girls from Wales in the Secure Estate: Sent to Coventry?’ Social Policy and Society, 11, tt. 519-531 tt. 525-526

18 Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the question of Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gaelyn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.419

Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t.90

9

...requesting a service through themedium of Welsh opens up those in already vulnerable positions, to the possiblerisk of prejudice and discriminatory treatment. 20

Ffurfioldeb y GymraegMae llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n ddihyder wrth ddefnyddio cywair ffurfiol yn y Gymraeg. 21 O ran hynny mae staff ar adegau hefyd yn ddihyder wrth ddefnyddio Cymraeg ffurfiol. 22 Mae testun Catrin Huws yn ymchwilio i’r agwedd hynyn faes cyfiawnder yn fanwl gan ddod i’r casgliad wrth ddyrchafu’r iaith i’r sefyllfaoedd ffurfiol hyn, dylem sicrhaunad ydym yn ‘gadael siaradwyr ar ôl’.23

Pobl yn cael eu hatal rhag siarad yn Gymraeg yn weithredolWeithiau, caiff unigolion eu hatal rhag defnyddio’r Gymraeg nid yn unig drwy ddiffyg cyfle, ond yn weithredol gan staff y carchar. Yn yr adroddiadau cwyd sawl enghraifft o hyn, un o’r rhesymau dros hyn yn ôl y staff oedd gan fod unigolion yn siarad Cymraeg yn y carchar yn fater o fygythiad i ddiogelwch.24 Ceir adroddiadau o ferch ifanc yn cael ei atal rhag ysgrifennu at ei theulu yn y Gymraeg a hefyd o fachgen ifanc yn cael ei atal rhag siarad yn Gymraeg gyda cyd-garcharor a chyfathrebu gyda’i deulu yn Gymraeg. 25 Yn adroddiad Cwmni

20 Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh SpeakingYoung People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt.374–386 t.383

21 Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector CyfiawnderTroseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t.2322

Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t.9923

Huws, Ff. (2007) ‘Iaith y Nefoedd a Iaith y Llysoedd’ Cambrian Law Review, 38[tt. ddim ar gael]24

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t.36

25

Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the questionof Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gael yn:

10

Iaith ceir nifer o adroddiadau tebyg. 26 Yn ogystal â hyn ceir hanesion o’r math yma o beth yn digwydd ar y newyddion o bryd i’w gilydd, er enghraifft, achos Martin Tate o Gaernarfon a chafodd ei atal rhag defnyddio’r ffon yn Gymraeg. 27

Casgliadau ac argymhellionWrth ystyried y themâu a gwyd o’r testunau hyn, mae’n bosib dod at gasgliadau ynglŷn â be o bosib gall wella’r sefyllfa. Mae’r testunau eu hunain yn cynnig sawl argymhelliad. Yr argymhelliad sydd yn dod i’r amlwg fwyaf cyson fodd bynnag yw datganoli.

DatganoliYn ôl Cwmni Iaith gall ddatganoli’r heddlu arwain at well gasglu data ynghylch a siaradwyr Cymraeg, gan ar hyn o bryd dydi’r heddlu yn ganolog ddim yn argymell gwneud hyn wrth arestio. 28

Yn nhestun Madoc-Jones argymhella sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Cymru oherwydd gall corff o’r fath gyflwynohawliau ieithyddol positif. 29 Nid yw cyflwyno hawliau ieithyddol yn flaenoriaeth ar y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn ôl Madoc-Jones 30 dylai hawliau ieithyddol fod yn fwy o

http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.4826

Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t.86-87

27 Free Press (2012) Caernarfon man barred from Welsh language prison callshttp://www.denbighshirefreepress.co.uk/news/109799/caernarfon-man-barred-from-welsh-language-prison-calls.aspx [Cyrchwyd ar Ebrill 30 2014]

28 Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector CyfiawnderTroseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith t. 1729

Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh SpeakingYoung People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt.374–386 t.384

30 Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh Speaking Young People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt. 374–386 t.384

11

flaenoriaeth petasai fwrdd Cymreig o’r fath yn cael ei sefydluam y rhesymau canlynol;

The devolution argument rests on the principle that localconcerns are more likely to be addressed at the local level. In Wales, Welsh speakers represent 20.5% of the population, but within the UK as a whole, Welsh speakers represent only 1% of the population. It is not difficult to see from this that even without a positive rights orientation, the Welsh language would be accorded a higher priority within a devolved Welsh Youth Justice Board.31

Mae’r Howard Leuge for Penal Reform yn argymell datganoli ym maes cyfiawnder yn gyffredinol. Mae hyn oherwydd credent gall olygu y bydd llai o bobl, yn cael eu carcharu yn y lle cyntaf ac yn gorfod wynebu’r broblem o’u hawliau iaith yn cael eu gwadu tra bont yn y carchar.32 Atgyfnertha Dubberley et al yr honiad hwn ynghylch rhinweddau cadw pobl allan o’r carchar, ynenwedig pobl ifanc, ac yn lle carcharu goruchwylio’r bobl hynyn y gymuned. 33

Casglu Gwybodaeth ynghylch nifer y siaradwyr CymraegGan fod hi’n debygol bod diffyg cyfri sylweddol carcharorion sydd yn siarad Cymraeg 34 argymhelliad arall a gwyd o’r adroddiad ‘Welsh Prisoners in the Prison Estate’ yw bod awdurdodau carchardai fynd ati yn rhagweithiol i gasglu data

31

Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh Speaking Young People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt. 374–386 t.384

32 The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice in Wales: Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The Howard League for Penal Reform t.17

33 Hughes, C. Dubberley, S. a Buchanan, J. (2012). ‘Girls from Wales in theSecure Estate: Sent to Coventry?’ Social Policy and Society, 11, tt. 519-531 t.528

34 House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t.37

12

ynglŷn a iaith ymysg poblogaeth carcharorion Cymraeg i sicrhau nad oes unrhyw ddiffygion yn y cyfri. 35

O ran diffyg cyfri’r honedig droseddwyr yn y ddalfa sy’n medru’r Gymraeg, awgrymodd adroddiad Cwmni Iaith bod methiant cyson yr heddlu i gasglu data a chofnodi’r siaradwyr Cymraeg yn deillio o’r ffaith nad yw’r heddlu wedi’i eu datganoli. 36 Gwelir felly bod y cwestiwn o ddatganoli yn un arwyddocaol sydd yn clymu a sawl agwedd arall o’r argymhellion posib.

Arferiad da mewn carchardaiUn enghraifft o arfer da oedd y ‘Welsh liason officer’ yng ngharchar HMP Ashfiled. Un argymhelliad posib buasai i garchardai eraill fabwysiadu polisi tebyg bod un ai swyddog iaith neu aelod o staff sydd medru bod yn ‘Welsh liason officer’ o’r fath. 37

Enghraifft arall o arferiad da a gododd o’r testunau oedd sefydliad y grŵp cefnogi carcharorion Cymraeg yn HMP Altcourse. 38

Yn ôl Rod Morgan yr oedd HMPYOI Stoke Heath hefyd wedi mynd i ryw ymdrech i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg a darparu

35

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t.39

36

Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn Sector Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn: Cwmni Iaith tt17-1837

Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the questionof Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.4738

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘Welsh Prisoners in thePrison Estate’ London: The Stationery Office Limited t.38

13

dosbarthiadau Cymraeg ac o ganlyniad dyma un o’r carchardai ‘gorau’ gellir pobl Cymraeg cael eu dal ynddo. 39

Rhan 2 - Casglu tystiolaeth gynraddArddull

Dewis y SamplI gychwyn, fe wnes i adolygu adroddiadau ymchwil ac adroddiadau eraill sy’n trafod defnydd o’r Gymraeg ym maes cyfiawnder. Yr oedd hyn er mwyn adnabod rhwystrau a phroblemaucyffredin oedd yn codi’n gyson. Yn sgil adolygu’r adroddiadau hyn fe wnes i lunio sgript fel amlinelliad ar gyfer cyfweliadau gyda (i) unigolion sydd â phrofiad o gael eu harestio a’u cadw yn y ddalfa ac (ii) unigolion sydd yn y carchar neu sydd wedi bod yn y carchar yn ddiweddar (iii) teulu, ffrindiau a gwarchodwyr pobl sydd yn y carchar neu wedibod yn y carchar (iv) staff o fewn y system gyfiawnder, y gwasanaeth prawf a’r heddlu.

Defnyddiais y wybodaeth yn yr adroddiadau i lunio cwestiynau aoedd yn ymchwilio i’r meysydd penodol ble yr oedd trafferth gyda darpariaeth Gymraeg yn dod i’r amlwg. Nod y cwestiynau oedd darganfod (o brofiadau pobl) beth yw’r prif rwystrau i ddefnyddio’r Gymraeg ym maes cyfiawnder.

Gwybodaeth Feintiol CyffredinolCynhaliwyd deg cyfweliad. Un gyda chyn carcharor a wnaeth hefyd gyfweliad am ei brofiad yn y ddalfa, tair gyda ffrindiauac aelodau o deulu pobl sydd wedi bod neu yn y carchar ar hyn o bryd, a chwe chyfweliad gyda phobl sydd wedi cael profiad o gael eu harestio.

39 Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government on the question of Devolution of Youth Justice Responsibilities’ [Arlein]. Ar gaelyn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014] t.44

14

Moeseg YmchwilO ran moeseg ymchwil, mae’n bwysig ystyried a yw’r cyfwelai yngrŵp o bobl sydd yn agored i niwed, ac ystyried natur y cyfweliad a sut all y cyfweliad eu heffeithio’n feddyliol. O ran natur y cyfweliad, byddwn yn gofyn cwestiynau am un o gyfnodau mwyaf anodd bywyd person, a gall hyn beri anesmwythodd neu hyd yn oed poen emosiynol i ysgogi sôn am brofiad mor drawmatig.

Strwythur y CyfweliadauCyfweliadau lled-strwythuredig bu'r rhain. Pe bawn i yn cynnaly prosiect ymchwil hwn eto buaswn i yn ymdrechu i ychwanegu rhagor o gwestiynau agored ar gychwyn ac ar ddiwedd y cyfweliadau, gan fy mod yn teimlo yr oedd nifer lawr o’r cwestiynau yn rhai “ie” a “na” a bod dechrau fel hyn wedi gosod naws caeedig i’r cyfweliadau o’r cychwyn. Wedi dweud hynfe wnaeth nifer o’r cyfwelai gynnig atebion llawn, disgrifiadol a dadansoddol ar adegau.

Cafodd y cyfwelai'r opsiwn o ateb y cwestiynau drwy gyfweliad neu drwy lenwi holiadur.

AnhysbysdodSicrheir anhysbysrwydd pob unigolyn a gymerodd rhan yn y prosiect ymchwil hwn drwy beidio datgelu eu henwau wrth gyfeirio atynt yn y testun yma. Yn ogystal â hyn osgoir cyfeirio at union fanylion y trosedd/au honedig y cysylltwyd â’r unigolyn. Os sonnir am y manylion hyn byddwn yn gwneud hynny yn ar raddfa gyffredinol.

CyfyngiadauAm nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith mai nifer fechan o bobl sydd yn cwyno ym maes cyfiawnder, a hefyd am resymau cadwcyfrinachedd; penderfynwyd y buaswn yn defnyddio fy nghysylltiadau personol er mwyn canfod sampl o bobl i’w cyfweld ar gyfer y prosiect. Gan hyn ei anfanteision a chyfyngiadau oherwydd gall arwain at sampl nad yw’n gynrychioladol.

15

Enghraifft o hyn, wrth ystyried y cyfweliadau gyda phobl a gafodd eu harestio, yr oedd y mwyafrif llethol wedi cael eu harestio yn ne ddwyrain Cymru. Yn ôl rhai o’r adroddiadau o’r hyn a ddoth i’r amlwg o’r cyfweliadau, mae lleoliad y ddalfa yng Nghymru yn un ffactor sydd yn medru dylanwadu ar ddarpariaeth y Gymraeg.40 41 Mae’r dystiolaeth felly wegi ei gyfaddawdu mewn un modd gan nad oes nifer cyfartal o gyfwelai o bob rhan o Gymru.

Yn ogystal â hyn gallasai’r ffaith mai fy nghysylltiadau personol oedd pawb o’r sampl olygu y gall y math o drosedd y cawsant nhw eu harestio/carcharau amdano ddylanwadu ar y posibiliad eu bod yn gweld yr iaith fel mater ‘gwleidyddol’ aipeidio. Er bod rhai o’r cyfwelai wedi cael eu harestio am droseddau yn gysylltiedig â chyffuriau a difrod troseddol, yr oedd nifer fawr ohonynt (llawer mwy na yn y boblogaeth yn gyffredinol) yn ymgyrchwyr ac wedi cael eu harestio yn sgil gweithredu uniongyrchol neu mewn gwrthdystiadau.

Cydnabyddaf fod cyfyngiadau i’r darn o waith ymchwil hyn, ond credaf fod profiadau'r cyfwelai o ran eu profiad o ddarpariaeth y Gymraeg yn y ddalfa dal yn ddilys ag yn medru datgelu llawer i ni ynghylch y pwnc. Er nad yw’r sampl yn gwblgynrychioladol, o ran adnoddau ac amser oedd ar gael i gwblhau’r prosiect, credaf dyma’r unig lwybr oedd yn agored i mi mewn maes mor sensitif.

CodioFe wnes i godio yn ôl themâu yn y prosiect ymchwil hwn. Bu’r codio yn berthnasol gyda’r ymchwil llenyddiaeth blaenorol yn y

40 Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs of Welsh SpeakingYoung People in Custody’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 44, no 4. tt.374–386 t.384

41 The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice in Wales:Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The Howard League for PenalReform t.17

16

maes. I raddau helaeth adlewyrcha y llenyddiaeth yr hyn a gododd yn y cyfweliadau yn gyffredinol.

Canlyniadau’r Ymchwil

Profiadau pobl yn y ddalfa

Gwybodaeth Feintiol a throsolwgCynhaliwyd saith cyfweliad gydag unigolion am eu profiad o gael eu harestio. Cafodd un ei arestio unwaith yn Aberystwyth,un ei arestio sawl gwaith yng Ngwynedd, un mewn sawl man ar draws Cymru a chafodd y rhelyw eu harestio yn ne ddwyrain Cymru. Cafodd dau eu harestio mewn protestiadau neu wrth weithredu’n ‘wleidyddol’ yn unig, tri eu harestio oeliaf unwaith am weithred wleidyddol ac oeliaf unwaith am weithred nad oedd yn wleidyddol a chafodd tri eu harestio am honedig droseddau nad oeddynt yn wleidyddol.

Yn y cyfweliadau, pan ofynnwyd ‘A ofynnwyd i chi ym mha iaith yr hoffech i’r heddlu ymdrin â chi?’ atebodd pump yn negyddol,un yn bositif, sef y dyn a gafodd ei arestio yng Ngwynedd. Difyr yw’r ffaith bod hyn yn awgrymu bod gwahaniaeth mewn darpariaeth Gymraeg yn dibynnu ar ble mae’r orsaf heddlu.

Wrth ofyn y cwestiwn ‘Oedd y ffurflenni bu angen i chi eu llenwi ar gael yn Gymraeg?’, atebodd tri yn negyddol a thri ynbositif, gydag un yn ateb ‘Weithie’ a bod hyn yn dibynnu ar baorsaf heddlu oedd yn cael ei ddal ynddo. Yr oedd yr atebion positif gan y sawl a chafodd eu harestio yng Ngwynedd ac Aberystwyth. Yr oedd yr ateb ‘Weithie’ gan yr unigolyn a chafodd ei arestio mewn sawl man yng Nghymru. Mae hyn eto yn awgrymu nad oes darpariaeth Cymraeg cyson ar draws Cymru.

Wrth ateb y cwestiwn ‘A chawsoch chi’r cynnig o gael eich cyfweliad yn Gymraeg?’, atebodd pum cyfwelai yn negyddol, gydag un ateb positif gan yr unigolyn a chafodd ei arestio yn Aberystwyth. Nid oedd yr unigolyn a chafodd ei arestio yng Ngwynedd yn cofio os gafodd gynnig yn y sefyllfa hon. Eto

17

fyth, fe ymddengys fod patrwm cadarn bod lleoliad y ddalfa a darpariaeth Gymraeg yn cyd-berthnasu.

Atebodd pob un a gafodd cyfweliad yn y Gymraeg bod Cymraeg yr heddlu o safon dderbyniol. Ni sonia unrhyw un unrhyw beth ynghylch gor-ffurfioldeb y Gymraeg fel oeddwn i’n disgwyl ar ôl darllen y llenyddiaeth gefndirol.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Os gwnaethoch chi ysgrifennu datganiad, a chawsoch yr opsiwn o wneud hynny yn Gymraeg?’, atebodd un ynbositif (y dyn a chafodd ei arestio yn y de ddwyrain) atebodd tri yn negyddol. Nid oedd dau gyfwelai yn cofio, ac yr oedd y cwestiwn yn amherthnasol i un na ysgrifennodd datganiad o gwbl.

O ran y cwestiwn a yw gofyn am wasanaeth Cymraeg yn fantais neu anfantais, atebodd 5 ei fod yn anfantais ac atebodd y ddaua chafodd eu harestio yn Aberystwyth a Gwynedd bod defnyddio’rGymraeg yn fantais yn y sefyllfa hynny. Be sy’n ddifyr yw er bod y dyn a gafodd ei arestio yng Ngwynedd yn credu bod defnyddio’r Gymraeg yn fantais gan ei iaith gyntaf ef ydi o, ni ddefnyddiodd y Gymraeg yn y ddalfa ei hunain.

Camwahaniaethu ar sail IaithWrth ateb cwestiwn ynglŷn ag os oedd gofyn am wasanaeth yn Gymraeg fantais neu anfantais, atebodd cyfwelai C1 ei fod yn;

Anfantais achos fel arfer oeddwn i gorfod aros lot hirachi gael cyfweliad... achos unai bo nhw methu ffeindio... person i neud y cyfweliad neu bo nhw yn fwriadol yn cosbifi.

Mae’r geiriau allweddol yma, “...fwriadol yn cosbi fi” yn awgrymu bod y cyfwelai yn teimlo bod yr heddlu ac awdurdodau yn camwahaniaethu yn ei erbyn ac yn elyniaethus tuag ato gan iddo ddewis defnyddio’r Gymraeg. Os mae unigolyn yn teimlo bodsiawns caiff ei gosbi am ofyn am wasanaeth yn Gymraeg, yn amlwg y mae hyn yn rhwystr enfawr.

18

Fe wnaeth cyfwelai C7 sôn am brofiad o gael ei fygwth yn uniongyrchol gan yr Heddlu am ofyn am wasanaeth Cymraeg;

...ches i fy mygwth gydag arestiad ychwanegol am wastraffi amser yr heddlu, wnes i gwyn swyddogol ond ffeindiodd ymchwiliad yr heddlu nad oedd unrhyw swyddog wedi wneud dim o’i le. Roedd mynnu gwasanaeth Cymraeg bendant wedi achosi problemau o ran yr amser i ymdrin a fi ac agwedd bygythiol y swyddogion tuag ataf.

Parodd y profiad hwn i gyfwelai C7 deimlo ‘pryder ac ofn’ yng ngeiriau ei hunain, nid yw hyn fawr o syndod wrth gwrs gan i’wofnau gael eu gwireddu;

Ofn o gael fy ngham-drin gan y swyddogion (mi wnaeth hwn digwydd ar lafar ac yn yr amser cymeron nhw i brosesu fi).

Mae’n glir fod ymddygiad yr heddlu yn gwbl annerbyniol yn y sefyllfa hon. Mae’n rhyfedd o beth na wnaeth ymchwiliad yr heddlu gydnabod hyn. Ni all fod unrhyw gydraddoldeb ieithyddoltra bo heddlu yn camwahaniaethu ac yn elyniaethus tuag at y sawl sydd yn dewis mynd trwy’r broses yn Gymraeg. Mae’r fath ymddygiad yn sicr o olygu bydd pobl yn ddihyder neu ofn hyd ynoed defnyddio’r Gymraeg yn y cyd-destun hwn.

Diffyg cynnig iaith ragweithiolMae diffyg cynnig rhagweithiol yn thema gyson, a gwyd yn y cyfweliadau gyda mwyafrif y cyfwelai;

C1: rhaid gofyn am gyfweliad yn y Gymraeg a doedd yna ddim cynnig o flaen llaw... fi oedd gorfod gwneud yn siŵrbod yna un..

C3: Sai’n cofio nhw’n cynnig fo [dewis iaith Cymraeg]...

C7: Ces i gyfweliad yn y Gymraeg gan i mi fynnu un.

C2: Dwi’n meddwl bod bob dim penodol yn Saesneg a mae’r opsiwn o Gymraeg yn dod yn ail.

C3: ... nes nhw ddim dweud unrhyw beth wrth fi am danna fo [opsiwn iaith Gymraeg]...

19

Dydi’r enghreifftiau hyn o ddiffyg cynnig rhagweithiol ddim ynunrhyw syndod ar ôl adolygu’r testunau ymchwil yn y maes eisoes. Heb gynnig rhagweithiol ni all cydraddoldeb iaith fod.Mae’r arferiad o ateb yn ôl y galw yn ddull aneffeithiol o rymuso’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a chyfleu cydraddoldebieithyddol.

Israddoldeb y GymraegUn peth a gododd yn gyson drwy gydol y cyfweliadau oedd y ffaith bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel iaith israddol gan yr Heddlu yn y ddalfa. Gair a gaiff ei hailadrodd sawl gwaith yn y cyfweliadau yw ‘second-class’ (C1 a C6) a bod y Gymraeg yn ‘dod yn ail’ (C2).

Y cwestiwn allweddol yma oedd “Sut mae darpariaeth Gymraeg neu’r diffyg darpariaeth Cymraeg yn gwneud i chi deimlo?”. Yr oedd yr atebion canlynol yn mynegi’r ymdeimlad o israddoldeb daiff yn sgil diffyg darpariaeth Cymraeg mewn dalfeydd;

C7:Yn israddol.

C1: Yn y sefyllfaoedd lle mae diffyg Cymraeg dwi’n cael yteimlad bod fi yn bod yn awkward a bo nhw yn neud fi deimlo fel bo fi’n second class citizen.

C6: ... Fod yr iaith Gymraeg ddim yn priority i’r... yn ycriminal justice system a i fi mae’n gweud rhywbeth am sefyllfa’r iaith ... os dyw e ddim ar gael mewn rhywbeth felna i fi mae’n dangos ie, ti’n gwbo..bod y Gymraeg yn second class language.

C3: Well mae bach yn cach rili, mae’n... ddyle popeth fodar gael yn Gymraeg...

Mae’r naws yma o’r Gymraeg yn dod yn ail yn sicr o effeithio hyder honedig droseddwyr wrth iddynt wneud eu dewis iaith. Sutall unigolyn fod yn hyderus wrth ddewis yr opsiwn Cymraeg os mae’r sefydliad yn dibrisio’r iaith gyda’i hagwedd? Credaf fodhyn yn rhwystr arall i bobl defnyddio’r iaith Gymraeg yn y ddalfa.

20

Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg - OediMater a gododd sawl gwaith (mewn 4 o’r 7 cyfweliadau) oedd y syniad bod gofyn am/dewis mynd trwy’r broses o gael dy arestiotrwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu bydd rhaid i ti oedi yn y ddalfa yn hirach na petait yn dewis mynd trwy broses yn Saesneg. Mae hyn yn arwydd o ddiffyg cydraddoldeb o ran safon gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ni ddylai unrhyw un orfod aros dan glo oherwydd eu bod eisiau defnyddio’r Gymraeg, ond dyma sydd i weld yn digwydd. Nid yn unig yw hyn yn rhywbeth yna sylwi arno ond mae’n rhywbeth y mae’r Heddlu eu hunain yn cyfaddef (C7).

C1: ... fel arfer oeddwn i gorfod aros lot hirach i gael cyfweliad [os ydyw yn gofyn am wasanaeth Cymraeg]...

C4: ... os ti eisiau neud y pethau yn Gymraeg mae’n rhaidi ti aros yn hirach felly efallai ti’n aros yn y carchar am y penwythnos a ddim yn cael dy prosesio tan fore llun gan bod neb ar gael i wneud cyfweliad yn Gymraeg.

C6: ... oherwydd y pethau ddim yna a rhaid i nhw fynd mas, mynd i paratoi nhw a bebynnag.. falle gofyn am pethau yn Gymraeg, ti gwbo neud y datganiad a neud y ffurleni a hawliau ti ... mae’n gwneud y proses yn hirach.

C7: Roedd yn rhaid aros yn llawer hirach (chwedl swyddog y dalfa ei hun) am i mi eisiau cyfweliad yn Gymraeg.

Wrth gwrs, mae gwybod bod dewis mynd trwy’r broses o gael dy arestio yn Gymraeg am olygu dy fod am gael dy ddal am amser hwy na fuaset petait yn mynd drwy’r broses yn Saesneg yn amlwgam ddylanwadu ar ddewis iaith unigolyn. Mae’r driniaeth israddol hyn o’r Gymraeg hefyd yn siŵr o olygu fod gan y person a gafodd eu harestio llai o hyder yng nghymhwyster yr heddlu i fedru darparu gwasanaeth cystal yn Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ogystal a hyn ystyrir yr agwedd ymarferol, os oes gan yr honedig droseddwr blant, neu swydd, i fynd iddi neu hyd yn oed

21

yn gyffredinol yn unig bydd yr unigolyn yn siŵr o ddewis y dewis iaith a fydd yn sicrhau y byddent yn cael eu gadael allan o’r ddalfa mor fuan a phosib. Mae’r ffaith y bydd oedi yn y ddalfa o ganlyniad o ddewis yr opsiwn Gymraeg yn sicr o fod yn rwystr rhag defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfa hyn i unrhyw un sydd eisiau cael eu rhyddhau mor fuan a phosib, sef mwyafrif os nad yr holl boblogaeth byddwn i’n tybio.

Lleoliad y ddalfa a’r ddarpariaeth CymraegMae lleoliad y ddalfa yn dylanwadu ar y ddarpariaeth Gymraeg (a safon y ddarpariaeth) sydd ar gael, fe ymddengys o’r cyfweliadau. Fe wnaeth cyfwelai C1 fynegi hyn yn uniongyrchol sawl tro yn ystod y cyfweliad fel person sydd wedi cael ei arestio mewn sawl lle ar draws Cymru;

... mae’n dibynnu ar lle dwi yn y ddalfa...

Mae’n ddifyr wrth ystyried cynnwys cyfweliadau a ble cafodd yrunigolion eu harestio, daiff patrwm i’r golwg sydd yn adlewyrchu hyn. Yn y gogledd a’r gorllewin, mae’r ddarpariaethCymraeg yn y dalfeydd yn gyffredinol yn well na’r ddarpariaethGymraeg yn y de ddwyrain.

Er enghraifft cafodd cyfwelai C2 a gafodd ei arestio sawl gwaith yng Ngwynedd cynnig dewis iaith a darparwyd ffurflenni dwyieithog iddo. Cafodd Cyfwelai C5 a gafodd ei arestio yn Aberystwyth hefyd ddarpariaeth Gymraeg gweddol dderbyniol gydachynnig cyfweliad yn y Gymraeg.

Yn y ddalfa yn Aberystwyth cefais driniaeth cyfartal yn Gymraeg.(C5)

I’r rhai a gafodd eu harestio yn y de ddwyrain yn unig, bu cryn ddiffyg darpariaeth Gymraeg. Enghraifft o hyn yw yn yr hyn a ddwedai cyfwelai C6;

... Os ti am gael popeth yn Gymraeg, yn enwedig yn de Cymru does yna ddim .... yn y llefydd fi di bod i cael fyarestio.

22

Yr oedd rhelyw'r cyfwelai wedi eu harestio yn y de ddwyrain acyr oedd diffyg darpariaeth Gymraeg yn thema gyson a oedd yn godi rhyngddynt. Mae’r ffaith nad oes darpariaeth Cymraeg cyson mewn dalfeydd ar draws Cymru eto yn awgrymu israddoldeb y Gymraeg a gall beri dryswch a diffyg hyder i’r sawl sydd yn mynd drwy’r broses o gael eu harestio. Gall hyn gyfrannu at ddiffyg defnyddio’r Gymraeg.

Teimladau o ddicter a rhwystredigaethO ganlyniad i ddiffyg darpariaeth ac i ansawdd isel darpariaeth Gymraeg mewn dalfeydd, daiff teimladau o rwystredigaeth a dicter i’r wyneb gan y cyfwelai. Dyma atebioni’r cwestiwn ynglŷn â “Sut mae darpariaeth Gymraeg yn gwneud ichi deimlo?”.

C3: Well mae bach yn cach rili ... ddyle popeth fod ar gael yn Gymraeg ond fel ti ddim yn gallu disgwyl nhw trinti’n dda ym mha bynnag iaith ti’n siarad i ddweud y gwir..

C4: Mae’n grac. Wy’n byw yn Nghymru a mae’n rhaid i bobl gael cyfle i wneud cyfweliad yn iaith cyntaf nhw. Yn yr iaith Cymraeg.

C5: Dyw darpariaeth dda o'r Gymraeg ddim yn gwneud i mi teimlo'n well - dylse darpariaeth Gymraeg fod yn normal. Ond mae gweld diffyg darpariaeth yn fy siomi a fy ngwneudyn ddig.

Dengys hyn anfodolondeb sylweddol gyda’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael mewn dalfeydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Llyfr PACE ddim ar gael yn y GymraegUn peth diddorol a gododd yn annisgwyl yn y cyfweliadau oedd yffaith gwnaeth tri o’r cyfwelai gyfeirio at ddiffyg darpariaeth y llyfr PACE yn Gymraeg;

C1: ...darpariaeth PACE ddim ar gael sef llyfr mawr hawliau carcharorion yn y ddalfa...

23

C3: Na... fel y llyfr nhw’n rhoid ti, ti’n gallu cael y llyfr yna yn y celloedd.. hwnna mond ar gael yn Saesneg...

C6: ...hawliau ti... ti’n gwybod y PACE booklet... dim hwna chwaith...

Ni wnes i godi'r cwestiwn yn y cyfweliad gan na wnaeth y llenyddiaeth yn y maes sôn am hyn. Fe wnaeth i’r cyfwelai sôn am hyn o’u gwirfodd. Golygai hyn fod hwn yn agwedd bwysig o ddarpariaeth Cymraeg i’r cyfwelai nad yw’r heddlu wedi ei ddarparu. Yn amlwg mae diffyg y fersiwn Cymraeg o’r llyfryn hwn yn rhwystro’r unigolyn rhag defnyddio’r Gymraeg yn yr agwedd honno.

Profiadau teuluoedd/cyfeillion carcharorion

Gwybodaeth Feintiol a throsolwgCynhaliwyd tri chyfweliad/llenwad holiadur. Wrth i’r cyfwelai ateb y cwestiwn “Wrth i chi drefnu i ymweld â ffrind neu aelodo’ch teulu yn y carchar, a oedd y derbynnydd ar y ffôn yn cynnig opsiwn o siarad yn Gymraeg?” atebodd y 3 yn negyddol. Yna, wrth iddynt ateb y cwestiwn “Wrth i chi fod mewn cysylltiad gyda heddlu a swyddogion y carchar, ydych chi yn cael cynnig i ddefnyddio’r Gymraeg?” eto, atebodd y 3 cyfwelaiyn negyddol. Ni chafodd unrhyw un o’r tri eu hatal yn weithredol rhag siarad Cymraeg gyda’r carcharor ar y ffon neu wrth ymweld â’r carcharor. O ran y cwestiwn “Ydych chi’n teimlo fod defnyddio’r Gymraeg yn fantais neu anfantais i chi yn y sefyllfa hon o fod gyda ffrind neu aelod o’ch teulu yn y carchar o gwbl?” Dywedodd 2 ei fod yn anfantais a ni atebodd un cyfwelai'r cwestiwn hwn o gwbl.

Ceir felly portread eithaf llwm o ddarpariaeth Cymraeg yn y sefyllfa hon. Er i neb gael eu hatal yn weithredol rhag defnyddio’r Gymraeg fel yn y llenyddiaeth gefndirol, ystyriwn fod y ddarpariaeth dal eithaf gwael.

24

Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg – OediWrth ofyn a yw defnyddio’r Gymraeg yn fantais neu’n anfantais i’r sawl sydd yn y sefyllfa o fod gyda ffrind neu aelod o’u teulu yn y carchar, atebodd C9;

Anfantais gan fod e-byst a llythyrau yn cymryd o leiaf diwrnod yn ychwanegol i gyrraedd y carcharor.

Fe ymddengys fod yr un broblem o oedi, a oedd yn codi yn y cyfweliadau gyda’r rheiny oedd wedi cael eu harestio yn dod i’r wyneb yn y cyfweliad yma. Sylwer hefyd bod y darllen cefndirol wedi codi'r mater hwn mewn sawl testun ac adroddiad felly yr oedd yn rhywbeth oeddwn yn ei rhagweld. Eto mae oedi wrth ddewis gwasanaeth Gymraeg o gymharu â petaent wedi dewis yr opsiwn Saesneg yn atgyfnerthu’r syniad o ddiffyg cydraddoldeb ieithyddol. Mae hyn yn rhwystr i ddefnydd y Gymraeg yn y sefyllfa hon.

Diffyg cynnig iaith ac Israddoldeb y Gymraeg Yn achos un o’r cyfwelai (C10), er iddo ymdrechu i ddefnyddio’r Gymraeg wrth drefnu ymweliad a ffrind oedd yn y carchar, yr oedd y gwasanaethau Cymraeg honedig ddim yn bodolimewn gwirionedd;

... yr oedd yr opsiwn Cymraeg yn arwain at rhywun oedd ddim yn deall bod yna opsiwn Cymraeg ... Oedd rhaid i fi ffonio sawl gwaith iddyn nhw wybod fod y Gymraeg yn bodoli dwi’n meddwl.

Yn ei brofiadau (C10) o ymdrechu i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda’r system gyfiawnder tra bod ei gyfaill yn y carchar dywedodd;

Does bron dim byd ar gael yn y Gymraeg.

Mae’n amlwg o hyn bod cynnig opsiwn Gymraeg nemor ddim yn bodoli yn y carchardai i deuluoedd a ffrindiau'r rhain sydd yny carchar. Heb sôn am gynnig rhagweithiol na chynnig o safon isel hyd yn oed. Awgryma cyfwelai C8 bod hyn yn ganlyniad i’r llinell ganolog fod wedi ei leoli ym Mirmingham. Yn amlwg mae

25

hyn yn rhwystr i’r unigolion hyn rhag defnyddio’r Gymraeg wrthiddynt ddod mewn cysylltiad gyda maes gyfiawnder.

Teimladau o ddicter, ofn a rhwystredigaethMae’r diffyg gwasanaeth Gymraeg yn medru peri straen a dicter i’r defnyddwyr, wrth ofyn i gyfwelai C10 ynghylch sut y mae'r diffyg darpariaeth yn ei wneud i deimlo dywedodd;

Grac ond hefyd ‘ma fe bron yn chwerthinllyd, well base fe’n ddoniol tase fe ddim mor ddifrifol, ‘ma fe jest yn... dwi ddim yn siŵr.. ‘ma carchardai gymaint yn waeth na gwasanaethau cyhoeddus eraill...jest o ran eu hymwybyddiaeth mwy na dim o’m mhrofiad i...

Mae’r sefyllfa o fod gyda pherthnasau a ffrindiau yn y carcharsydd yn un sydd yn peri straen emosiynol ta waeth. O gymharu âmaterion fel poeni am les yr unigolyn yn y carchar, y mae'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer y teulu a’r ffrindiau eu hunain yn fater gymharol ddibwys yn ôl cyfwelai C8;

Mae issues eraill mwy difrifol yn poeni perthnasau [carcharorion].

Mae’r ffaith bod materion ‘mwy difrifol’ (C8) gan deulu a chyfeillion y carcharor i boeni am yn arwydd bod y system gyfiawnder yn peri straen i’r bobl yma a bod y problemau mor niferus y mae darpariaeth Gymraeg dim ond un mater ymysg nifero rai eraill.

Awgrymiadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth GymraegYn ystod y cyfweliadau yn, cynigodd y cyfwelai rhai argymhellion ar gyfer gwella’r ddarpariaeth Gymraeg. CynigoddC10 bod diffyg ymwybyddiaeth ieithyddol yn y system garchardaigan fod dim datganoli. Awgryma felly y buasai datganoli yn gwella’r sefyllfa.

...‘ma carchardai gymaint yn waeth na gwasanaethau cyhoeddus eraill...jest o ran eu hymwybyddiaeth mwy na dim o’m mhrofiad i.. does dim math o ddatganoli, dwi’n meddwl bo hynny yn effeithio ar y peth yn ddirfawr.

26

Awgrymodd tad un carcharor (C9) y buasai darpariaeth Gymraeg yn gwella pe bai swyddog iaith Gymraeg ymhob carchar y mae pobl Cymru yn cael eu dal ynddo;

Dylai fod un swyddog Cymraeg o leiaf fod ar gael yn y carchar.

Mae’n ddifyr bod yr unigolion hyn wedi cynnig atebion o’u gwirfodd eu hunain gan nes i ddim gofyn cwestiwn ynghylch be all wella’r ddarpariaeth Gymraeg mewn carchardai. Awgryma hyn ymdeimlad y gall llawer cael ei wneud er wyn gwella’r sefyllfa.

Profiadau Carcharor

Gwybodaeth Feintiol a throsolwgDim ond un ymateb i’r holiadur a fu gan ddyn a wnaeth dreulio dwy gyfnod mewn carchardai yn ne Cymru. Mynegodd nad oedd dim opsiwn o fyw drwy gyfrwng y Gymraeg yn y carchar o gwbl, dywedodd nad oedd gwersi Cymraeg nac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y carchar na unrhyw gylchgronau na phapurau, na radio Cymraeg. Dim ond un neu ddau o aelodau staff oedd yn medru’r Gymraeg ac nid oedd nemor dim o’r gwaith papur ar gaelyn Gymraeg. Ni chreda’r unigolyn fod digon o ddarpariaeth Gymraeg yn y carchar o gwbl.

Camwahaniaethu ar sail IaithFe wnaeth y carcharor yma brofi sawl achos o gamwahaniaethu arsail iaith yn ystod ei gyfnod yn y carchar;

H: Be ydi eich profiad dydd i ddydd o iaith yn y carchar?Ydych yn teimlo eich bod gyda’r opsiwn o fyw drwy gyfrwngy Gymraeg pe byddech yn dewis hynny?

C7: Ddim o gwbl. Roeddwn yn cael fy ystyried yn wneuthurwr trafferth am son am y Gymraeg ac am ofyn am unrhyw beth yn y Gymraeg. Doedd dim presenoldeb i’r Gymraeg yn y carchar bron o gwbl, nac ychwaith unrhyw arwydd fod croeso i’r Gymraeg yna. Roedd agwedd y swyddogion unwaith i mi ofyn am bethau yn Gymraeg yn

27

ffiaidd. Ces i ddim ymwelwyr, credit ffon, dewis bwyd, gym, tan i’r comisiynydd a’r cyfryngau ymyrryd.

H: Sut mae darpariaeth Gymraeg neu’r diffyg darpariaeth Cymraeg yn gwneud i chi deimlo?

C7: Ofn y swyddogion, bygythiadau a rhegiadau am mynnu pethau yn y Gymraeg. Ofn y carcharorwyr eraill, rhag iddyn nhw cymryd yn erbyn fi am greu stŵr ambyti’r Gymraeg.

Mae’n amlwg fod y modd cafodd cyfwelai C7 ei drin tra oedd yn y carchar yn sicr yn rhwystr rhag defnyddio’r Gymraeg yn y cyd-destun yma. Fel arfer pur debyg buasai carcharor efallai heb ddyfalbarhau yn yr un modd, er iddo gael ei fygwth gan staff y carchar. Fe ymddengys bod problem ymwybyddiaeth ddifrifol a dylai camau gael ei chymryd i newid hyn ar fyrder.Mae digon problematig os oes diffyg darpariaeth Gymraeg heb sôn am bobl cael eu camwahaniaethu yn eu herbyn am ofyn am wasanaeth Gymraeg.

Rhan 3

CasgliadAr y cyfan yr oedd y themâu a gododd yn yr llenyddiaeth cefndirol yn debyg ac yr oedd y llenyddiaeth wedi rhagweld yr hyn a goda yn y cyfweliadau, dyma’r themâu a goda o’r llenyddiaeth cefndirol;

Diffyg cofnodi a chasglu data Diffyg cynnig dewis iaith ragweithiol Diffyg Carchardai yng Nghymru Oedi o ganlyniad i ddewis yr opsiwn Gymraeg Bwlio, Ofn, Camwahaniaethu a chael dy gosbi am

ddefnyddio’r Gymraeg Ffurfioldeb y Gymraeg Pobl yn cael eu hatal rhag defnyddio’r Gymraeg yn

weithredol

28

Wrth ystyried teulu a ffrindiau pobl sydd yn y carchar, does nemor dim llenyddiaeth yn y maes ynghylch eu profiadau ieithyddol wrth ddelio gyda maes cyfiawnder a charchardai. Yr oedd y cyfweliadau hefyd yn awgrymu nad oes lawer o ystyriaethwedi ei roi i’r maes yma, gan nad oedd unrhyw wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn cael eu darparu, er i’r llinell ffon er enghraifft honni ei bod yn cynnig y fath ddewis yn rhagweithiol er nad oedd yna. Y mae’r maes yma yn haeddu rhagor o sylw. Dyma’r themâu a choda’n gyson yn y cyfweliadau ynghylch y rhwystrau rhag defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfa yma;

Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg – Oedi Diffyg cynnig iaith ac Israddoldeb y Gymraeg Teimladau o ddicter, ofn a rhwystredigaeth

Wrth ystyried profiadau ieithyddol carcharorion, mae nifer o adroddiadau a thestunau yn ymchwilio i hyn. Dim ond un cyd-garcharor gytunodd i gael ei gyfweld felly gobeithiaf fod y ffaith fy mod wedi ystyried y llenyddiaeth sydd ar gael yn y maes yn gallu rhoi darlun mwy cyflawn i mi gan y bu diffyg cyfweliadau.

O bosib fydd pethau yn newid yn y maes yma, gyda dyfodiad y carchar i ddynion yng ngogledd Cymru yn ogystal â datganoli maes cyfiawnder a charchardai yn dod fwyfwy tebygol wedi Comisiwn Silk. Y themâu cyffredinol a gododd rhan amlaf oedd ycanlynol

Camwahaniaethu ar sail iaith

Mae llai o lenyddiaeth ynghylch honedig droseddwyr yn y ddalfaar gael er bod rhai enghreifftiau fel gwaith Madoc-Jones ac adroddiad Cwmni Iaith, ond dyma’r maes ble canfyddai'r nifer uchaf o bobl a oedd yn barod i gael eu cyfweld. Canlyniad y cyfweliadau oedd darganfod bod lleoliad y ddalfa yn ffactor bwysig a bennai pentai caiff yr honedig droseddwyr dewis Cymraeg ai peidio. Darganfyddai hefyd fod themâu cyson yn codi

29

fel rhwystrau sydd yn atal y honedig droseddwr rhag defnyddio’r Gymraeg. Dyma’r themâu:

Camwahaniaethu ar sail Iaith Diffyg cynnig iaith ragweithiol Israddoldeb y Gymraeg Diffyg Ansawdd Gwasanaeth Cymraeg - Oedi Lleoliad y ddalfa a’r ddarpariaeth Cymraeg Teimladau o ddicter a rhwystredigaeth Llyfr PACE ddim ar gael yn y Gymraeg

Sylwer unwaith eto mor aml y mae yr un themâu yn codi ac yn cysylltu gyda’r hyn a gododd yn y llenyddiaeth cefndirol.

Ar y cyfan fe wnaeth yr adolygiad llenyddol ddod i ganlyniadautebyg iawn i’r cyfweliadau ynghylch yr hyn sydd yn rhwystro pobl rhag defnyddio’r Gymraeg wrth iddynt ddod i gyswllt gyda’r system gyfiawnder. Bu gwahaniaeth wrth ystyried y modd yr oedd y llenyddiaeth gefndirol yn awgrymu y byddai honedig droseddwyr yn teimlo ynghylch a’r cywair ffurfiol a ddefnyddia’r heddlu mewn dalfeydd. Ni chafodd canfyddiadau gwaith Huws42 eu hadlewyrchu yn y cyfweliadau. Gall hyn fod am nifer o resymau, ond ni allaf gynnig rhesymau heb gor-gyffredinoli.

ArgymhellionYn sgil y prosiect ymchwil hwn, cynigaf yr argymhellion hyn a buasai fwy tebygol o sicrhau bod y rhwystrau hyn sydd yn wynebu siaradwyr Cymraeg wrth ddod i gysylltiad ag agweddau o’r system gyfiawnder

Carchardai bychan, lleol i gymunedau'r honedig droseddwyr Datganoli Yn sgil datganoli, un penderfyniad arwyddocaol gellid

Llywodraeth Cymru ei wneud yw peidio defnyddio’r carchar

42 Huws, Ff. (2007) ‘Iaith y Nefoedd a Iaith y Llysoedd’ Cambrian Law Review,38,

30

fel cosb neu ddull i ddiwygio pobl, mwy o weithio gyda’r gymuned

Swyddogion Iaith mewn carchardai Casglu a chofnodi data gwell gan yr heddlu pan fu pobol

yn dod mewn i gyswllt gyda’r system gyfiawnder am y tro cyntaf a bod y wybodaeth hyn yn cael ei rannu gyda’r sawlsydd yn berthnasol drwy gydol eu profiad o fod yn y system gyfiaender.

Grŵp cefnogi carcharorion Cymraeg ym mhob carchar ble maehynny’n bosib.

31

LlyfryddiaethBBC News 2014 Silk says no urgency to devolve policing and youth justice toWales [Arlein]. Ar gael yn: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-26619262 [Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014]

Cwmni Iaith (2008) ‘Y ddarpariaeth o ran dewis iaith yn SectorCyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru’. Castellnewydd Emlyn:Cwmni Iaith

Denbighshire Free Press (2012) Caernarfon man barred from Welshlanguage prison callshttp://www.denbighshirefreepress.co.uk/news/109799/caernarfon-man-barred-from-welsh-language-prison-calls.aspx [Cyrchwyd arEbrill 30 2014]

Guardian Tales from the inside: drugs and disorder at G4S'sprison of the future (2014)http://www.theguardian.com/society/2014/apr/29/tales-from-inside-oakwood-prison [Cyrchwyd ar Ebrill 30 2014]

House of Commons Welsh Affairs Commttiee (2007) ‘WelshPrisoners in the Prison Estate’ London: The Stationery OfficeLimited

House of Commons Welsh Affairs Committee (2010) ‘Welshprisoners in the prison estate: follow–up’ London: TheStationery Office Limited

Hughes, C. a Madoc-Jones, I. (2005) ‘Meeting the Needs ofWelsh Speaking Young People in Custody’ The Howard Journal ofCriminal Justice, vol 44, no 4. tt. 374–386

32

Hughes, C. Dubberley, S. a Buchanan, J. (2012). ‘Girls fromWales in the Secure Estate: Sent to Coventry?’ Social Policy andSociety, 11, tt. 519-531

Huws, Ff. (2007) ‘Iaith y Nefoedd a Iaith y Llysoedd’ CambrianLaw Review, 38,

Lord Chancellor and the Secretary of State for Justice (2007)‘Welsh Prisoners in the Prison Estate: Government Response tothe Welsh Affairs Committee Report’. London: The StationeryOffice Limited

Morgan, R. (2009) ‘Report to the Welsh Assembly Government onthe question of Devolution of Youth Justice Responsibilities’[Arlein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/publications/youthjustreport/?lang=en[Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2014]

Parry, O. a Madoc-Jones, I. (2013) ‘It’s Always English in theCop Shop’: Accounts of Minority Language Use in the CriminalJustice System in Wales’ The Howard Journal of Criminal Justice, vol 52,no 1. Tt. 91–107

Parry, O. a Madoc-Jones, I. (2012) ‘Damned if you do and damnedif you don’t: language choice in the research interview’International Journal of the Sociology of Language, 215, tt. 165 – 182

The Howard League for Penal Reform (2009) ‘Youth justice inWales: Thinking Beyond the Prison Bars’. London: The HowardLeague for Penal Reform

Wales Online (2014) A super-sized prison is bad news for Wales, warns Plaid Cymru Westminster leader http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/super-sized-prison-bad-news-wales-6886613 Cyrchwyd ar Ebrill 30 2014]

33

34

Atodiad-Y Cyfweliadau

Profiadau pobl yn y ddalfa

Y Cwestiynau1) A ofynnwyd i chi ym mha iaith yr hoffech i’r heddlu

ymdrin â chi?2) Oedd y ffurflenni (forms) bu angen i chi eu llenwi ar

gael yn Gymraeg?3) A chawsoch chi’r cynnig o gael eich cyfweliad yn

Gymraeg?4) Os ie, sut brofiad oedd hynny? Oedd y Gymraeg oeddynt

yn ei ddefnyddio wrth eich cyfweld yn glir a dealladwy?5) Os gwnaethoch ysgrifennu datganiad (statement), a

chawsoch yr opsiwn o wneud hynny yn Gymraeg?6) Os gwnaethoch chi ofyn am wasanaeth yn Gymraeg, ydych

chi’n teimlo oedd gofyn am wasanaeth yn Gymraeg yn fantais neu anfantais i chi?

7) Os gwnaethoch chi dderbyn cynnig o ddefnyddio’r Gymraeg, ydych chi’n teimlo bod derbyn y cynnig o ddefnyddio’r Gymraeg yn fantais neu anfantais i chi?

8) Os na wnaethoch chi dderbyn y cynnig i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gael eich arestio ac yn y ddalfa, beth oedd y rhesymau dros hyn?

9) Ydych chi’n credu fod digon ar gael i chi yn Gymraeg fel rhywun sydd wedi cael eu harestio?

10) Sut mae darpariaeth Gymraeg neu’r diffyg darpariaethCymraeg yn gwneud i chi deimlo?

Cyfweliad gyda C11) Um..... Ddim y tro diwetha ond dwi ddim yn siŵr am yr

amseroedd cynt, dwi ddim yn meddwl..2) Weithie.. dibynnu ar lle lle oni’n cael fy rhoi yn y

ddalfa... a weithie ddim.

35

3) Um... Fel arfer rhaid gofyn am gyfweliad yn y Gymraeg adoedd yna ddim cynnig o flaen llaw... fi oedd gorfod gwneud yn siŵr bod yna un..

4) Unwaith eto yn dibynnu ar lle oeddwn i yn y ddalfa... umm.. ond dwi’n meddwl oedd y Gymraeg o safon derbyniol.

4) Um...dwi’m yn cofio...

6) Anfantais achos fel arfer oeddwn i gorfod aros lot hirach i gael cyfweliad... achos unai bo nhw methu ffeindio... person i neud y cyfweliad neu bo nhw yn fwriadol yn cosbi fi.

7) AMH

8) Fel arfer pan oeddwn i’n gofyn fel.. i fy nelio gyda yn Gymraeg oedd...dim bob tro ... yr ymateb fel arfer oedd bydd rhaid i chi aros yn hirach i gael eich delio efo yn Gymraeg felly os chi eisiau mynd allan yn gynt mae’n haws ei wneud yn Saesneg.

9) Eto mae’n dibynnu ar lle dwi yn y ddalfa ond yn sicr dyw darpariaeth pase ddim ar gael sef llyfr mawr hawliau carcharorion yn y ddalfa a yn eto yn dibynnu aryr orsaf heddlu..

10) Yn y sefyllfaoedd lle mae diffyg Cymraeg dwi’n cael yteimlad bod fi yn bod yn awkward a bo nhw yn neud fi deimlo fel bo fi’n second class citizen.

Cyfweliad gyda C21) Do.. Geshi.. Um.. do.

2) Oedd, nes i ofyn amdanyn nhw yn Gymraeg.

3) Dwi’m yn cofio’n iawn ond dwi’n siŵr nes i neud o yn Saesneg.

4) AMH

36

5) Dwi’m yn cofio.

6) Oh swni’n deud bod o’n fantais. [PAM?] Achos hwna ydi iaith cyntaf fi.

7) AMH

8) Nesi ddewis solicitor Cymraeg ond oedd pob dim wedi ei‘sgwennu’n Saesneg. Um.. Dwi’m yn cofio os nes i ddewisar y pryd i neud o’n Saesneg yn hytrach na Cymraeg.. iadwi’m yn cofio pam.

9) Dwi’n meddwl bod bob dim penodol yn Saesneg a mae’r opsiwn o Gymraeg yn dod yn ail.

10) Mae’n neud fi deimlo’n dda fod o ar gael.

Cyfweliad gyda C31) Na nath nhw ddim... dwi’n credu.

2) Dwin credu, dwi’n credu oeddyn nhw yn ddwyieithog – argael yn ddwyieithoeg.

3) Na, nes i ddim cael cynnig...

4) AMH

5) Na nes i ysgrifennu datganiad ond oedd e’n Saesneg oedd nhw ddim yn dweud unrhyw beth am Gymraeg pan wnes i gwneud e.

6) Sai’n wir yn siŵr.. Oedd fy.... oedd nhw yn siarad Saesneg felly efallai bydde fe yn anfantais, oherwydd byddyn nhw angen ffeindio un sydd yn siarad Cymraeg.. ie.. felly dwi’n credu falle fydd hynny’n anfanteisiol.

7) AMH

8) Y rhesymau? Sai’n siŵr...um [NATH NHW CYNNIG FO?] Sai’ncofio nhw’n cynnig fo.. Efallai os bydde fi wedi ofyn ond nes nhw ddim dweud unrhywbeth wrth fi am dana fo a nes i ddweud dim byd am Cymraeg..

37

9) Na... fel y llyfr nhw’n rhoid ti, ti’n gallu cael y llyfr yna yn y celloedd.. hwna mond ar gael yn Saesneg...felly ym, ie, mae’n fwy sy’n gallu bod yn Gymraeg fana.

10) Well mae bach yn cach rili, mae’n... ddyle popeth fodar gael yn Gymraeg ond fel ti ddim yn gallu disgwyl nhwtrin ti’n dda ym mha bynnag iaith ti’n siarad i ddweud y gwir..

Cyfweliad gyda C41) Naddo

2) Naddo

3): Na

4) AMH

5) Naddo

6) Falle mae’n anfantais, achos os ti eisiau neud y pethau yn Gymraeg mae’n rhaid i ti aros yn hirach felly efallai ti’n aros yn y carchar am y penwythnos a ddim yn cael dy prosesio tan fore llun gan bod neb ar gael i wneud cyfweliad yn Gymraeg.

7) AMH

8) AMH

9) Na, na.

10) Mae’n grac. Wy’n byw yn Nghymru a mae’n rhaid i bobl gael cyfle i wneud clyweliad yn iaith cyntaf nhw. Yn yr iaith Cymrâg.

Cyfweliad gyda C51) Na, roedd hi'n amlwg ein bod yn mynnu gwasanaeth

Gymraeg. 2) Oedden. 3) Do.

38

4) Roedd eu Cymraeg yn berffaith iawn, er bu rhaid iddyn nhw ofyn os oedd "Dim sylw" yn golygu "No comment".

5) Wnes i ddim ysgrifennu datganiad. 6) Dwi'n meddwl fuodd o fantais gan wneud i'r heddlu oedd

yn delio gyda fi sylwi taw protest cydwybodol oedd y weithred ac felly ennyn cydymdeimlad.

7) AMH 8) AMH9) Yn y ddalfa yn Aberystwyth cefais driniaeth cyfartal yn

Gymraeg. 10) Dyw darpariaeth dda o'r Gymraeg ddim yn gwneud i mi

teimlo'n well - dylse darpariaeth Gymraeg fod yn normal. Ond mae gweld diffyg darpariaeth yn fy siomi a fy ngwneud yn ddig

Cyfweliad gyda C61) Na.. na

2) Sai’n cofio ond sai’n credu na... oedd popeth o be fi’n cofio yn Saesneg a jest yn Saesneg

3) Na

4) AMH

5) Na

6) Falle anfantais ohwerwydd y pethau ddim yna a rhaid i nhw fynd mas, mynd i paratoi nhw a bebynnag.. falle gofyn am pethau yn Gymraeg, ti gwbo neud y datganiad a neud y ffurleni a hawliau ti... ti’n gwybod y pace booklet... dim hwna chwaith, falle bod o’n.. i fi mae’ncymryd, mae’n gwneud y prosses yn hirach.

7) {Dweud y cwestien eto- cwestiwn yma yn cymryd yn ganiataol gafo chi’r cynnig i wneud pethau yn Gymraeg]

Oedd yna dim cynnig so...

8) AMH

39

9) Oh defniately na... Os ti am gael popeth yn Gymraeg, yn enwedig yn de Cymru does yna ddim .... yn y llefydd fi di bod i cael fy arestio.

10) Yyy.. sut mae’n neud fi teimlo... Fod yr iaith Gymraeg ddim yn priority i’r... yn y criminal justice system a i fi mae’n gweud rhywbeth am sefyllfa’r iaith yn fwy na just... os dyw e ddim ar gael mewn rhywbeth felna i fi mae’n dangos ie, ti’n gwbo..bod y Gymraeg ynsecond class language.

Cyfweliad gyda C71) Na

2) Na

3) Na

4) Ces i gyfweliad yn y Gymraeg gan i mi fynnu un. Roedd yn rhaid aros yn llawer hirach (chwedl swyddog y dalfa eihun) am i mi eisiau cyfweliad yn Gymraeig. Roedd y cyfwelwyr yn siarad Cymraeg yn iawn.

5) Wnes i fe yn Gymraeg yn ystod fy nghyfweliad.

6) Gofynais i am wasanaeth yn Gymraeg un tro a ches i fy mygwth gydag arestiad ychwanegol am wastraffi amser yr heddlu, wnes i gwyn swyddogol ond ffindiodd ymchwiliad yrheddlu nad oedd unrhyw swyddog wedi wneud dim oi le. Roedd mynnu gwasanaeth Cymraeg bendant wedi achosi problemmau o ran yr amser i ydrin a fi ac agwedd bygythiol y swyddogion tuag ataf. Felly anfantais llwyr.

7) Derbyniais i ddim cynnig, a dwi di cael fy arestio tua6 o weithiau yn ol fy nghof.

8) Ddim yn berthnasol.

9) Na

10) Yn israddol. Ond yn fwy na hynny, wnaeth gorfod gofynam wasanaeth Cymraeg achosi pryder ac ofn. Ofn o gael fy nghamdrin gan y swyddogion (mi wnaeth hwn digwydd ar lafar ac yn yr amser cymeron nhw i brosesu fi).

40

Profiadau teuluoedd/cyfeillion carcharorion

Y Cwestiynnau1) Wrth i chi drefnu i ymweld â ffrind neu aelod o’ch teulu

yn y carchar, a oedd y derbynnydd ar y ffôn yn cynnig opsiwn o siarad yn Gymraeg?

2) Wrth i chi fod mewn cysylltiad gyda heddlu a swyddogion ycarchar, ydych chi yn cael cynnig i ddefnyddio’r Gymraeg?

3) Ydych chi neu'r person yn y carchar erioed wedi cael eichatal rhag defnyddio’r Gymraeg dros y ffôn neu wrth fynd iymweld â’r person yn y carchar?

4) Ydych chi’n teimlo fod defnyddio’r Gymraeg yn fantais neuanfantais i chi yn y sefyllfa hon o fod gyda ffrind neu aelod o’ch teulu yn y carchar o gwbl?

5) Ydych chi’n credu fod digon ar gael i chi yn Gymraeg fel rhywun sydd gyda ffrindiau neu deulu yn y carchar?

6) Sut mae darpariaeth Gymraeg neu’r diffyg darpariaeth Cymraeg yn gwneud i chi deimlo?

Cyfweliad C81) Nacoedd. Dim opsiwn rhif e.e.i’w bwyso yn y carchar wedi

dedfryd. Llinell ganolog sefydlog yn Birmingham sydd rwy’n credu yn trefnu’r ymweliadau dros Brydain/Lloegr?

2) Ddim yn arferol pe byddai gennyf anhawster deall ayyb y Saesneg byddwn yn gofyn am ??? I siarad Cymraeg.

3) Naddo dim wyneb yn wyneb na dros y ffon.4) Dim sylw.5) Dim sylw.6) Gan nad oes darpariaeth Gymraeg yn fy sefyllfa i ni allaf

ymateb. Nid ydwi’n nodi anhawsterau i berson all gyfathrebu yn Saesneg. Mae issues eraill mwy difrifol yn poeni perthnasau [carcharorion].

Cyfweliad C91) Nac Oedd

2) Nac Oeddynt

41

3) Na hyd y gwn

4) Anfantais gan fod e-byst a llythyrau yn cymeryd o leiaf diwrnod yn ychwanegol I gyrraedd y carcharor

5) Dylai fod un swyddog Cymraeg o leiaf fod ar gael yn y carchar

5) Dim Sylw

Cyfweliad C101) Nagoedd, esi weld Jamie Bevan y carchar Prescoed mis Awst

2012. Nes i ffonio sawl gwaith. Os cofio’n iawn yr oedd yr opsiwn Cymraeg yn arwain at rhywun oedd ddim yn deall bod yna opsiwn Cymraeg... Ti jest yn holi am y ffon rŵan?[Ie] Oedd rhaid i fi ffonio sawl gwaith iddyn nhw wybod fody Gymraeg yn bodoli dwi’n meddwl.

2) Ymm, na. Dwi’n gallu sôn am profiad o mynd fewn i carchargyda’r teulu i weld Jamie, nid yn unig doedd nhw ddim yn croesawu defnyddio’r Gymraeg ond ... nes i siarad efo rhywun yn y derbynfa yn Gymraeg a os dwi’n cofio’n iawn nath nhw jest edrych arna i yn syn, nes i ofyn am ffurflen achos ‘ma nhw angen llenwi ffurflen ymweld neu rhywbeth ac nes i ofyn am copi Cymraeg a yn gyntaf nathynnhw wadu bod yna copi yn Gymraeg ac wedyn dweud ‘ma na rai ond dydyn nhw ddim gyda nhw.. oedd y teulu mewn sefyllfa lle oedd rhaid iddyn nhw llenwi un Saesneg fewn oherwydd fel arall byddyn nhw methu cynnal yr ymweliad.

3) Ie ar y ddau achlysur fi newydd sôn amdanyn nhw, wel, mwyna un achlysur, hynny yw nes i ffonio lan sawl gwaith doedd dim gwasanaeth Gymraeg i’w gael a pan natho ni ceisio mynd ar ymweliad doedd dim modd cael unrhyw fath owasanaeth Cymraeg. [Ond pan oeddech chi yn siarad ar y Fôn efo Jamie, neu pan oeddech chi yn siarad wyneb yn wyneb yn yr ymweliad nathyn nhw atal chi rhag siarad Cymraeg?] Naddo dim yn y cyd-destun yna, na.

42

4) Wel mae’n anfantais fawr achos ti’n bron yn methu neud dim byd yn Gymraeg yn profiad fi. Dwi wedi ffonio’r heddlu mewn sawl achlysur hefyd a cael trafferth ofnadwy.. os ti’n gwasgu’r opsiwn Cymraeg wrth ffonio’r heddlu, gan amlaf does neb ar gael i siarad Cymraeg gyda chi.

5) Does bron dim byd ar gael yn y Gymraeg. Dwi’n cofio Jamieyn cael trafferth ofnadwy gyda system troseddwyr.. mae tro cael achos llys yn Gymraeg yn her... enfawr achos dwi’n credu oedd rhaid oedi achos llys sawl gwaith oherwydd hynny.. sori i fynd oddi ar y pwynt..

6) Grac ond hefyd ‘ma fe bron yn chwerthinllyd, well base fe’n ddoniol tase fe ddim mor ddifrifol, ‘ma fe jest yn... dwi ddim yn siŵr.. ‘ma carchardai gymaint yn waeth na gwasanaethau cyhoeddus eraill...jest o ran eu ymwybyddiaeth mwy na dim o’m mhrofiad i.. does dim math o datganoli, dwi’n meddwl bo hynny yn effeithio ar y peth yn ddirfawr.

Profiadau Carcharor1) Be ydi eich profiad dydd i ddydd o iaith yn y carchar? Ydych yn teimlo eich bod gyda’r opsiwn o fyw drwy gyfrwng y Gymraeg pe byddech yn dewis hynny?

Ddim o gwbl. Roeddwn yn cael fy ystyried yn wneuthurwr trafferth am son am y Gymraeg ac am ofyn am unrhyw beth yn y Gymraeg. Doedd dim presenoldeb i'r Gymraeg yn y carchar bron o gwbl, nac ychwaith unrhyw arwydd fod croeso i'r Gymraeg yna. Roedd agwedd y swyddogion unwaithi mi ofyn am bethau yn Gymraeg yn ffiaidd. Ces i ddim ymwelwyr, credit ffon, dewis bwyd, gym, tan i'r comisynydd a'r cyfryngau ymyryd.

Ydi’r carchar yn cynnig unrhyw ddosbarthiadau trwy gyfrwng y Gymraeg?

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddarpariaeth Gymraego gwvbl, er i mi ofyn.

Oes y canlynol ar gael yn Gymraeg yn y carchar: Papurau newydd, chylchgronau,S4C, caplan Cymraeg ac arwyddion Cymraeg o amgylch y carchar. Oes unrhyw Gymraeg yng nghylchgrawn cenedlaethol carcharorion ‘Inside Time’? Oes unrhyw Gymraeg i’w glywed ar radio cenedlaethol y carcharorion?

43

Wedi i mi greu ffwdan a symudon nhw fi i garchar arall ces i lyfrau Cymraeg. dim cylchgronnau na phapurau, na radio Cymraeg.

Ydi staff y carchar yn medru siarad Cymraeg?

Un neu ddau, ond nid y staff roeddwn i yn delio gyda ar y'wings'.

Os ydych wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchar, ydyn nhw yn cynnig gwasanaeth Cymraeg?

Ddim yn berthnasol

Ydych chi’n cael cynnig eich holl waith papur a ffurflenni (forms) yn Gymraeg?

Ddim o gwbl, ac er mynnu nhw ni ches i nhw, arwahan i gwpl o sgrapiau A4 wedi cyfieithu tuag at diwedd fy arosiad.

Ydych erioed wedi cael eich atal rhag defnyddio’r Gymraeg ar unrhyw dro yn y carchar?

Do, yn bendant, wrth llofnodi mewn ac wrth gorfod wneud ceisiadau am pethau elfenol megis ymweliadau ac alwadau ffon

Ydych chi’n credu fod digon ar gael i chi yn Gymraeg fel rhywun sydd yn y carchar?

Ddim o gwbl

Sut mae darpariaeth Gymraeg neu’r diffyg darpariaeth Cymraeg yn gwneud i chi deimlo?

Ofn y swyddogion, bygythiadau a rhegiadau am mynnu pethauyn y Gymraeg. Ofn y carcharorwyr eraill, rhag iddyn nhw cymryd yn erbyn fi am greu stwr ambyti'r Gymraeg.

44